Cyhoeddiadau
Ymateb Llais Defnyddwyr Cymru i ymgynghoriad Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ar Gynllun Sgorio Archwiliadau Awdurdodau Lleol
23 Ionawr 2012
Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn croesawu’r cyfle i roi sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn. Rydym yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn o safbwynt y defnyddiwr, felly o gofio natur dechnegol y cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn, yn hytrach nag ateb y cwestiynau’n benodol; rydym yn hytrach wedi rhoi crynodeb o’n pwyntiau allweddol. Mae’r ymateb ysgrifenedig hwn [...]
Heb weld y goleuni:barn defnyddwyr am newid cyfenwyr ynni yng Nghymru
18 Ionawr 2012
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio i ba raddau y mae defnyddwyr yng Nghymru yn ymgysylltu â’r farchnad ynni. Mae’n seiliedig ar waith ymchwil a gomisiynwyd gan Lais Defnyddwyr Cymru ym mis Tachwedd 2011.
Ymateb i ymgynghoriad y Comisiynydd Gwybodaeth ar ddiwygio cynlluniau cyhoeddi
6 Ionawr 2012
Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn credu bod egwyddorion tryloywder a mynediad at wybodaeth yn hollbwysig i ddull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Ond, mae gan yr elfennau pwysig hyn hefyd rôl allweddol yn grymuso dinasyddion, gan alluogi dinasyddion i wneud dewisiadau gwell, penderfyniadau mwy gwybodus a gwella safonau.
Adroddiad Ynni Cwarterol – Hydref 2011
21 Hydref 2011
Darllenwch ein Adroddiad Ynni diweddaf ( Hydfef 21, 2011) yma: QER Autumn 2011 (PDF dwyieithog) Os hoffech dderbyn yr adroddiad bob chwarter drwy e-bost, rhowch wybod i gareth.price@consumerfocus.org.uk
Grymuso a Diogelu Defnyddwyr: Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddyfodol y dirwedd defnyddwyr – Dogfen Friffio Cymru
7 Medi 2011
Rydym wedi cyhoeddi briffio ar ymgynghoriad Llywodraeth y DU, ‘Empowering and Protecting Consumers’. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig i ddiddymu’r Llais Defnyddwyr Cymru a throsglwyddo ei swyddogaethau i gyrff eraill, yn bennaf y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth.
Adroddiad Ynni Cwarterol – Haf 2011
31 Gorffennaf 2011
Darllenwch ein Adroddiad Ynni diweddaf (Haf 2011) yma: QER Summer 2011 (PDF Dwyieithog) Os hoffech dderbyn yr adroddiad bob chwarter drwy e-bost, rhowch wybod i gareth.price@consumerfocus.org.uk
Adroddiad ar Bost yng Nghymru Gorffennaf 2011
20 Gorffennaf 2011
Nododd y Post Brenhinol mai tywydd garw’r gaeaf ac ôl-groniadau mawr oedd y rheswm pam na lwyddodd i gyrraedd dros hanner ei dargedau dosbarthu ar gyfer post dosbarth cyntaf yng Nghymru yn ystod pedwerydd chwarter y flwyddyn. Dengys ffigurau Ansawdd Gwasanaeth ar gyfer pedwerydd chwarter 2010/11 fod pump o’r wyth ardal cod post yng Nghymru [...]
Y Gynghrair Tlodi Tanwydd yn cyfri’r dyddiau at gynhesrwydd fforddiadwy
6 Gorffennaf 2011
Yma yng Nghymru, mae cynnydd da wedi’i
wneud gyda chael y partneriaid iawn i gyfrannu
at leihau effeithiau tlodi tanwydd. Fodd bynnag
er yr ymdrechion hyn mae mwy o gartref o hyd
yn wynebu tlodi tanwydd ac, yn drist fel y cafodd
ei ddarogan, mae targed tlodi tanwydd cyntaf
Llywodraeth Cymru, sef dileu tlodi tanwydd ymhlith
grwpiau agored i niwed erbyn 2010, wedi cael
ei golli, yn bennaf o ganlyniad i’r cynnydd mewn
prisiau ynni.
Ymateb i’r ymgynghoriad ar Adolygiad Walker
5 Gorffennaf 2011
… mae tlodi dŵr yn broblem wirioneddol i’r rhai hynny nad ydynt yn gallu fforddio cadw’n lân ac yn iach. Mewn gwirionedd, mewn ymchwil a gynhaliwyd gennym y llynedd ynglŷn â sut yr oedd
defnyddwyr yn ymdopi yn yr hinsawdd ariannol bresennol, dywedodd 43% o’r bobl wrthym
nad oeddent wedi gallu talu eu bil dŵr yn brydlon yn ystod y 12 mis diwethaf.
