Mae ymchwil newydd gan Lais Defnyddwyr yn dangos bod cynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid y banciau’n ansicr ynghylch rheolau newydd Awdurdodau Taliadau Parhaus (CPA) a bod perygl eu bod yn rhoi cyngor anghywir i gwsmeriaid.
Canfu arolwg siopwyr dirgel fod bron i hanner y cynghorwyr (44%) wedi rhoi cyngor anghywir neu nad oeddent yn gallu rhoi ateb, pan ofynnwyd iddynt sut i ganslo CPA. Mae’r diffyg eglurder hwn gan y banciau’n golygu bod ansicrwydd ymhlith defnyddwyr ynghylch eu hawliau yn achos CPAau, ac y gallai hynny olygu bod taliadau’n cael eu gwneud heb yn wybod i’r defnyddiwr a heb iddynt roi caniatâd.
Mae CPA yn fath o drefniant talu awtomatig a wneir gyda cherdyn debyd neu gredyd. Fel yn achos debyd uniongyrchol, mae defnyddwyr yn rhoi caniatâd i gyflenwr neu fanwerthwyr i gymryd taliadau oddi ar eu cerdyn. Mae llawer o fusnesau’n ffafrio trefniadau o’r fath, gan gynnwys darparwyr benthyciadau diwrnod cyflog, campfeydd, cwmnïau yswiriant, cyhoeddwyr cylchgronau a darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd. Gall yr amseriad a’r symiau amrywio. Gall CPA gael ei adnabod hefyd fel awdurdod taliadau cylchol, trafodion cylchol neu daliadau cylchol.
Aeth Llais Defnyddwyr ati i gynnal ymarferiad siopwr dirgel ymhlith nawr o’r prif fanciau er mwyn gweld faint oedd eu cynghorwyr cwsmeriaid yn wybod am sut mae mynd ati i ganslo CPA. Yr ateb cywir fyddai canslo’r CPA drwy’r banc, a hefyd hysbysu’r cyflenwr neu fanwerthwr ei fod yn cael ei ganslo1.
Canfu’r arolwg mai dim ond 56 y cant o staff gwasanaeth cwsmeriaid a roddodd yr ateb cywir. Rhoddodd 44 y cant ateb anghywir, neu nid oeddent yn gallu ateb o gwbl2. Roedd yn achos pryder o ddarganfod eu bod wedi dweud wrth 28 y cant o gwsmeriaid fod yn rhaid iddynt fynd â’u hymholiad at y cwmni a oedd wedi sefydlu’r CPA, sy’n mynd yn groes i ganllawiau’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Meddai Sarah Brooks, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ariannol Llais Defnyddwyr:
‘Mae CPAau yn ddull cyffredin o wneud taliadau ond mae’r lefelau dealltwriaeth amdanynt yn isel. Mae’r problemau sy’n codi wrth geisio canslo’n golygu bod defnyddwyr yn mynd i orddrafft am eu bod yn talu am rywbeth nad ydynt ei eisiau mwyach, ac mae hynny’n annerbyniol. Nid oes disgwyl i gwsmeriaid fod yn arbenigwyr ar y dull hwn o dalu, felly mae’n hanfodol bod staff y banciau’n gwybod y rheolau ac yn gallu rhoi cyngor eglur a chywir.
‘Mae’n bwysig bod defnyddwyr yn gwybod bod ganddynt hawl i ganslo CPA drwy gysylltu â’u banc. Yn ddelfrydol, dylai’r cwsmer gysylltu â’r cwmni sy’n cael y taliad hefyd – ond yr hyn sy’n bwysig yw nid oes yn rhaid i’r cwmni ganslo’r CPA ar eu rhan.’
Mae rhai o’r anawsterau y mae defnyddwyr yn eu hwynebu gyda CPAau yn cynnwys:
- Cael eu symud yn ôl a blaen rhwng y banc a’r busnes, gyda’r naill na’r llall yn cymryd cyfrifoldeb am ganslo’r CPA. Gall hyn wneud i’r cwsmer deimlo nad oes ganddynt ddewis heblaw canslo’r cerdyn talu a ddefnyddir
- Mae busnesau’n defnyddio CPAau i gymryd taliadau ychwanegol ar ben y taliad am y nwyddau neu’r gwasanaethau maent wedi tanysgrifio iddynt, e.e. ffioedd ar gyfer adennill dyledion
- Mae taliadau CPA wedi’u canslo yn cael eu cymryd ar gerdyn wedi’i ganslo a’u debydu ar gerdyn newydd sy’n gysylltiedig â’r un cyfrif banc, heb ganiatâd y cwsmer.
- Gwelir dryswch ymhlith cwsmeriaid ynghylch yr hyn maent wedi cydsynio iddo, yn enwedig gan fod cytundebau’n cael eu gwneud heb gofnod ar bapur o’r hyn y cytunwyd arno, ac nid yw’r telerau’n amlwg i’r cwsmer cyffredin. Mae hyn wedi bod yn broblem arbennig gyda gwefannau disgownt a gostyngiadau i siopwyr.3
Mae’n bwysig dros ben bod defnyddwyr yn cysylltu â’u banc os ydynt yn cael anhawster cysylltu â’r busnes dan sylw neu os ydynt yn amau a fydd y cwmni’n mynd ymlaen i ganslo’r taliad. Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr dalu unrhyw ddyled sydd heb ei thalu, ond ni all y cwmni fynnu bod y cwsmer yn talu’r ddyled drwy CPA. Byddai’r corff gwarchod hefyd yn annog unrhyw gwsmer sydd wedi cael cyngor anghywir ynglŷn â chanslo CPA i gwyno i’r banc dan sylw.
Er mwyn datrys y problemau y mae defnyddwyr yn eu hwynebu gyda CPAau, mae Llais Defnyddwyr yn galw am gyfres o fesurau, gan gynnwys:
- Gwybodaeth eglur a chywir i gwsmeriaid ynghylch CPAau, gan staff gwasanaeth cwsmeriaid y banciau ac ar eu gwefan, yn enwedig ynglŷn â chanslo taliadau.
- Rhaid i’r wybodaeth hon ddatgan yn eglur y bydd unrhyw arian sy’n cael ei dynnu o gyfrif y cwsmer ar ôl i’r CPA gael ei ganslo yn cael ei ad-dalu ar unwaith i’r cwsmer gan y banc.4
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Cynhaliodd Llais Defnyddwyr ymarferiad siopwr dirgel ymhlith naw o brif fanciau’r DU (Santander, Barclays, HSBC, Lloyds TSB, Halifax, Bank of Scotland, RBS, NatWest a Nationwide). Cysylltwyd â hwy gyfanswm o 308 o weithiau: 126 dros y ffôn. 127 wyneb yn wyneb mewn canghennau a 55 weithiau drwy ymweld â’u gwefannau.
- Y cwestiwn a ofynnwyd oedd: ‘Pe bawn yn sefydlu taliad misol dros y rhyngrwyd i gampfa, gan ddefnyddio fy ngherdyn debyd, dywedodd fy mhartner wrthyf y byddai’n rhywbeth sy’n cael ei alw’n “Awdurdod Taliad Parhaol”. Pe bawn i am roi’r gorau iddo’n ddiweddarach, a ddylwn gysylltu â’r banc ynteu’r gampfa?’ Mae sawl ateb cywir, sef: cysylltu â’r gampfa a’r banc; cysylltu â’r banc; cysylltu â’r banc ond yn ddelfrydol cysylltu â’r gampfa hefyd. Byddai pedwerydd ateb yn debygol o alluogi’r cwsmer i ganslo’i CPA yn gywir ond ni fyddai o reidrwydd yn ei warantu: cysylltu â’r gampfa ond yn ddelfrydol cysylltu â’r banc hefyd.
- Cysylltu â’r banc (ond yn ddelfrydol â’r gampfa hefyd) 27% Cywir
- Cysylltu â’r gampfa a’r banc 11% Cywir
- Cysylltu â’r banc 7% Cywir
- Cysylltu â’r gampfa ond yn ddelfrydol â’r banc hefyd 11% Cywir
- Cysylltu â’r gampfa 28 % Anghywir
- Methu dod o hyd i ateb ar ôl 5 munud o chwilio ar y we 11% Dim ateb
- Atebion eraill 5% Anghywir
Bydd Llais Defnyddwyr yn rhannu’r ymchwil hwn â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol sy’n rheoleiddio’r Banciau, ac â’r Swyddfa Masnachu Teg, sy’n gyfrifol am reoleiddio credyd defnyddwyr.
- Mae ymchwiliadau Llais Defnyddwyr wedi bod yn edrych ar y farchnad hon, gan gynnwys cwmnïau sy’n defnyddio’r enwau masnachu Rewards First a Shopper Discounts and Rewards, ac mae eisoes wedi rhannu’i bryderon â’r Swyddfa Masnachu Teg. Mae Llais Defnyddwyr yn ymwybodol bod defnyddwyr yn cofrestru i gael yr hyn roeddent yn credu oedd yn ostyngiadau untro neu gynigion ar wefan fanwerthu (ee. £10 i ffwrdd wrth brynu) heb sylweddoli eu bod yn gwneud cytundeb tanysgrifiad misol sy’n cael ei redeg gan drydydd parti fel Shopper Discounts and Rewards. Dywedodd defnyddwyr nad oeddent yn ymwybodol o hyn nes i arian gael ei dynnu o’u cyfrif cyfredol neu eu cerdyn credyd yn ddiweddarach. Mae Llais Defnyddwyr yn poeni y gallai defnyddwyr gael eu camarwain am nad oedd y Telerau ac Amodau a roddwyd yn ddigon eglur a dywedodd nifer o’r rhai sydd wedi cwyno nad oeddent wedi cael cadarnhad na negeseuon e-bost dilynol ar ôl iddynt dderbyn y daleb oedd yn rhoi’r gostyngiad.
- Os yw cyflenwr yn dal i gymryd arian allan o gyfrif ar ôl i’r CPA gael ei ganslo rhaid i’r banc ad-dalu’r defnyddiwr ar unwaith. Gall y banc wedyn fynd ar ôl y cyflenwr i gael yr arian hwn yn ôl.
