Mae Llais Defnyddwyr, y Glymblaid dros Economi Digidol (Coadec), y Grŵp Hawliau Agored, y Gynghrair Llyfrgelloedd ac Archifau (LACA) a Sefydliad Siartredig Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol (CILIP) yn galw am gyflymu’r broses o ddiwygio cyfraith hawlfraint y DU. Daw’r alwad ar ôl i’r arolwg diweddaraf gan Ddefnyddwyr Rhyngwladol1 ddatgelu bod y DU yn dal i lusgo ymhell y tu ôl gweddill y gwledydd datblygedig yng nghyswllt materion yn ymwneud â hawlfraint.
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, roedd y DU yn nhri gwaelod yr arolwg. Rhaid diweddaru cyfraith hawlfraint y DU i’w gwneud hi’n deg i ddefnyddwyr yn ogystal â sbarduno twf economaidd hanfodol. O’r herwydd, dylid gweithredu argymhellion Adolygiad diweddar Hargreaves yn ddi-oed.2
Yn ôl arolwg IP Watchlist 2012, sy’n edrych ar sut mae cyfreithiau hawlfraint mewn 30 o wledydd yn cydbwyso buddiannau perchnogion hawlfraint â buddiannau defnyddwyr, roedd y DU drydydd o’r gwaelod. At ei gilydd, rhoddodd Defnyddwyr Rhyngwladol radd C- i’r DU, gydag ond Gwlad yr Iorddonen a’r Ariannin yn gwneud yn waeth. Israel oedd uchaf, gydag Indonesia, India, Seland Newydd ac UDA yn dilyn. Yn 2009, roedd y DU ar y gwaelod, ac yn drydydd o’r gwaelod yn 2010 a 2011.
Byddai methu gweithredu argymhellion yr Athro Hargreaves i foderneiddio eithriadau hawlfraint hen ffasiwn y DU yn annheg â defnyddwyr, yn llesteirio twf economaidd ac yn peryglu gwarchod ein treftadaeth ddiwylliannol a chael mynediad at y dreftadaeth honno.3 Yr enghraifft fwyaf amlwg yw’r ffaith nad oes eithriad copïo preifat ar gael ar gyfer cynhyrchion y mae defnyddwyr eisoes wedi talu amdanynt. Nid yw system hawlfraint gyfredol y DU yn adlewyrchu’r ffordd y mae defnyddwyr yn defnyddio cerddoriaeth, ffilmiau ac e-lyfrau y dyddiau hyn. Fel y saif y gyfraith, mae trosglwyddo cerddoriaeth o CD i chwaraewr MP3 yn anghyfreithlon.4 Dylai’r DU fanteisio i’r eithaf ar ei gallu i ddiweddaru eithriadau hawlfraint dan gyfraith Ewropeaidd.
Nid yn unig y mae eithriadau hawlfraint hen ffasiwn yn dwyn anfri ar y gyfraith, maent hefyd yn gorfodi busnesau i dreulio amser a gwario arian afraid yn cymryd cyngor cyfreithiol neu ymladd achosion llys diangen wrth ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau digidol. Mae’r system hawlfraint gyfredol hefyd yn ei gwneud hi’n fwy anodd i’r diwydiannau creadigol gael mynediad at asedau diwylliannol arwyddocaol y DU, ac mae’n llesteirio ymchwil academaidd. Os yw’r DU i gystadlu ar lwyfan byd-eang, rhaid i gwmnïau a sefydliadau diwylliannol sydd wedi’u lleoli yn y DU gael rhyddid i arloesi heb gael eu dal yn ôl gan system hawlfraint hen ffasiwn.
Mae diffyg eithriad ar gyfer parodïau yn mygu ymgysylltu diwylliannol dilys a phwysig yn ogystal â mynegiant ynglŷn â cherddoriaeth, ffilmiau a llyfrau. Mae eithriadau hawlfraint hen ffasiwn hefyd yn effeithio ar sefydliadau diwylliannol. Mae llyfrgelloedd ac archifau yn caniatáu i gymdeithas, yn ei chyfanrwydd, fwynhau rhai gweithiau sydd dan warchodaeth hawlfraint heb niweidio buddiannau moesol neu economaidd y sawl a’u creodd a pherchnogion yr hawlfraint. Ffwlbri llwyr yw’r ffaith nad yw swyddogaeth ddiwylliannol mor bwysig yn cynnwys ffilm, darllediadau a recordiadau sain.
Dywed Mike O’Connor, Prif Weithredwr Llais Defnyddwyr:
‘Mae ein system hawlfraint, yn enwedig yng nghyswllt eithriadau, yn hen ffasiwn, yn annheg â defnyddwyr ac yn llesteirio twf economaidd. Mae’n gwbl hurt ei bod hi’n anghyfreithlon i bobl gopïo CDs y maent wedi’u prynu i’w gliniaduron neu chwaraewyr MP3 neu i gael copi wrth gefn o’r cynhyrchion digidol y maent wedi’u prynu.5 Mae’r diwydiannau creadigol ymhlith gobeithion disgleiriaf economi’r DU ac mae’r system hawlfraint hen ffasiwn yn ein gosod dan anfantais yn erbyn ein cystadleuwyr.
‘Mae’r gyfraith filltiroedd ar ôl y dechnoleg fodern ac anghenion yr oes ddigidol; nid yw’r eithriadau hawlfraint wedi’u diweddaru er 1988, pan oedd Walkmans, fideos a thapiau casét yn ffasiynol. Yr ydym yn croesawu penderfyniad y Llywodraeth i dderbyn argymhellion Adolygiad Hargreaves, a galwn arnynt i’w rhoi ar waith cyn gynted ag y bo modd, cyn i’r DU syrthio ymhellach fyth ar ei hôl hi.’
Dywed Jeff Lynn, Cadeirydd Coadec:
‘Pwrpas gwarchodaeth eiddo deallusol yw meithrin arloesi, ond mae sawl agwedd ar y system hawlfraint gyfredol yn gweithio’n gwbl groes i hynny gyda busnesau digidol. Mae modelau newydd gwych o gynhyrchu, marchnata a dosbarthu cynnwys creadigol yn ymddangos ar hyn o bryd, ac maent yn ffynnu ar fywiogrwydd y rhyngrwyd, yn hytrach nag yn cael eu bygwth ganddo.
‘Bydd yr eithriadau yn caniatáu i fusnesau technolegau newydd sy’n dechrau y dyddiau hyn gystadlu â’u cystadleuwyr yn Ewrop a’r Unol Daleithiau. Busnesau digidol newydd a Busnesau Bach a Chanolig eu maint ledled y DU yw crewyr swyddi a chrewyr cyfoeth y dyfodol, ac mae angen iddynt allu harneisio potensial y we i gyfrannu at dwf economaidd.’
Dywed Jim Killock, Cyfarwyddwr Gweithredol y Grŵp Hawliau Agored:
‘Nid dim ond cynhyrchion i’w defnyddio yw cerddoriaeth, ffilm a llyfrau; maent yn elfennau o’n gwneuthuriad diwylliannol. Mae parodïau yn ffyrdd dilys o ymgysylltu â hwy, helpu pobl i ddysgu technegau creadigol, diddanu, mynegi eu hunain neu wneud pwynt am y gwaith gwreiddiol. Ar hyn o bryd, mae hawlfraint yn y DU yn gosod creadigrwydd o’r math yma yr ochr anghywir i’r gyfraith, ac mae’n gweithredu fel feto yn erbyn gweithgarwch sydd o fudd diwylliannol. Dyna pam bod angen eithriad newydd arnom ar gyfer parodïau yn y DU.’
Dywed Tim Padfield, Cadeirydd LACA:
‘Mae angen ymestyn yr eithriad ynglŷn â chadwraeth ar fyrder, er mwyn sicrhau bod pob math o waith hawlfraint, gan gynnwys gweithiau artistig, ffilmiau, recordiadau sain, a gweithiau mewn fformatau electronig, ar gael er budd y cenedlaethau i ddod. Mae llawer o ffilmiau, recordiadau sain a ffotograffau eisoes wedi cael eu colli am nad oedd caniatâd ar gael ar gyfer eu copïo. Mae copïau o’r rhai sy’n weddill, a’r hyn a gaiff ei greu i’r dyfodol, yn hanfodol er mwyn gwarchod gwybodaeth a’n treftadaeth ddiwylliannol.’
Dywed John Dolan, Cadeirydd Cyngor CILIP:
‘Mae angen i’r DU ddod yn arweinydd byd-eang ym maes ymchwil a darpariaeth gwybodaeth. Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw drwy sicrhau bod ymchwilwyr, llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth proffesiynol yn gallu gwneud defnydd llawn o’r ystod o ddeunyddiau sy’n cael eu cadw mewn archifau a llyfrgelloedd. Mae cyfoeth cynyddol o ddeunydd ymchwil ar gael ar ffurf sain a fideo; mae’n hurt nad oes modd eu copïo fel y gellir copïo deunydd sydd wedi’i argraffu. Dylai’r Llywodraeth ddiweddaru’r eithriad sy’n berthnasol i lyfrgelloedd ar fyrder, er mwyn i lyfrgelloedd allu helpu ein hymchwilwyr i gael mynediad at dreftadaeth ddiwylliannol lawn y DU.’
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
I weld arolwg IP Watchlist 2012 llawn Defnyddwyr Rhyngwladol ymwelwch â: http://bit.ly/HNq6fn
- Consumers International (CI) yw llais ymgyrchu annibynnol byd-eang defnyddwyr. Gyda rhagor na 220 o aelod-fudiadau mewn 115 o wledydd, mae’n adeiladu mudiad defnyddwyr rhyngwladol pwerus i helpu i amddiffyn a grymuso defnyddwyr ym mhob man. Bu CI yn cynnal yr IP Watchlist er 2009.
- Cyhoeddwyd “Adolygiad Hargreaves o Eiddo Deallusol a Thwf” ym mis Mai 2010 ac mae’n cynnig ystod o argymhellion ynglŷn â diweddaru eithriadau hawlfraint, trwyddedu a gorfodi. Ar ôl i’r Llywodraeth gymeradwyo argymhellion yr adolygiad, mae’r gwaith o’u gweithredu wedi dechrau. Mae Richard Hooper, ar hyn o bryd, yn ail gyfnod ei astudiaeth ymarferoldeb ar gyfer Cyfnewidfa Hawlfraint Ddigidol, un o argymhellion yr Athro Hargreaves. Bu’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn ymgynghori ynglŷn â thrac hawliau bychan ar gyfer anghydfodau ED, fel yr argymhellwyd gan yr Athro Hargreaves, bydd y trac hawliau bychan yn cael ei weithredu’n ddiweddarach eleni. Ddiwedd y llynedd, lansiodd yr IPO hefyd ymgynghoriad ynglŷn â gweithredu argymhellion eraill yr Athro Hargreaves ynglŷn â diweddaru eithriadau hawlfraint a thrwyddedu.
- Ymhlith eraill, gwnaed yr argymhellion isod ynglŷn â diweddaru eithriadau hawlfraint y DU:
- Copïo preifat: yr unig eithriadau copïo preifat y darperir ar eu cyfer yng nghyfraith hawlfraint y DU yw eithriad “symud-amser” ar gyfer darlledu, sy’n caniatáu recordio darllediad ar y teledu a radio, ac eithriad wrth-gefn ar gyfer meddalwedd. Mae’r IPO yn ymgynghori ynglŷn â chyflwyno eithriad copïo preifat cyfyngedig i ganiatáu i ddefnyddwyr gopïo cynhyrchion y maent wedi talu amdanynt, ar gyfer eu defnydd hwy eu hunain. Byddai copïo preifat hefyd yn cynnwys yr hyn a elwir yn “symud fformat”.
- Parodi: mae’r IPO yn ymgynghori ynglŷn â chyflwyno eithriad parodi, a fyddai’n caniatáu i rannau o weithiau sydd wedi’u gwarchod gan hawlfraint gael eu defnyddio mewn parodïau. Ar hyn o bryd, nid yw cyfraith hawlfraint y DU yn darparu eithriad o’r fath, ac mae’r bobl sy’n defnyddio rhannau o weithiau sydd wedi’u gwarchod gan hawlfraint yn wynebu camau cyfreithiol yn eu herbyn am dorri amodau hawlfraint.
- Archifo: mae cyfraith hawlfraint y DU yn darparu ar gyfer eithriad archifo, gan ganiatáu i sefydliadau diwylliannol wneud copïau ar gyfer gwarchodaeth. Ond dim ond “gwaith llenyddol, dramatig neu gerddorol” y mae’r eithriad hwn yn berthnasol iddynt, ac nid yw’n cynnwys ffilm, cerddoriaeth sydd wedi’i recordio, darllediadau a “gweithiau artistig” megis ffotograffau. Mae’r IPO yn ymgynghori ynglŷn ag ymestyn yr eithriad archifo i gynnwys pob math o weithiau a warchodir gan hawlfraint.
- Ymchwil: Mae cyfraith hawlfraint y DU yn darparu ar gyfer ymchwil anfasnachol ac eithriad astudiaeth breifat. Fodd bynnag, dim ond “gwaith llenyddol, dramatig neu gerddorol” y mae’r eithriad hwn yn berthnasol iddynt, ac nid yw’n cynnwys ffilmiau, recordiadau sain a darllediadau, ac nid yw’n cynnwys gweithiau artistig yn achos copïau llyfrgell ac archif i helpu ymchwilwyr. Mae’r IPO yn ymgynghori ynglŷn ag ymestyn yr eithriad ymchwil i gynnwys mathau eraill o waith.
- Copïo preifat: yr unig eithriadau copïo preifat y darperir ar eu cyfer yng nghyfraith hawlfraint y DU yw eithriad “symud-amser” ar gyfer darlledu, sy’n caniatáu recordio darllediad ar y teledu a radio, ac eithriad wrth-gefn ar gyfer meddalwedd. Mae’r IPO yn ymgynghori ynglŷn â chyflwyno eithriad copïo preifat cyfyngedig i ganiatáu i ddefnyddwyr gopïo cynhyrchion y maent wedi talu amdanynt, ar gyfer eu defnydd hwy eu hunain. Byddai copïo preifat hefyd yn cynnwys yr hyn a elwir yn “symud fformat”.
- Dan gyfraith hawlfraint gyfredol y DU, mae’n anghyfreithlon i ddefnyddwyr newid fformat cerddoriaeth, ffilmiau, e-lyfrau ayb sydd â hawlfraint ar ôl iddynt gael eu prynu, ee, mae hi hefyd yn anghyfreithlon newid fformat e-lyfr Kindle i fformat darllenwyr e-lyfrau eraill. Unwaith y bydd argymhellion Hargreaves yn cael eu gweithredu, daw’r anghysonder cyfreithlon hwn i ben.
- Cyhoeddodd Llais Defnyddwyr adolygiad llenyddiaeth o’r dystiolaeth economaidd gyfredol ynglŷn â defnydd teg o hawliau. Canfu’r adolygiad nad oes unrhyw dystiolaeth ar gael i gefnogi’r ddadl bod gweithgarwch megis newid fformat, lle bydd defnyddwyr yn copïo eu CDs i iPod neu gyfrifiadur, yn achosi i berchnogion hawlfraint golli arian.
