Newyddion

Galw ar y diwydiant cartrefi mewn parciau i helpu i wella’r system i breswylwyr

Cyhoeddwyd: 26 Ebrill 2012

Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw ar berchnogion safleoedd cartrefi mewn parciau a’u cynrychiolwyr i weithio gyda nhw i helpu i wella amodau byw i breswylwyr. Mae’r hyrwyddwr i ddefnyddwyr wedi siarad gyda phob awdurdod lleol a gyda dros 250 o berchnogion cartrefi mewn parciau ledled Cymru. Maent yn awr yn galw ar berchnogion safleoedd [...]

darllenwch mwy

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

Newyddion Llais Defnyddwyr Cymru

Galw ar y diwydiant cartrefi mewn parciau i helpu i wella’r system i breswylwyr

Cyhoeddwyd: 26 Ebrill 2012

Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw ar berchnogion safleoedd cartrefi mewn parciau a’u cynrychiolwyr i weithio gyda nhw i helpu i wella amodau byw i breswylwyr. Mae’r hyrwyddwr i ddefnyddwyr wedi siarad gyda phob awdurdod lleol a gyda dros 250 o berchnogion cartrefi mewn parciau ledled Cymru. Maent yn awr yn galw ar berchnogion safleoedd [...]

Pynciau: ,

darllenwch mwy

Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn cyhoeddi newidiadau ym maes defnyddwyr

Cyhoeddwyd: 12 Ebrill 2012

Cyhoeddwyd cynigion newydd heddiw gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ar gyfer newidiadau yn ymwneud â defnyddwyr. Bydd y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn ymgymryd â chyfrifoldeb Llais Defnyddwyr am gynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn sectorau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru a Lloegr. Bydd hyn yn gadael Uned Diwydiannau Rheoledig newydd, dechnegol [...]

Pynciau:

darllenwch mwy

Mae Cymru yn arwain y ffordd – ond mae oedi cyn cyhoeddi’r adolygiad wedi siomi’r corff gwarchod

Cyhoeddwyd: 28 Mawrth 2012

‘Mae camau mawr wedi’u cymryd o ran diogelwch bwyd, gyda Llywodraeth Cymru yn addo ei gwneud yn orfodol i sgorau hylendid bwyd gael eu harddangos ar safleoedd busnesau bwyd. Ond rydym yn siomedig, flwyddyn ar ôl i’n hadroddiad diwethaf, nad yw adolygiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd o gamau gorfodi cyfraith bwyd, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi’i gyhoeddi eto. Mae’n 12 mis yn hwyr – nid yw’n ddigon da i ddefnyddwyr yng Nghymru.’

Pynciau: , , ,

darllenwch mwy

Rhaid i’r rhaglen i newid swyddfeydd post sicrhau rhwydwaith lleol dibynadwy a chynaliadwy – medd Llais Defnyddwyr Cymru

Cyhoeddwyd: 9 Mawrth 2012

Wrth ymateb i gynlluniau Swyddfa’r Post Cyfyngedig ar gyfer rhaglen i newid y rhwydwaith a fydd yn troi 6,000 o ganghennau yn swyddfeydd post ‘Local’ ac yn swyddfeydd post ‘Main’1, dywedodd Rhys Evans, Dirprwy Uwch Gyfarwyddwr yn Llais Defnyddwyr Cymru: ‘Mae angen rhoi rhwydwaith Swyddfa’r Post ar sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol, er mwyn [...]

Pynciau:

darllenwch mwy

Sicrhau bod adroddiadau arolygu hylendid bwyd ar gael

Cyhoeddwyd: 8 Mawrth 2012

Mae Llais Defnyddwyr Cymru am i Lywodraeth Cymru wrando ar ddefnyddwyr a sicrhau bod adroddiadau arolygu hylendid bwyd ar gael yn hawdd fel rhan o’r Bil hylendid bwyd. Yn ôl arolwg gan y corff gwarchod, mae mwy na 90 y cant o bobl yng Nghymru o’r farn y dylai defnyddwyr allu cael gafael yn hawdd [...]

Pynciau: , ,

darllenwch mwy

Pennaeth newydd ar gyfer Hyrwyddwr Defnyddwyr Cymru

Cyhoeddwyd: 8 Mawrth 2012

Mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi cyhoeddi mai Rhys Evans fydd ei Uwch Gyfarwyddwr newydd o 1 Ebrill, 2012.

Pynciau: , ,

darllenwch mwy

Methiant i gyflawni’r meincnod ar gyfer danfon post yn hanner yr ardaloedd cod post yn ystod y tri chwarter cyntaf

Cyhoeddwyd: 24 Chwefror 2012

Mae’r Post Brenhinol wedi methu â chyrraedd ei dargedau ar gyfer danfon post â stamp dosbarth cyntaf a phost wedi’i ffrancio mewn tair o’r wyth ardal cod post yng Nghymru yn ystod trydydd chwarter y flwyddyn. Ni lwyddodd Llandrindod (LD) (88.9 y cant), Casnewydd (NP) (90.7 y cant) nac Abertawe (SA) (90.3 y cant), i [...]

Pynciau: ,

darllenwch mwy

Corff gwarchod defnyddwyr eisiau glywed gan breswylwyr cartrefi mewn parciau

Cyhoeddwyd: 15 Chwefror 2012

Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn chwilio am bobl sy’n byw mewn cartrefi mewn parciau i roi gwybod iddynt am unrhyw broblemau y maent yn eu hwynebu. Mae’r corff sy’n gwarchod buddiannau defnyddwyr yn cyfweld â phreswylwyr unigol cartrefi mewn parciau o bob rhan o Gymru ynglŷn â’u profiadau ar gyfer eu hadroddiad pwysig a fydd [...]

Pynciau:

darllenwch mwy

Angen i Swyddfeydd Post Local wella er mwyn i ddefnyddwyr gael y budd mwyaf, yn ôl adroddiad

Cyhoeddwyd: 7 Chwefror 2012

Yn yr adroddiad Aros yn Lleol: Dyfodol Rhwydwaith Swyddfa’r Post, nododd y corff gwarchod defnyddwyr, er bod Swyddfeydd Post Local o fudd amlwg i gwsmeriaid, fod gan ddefnyddwyr bryderon hefyd. Mae canfyddiadau yn dangos bod pobl yn croesawu’r oriau hwy, y cyfleustra a’r gwasanaeth cyfeillgar.  Yn benodol, roedd cyfleustra yn bwysig i’r cwsmeriaid hynny a [...]

Pynciau:

darllenwch mwy

Lleisiwch eich barn ar y Bil Hylendid Bwyd

Cyhoeddwyd: 2 Chwefror 2012

Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw ar ddefnyddwyr i gefnogi eu hymgyrch i wneud newidiadau i’r gyfraith bwyd yng Nghymru.

Pynciau:

darllenwch mwy

Tudalen 1 o 141234567891011121314»
 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter