Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth ynghylch diwygio eiriolaeth defnyddwyr a ariennir gan gyllid cyhoeddus, mae Llais Defnyddwyr wedi cyhoeddi ei raglen waith ar gyfer 2012/13.
Dywedodd Christine Farnish, Cadeirydd Llais Defnyddwyr:
‘Mae hwn wedi bod yn gyfnod ansefydlog i bawb yma yn Llais Defnyddwyr, ac rwy’n falch o’r ffordd y mae staff wedi parhau i gyflawni ar gyfer cwsmeriaid mewn amgylchiadau anodd.
‘Nawr ein bod ni’n gwybod beth ydy penderfyniad y Llywodraeth, rydyn ni’n falch o gyhoeddi Cynllun Blynyddol sy’n adlewyrchu’r penderfyniad hwnnw, sy’n gwneud cyfiawnder i’n gwaith ar draws yr economi ac sy’n dechrau creu rhywbeth newydd a gwerthfawr i ddefnyddwyr mewn marchnadoedd cyfleustodau rheoledig hanfodol.1
‘Fe fyddwn ni’n gweithio gyda sawl gwahanol sefydliad ar draws nifer o sectorau i gyflawni’r cynllun hwn. Yn benodol, fe fyddwn ni’n gweithio’n agosach fyth â’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth er mwyn i ni allu trosglwyddo ein gwaith eirioli cyffredinol yn llwyddiannus dros y flwyddyn sydd i ddod a throsglwyddo ein gwaith mewn marchnadoedd rheoledig wedi hynny.
‘Rwy’n talu teyrnged i agwedd broffesiynol ac ymrwymiad staff Llais Defnyddwyr, ac rwy’n gwybod, trwyddyn nhw, fe fyddwn ni’n parhau i wasanaethu cwsmeriaid yn dda yn y flwyddyn heriol o drawsnewid sydd o’n blaenau.’
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Mae Cynllun Blynyddol 2012/13 (PDF 482KB) ar gael ar-lein.
- Mae Llais Defnyddwyr wedi bod yn eiriolwr cryf dros ddefnyddwyr er ei sefydlu yn 2008, yn dilyn gwaith ei ragflaenwyr: energywath, Postwatch a’r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol. Cydnabuwyd llwyddiant y sefydliad ym mhroses adolygu’r Llywodraeth, yn arbennig mewn marchnadoedd cyfleustodau rheoledig a chymhleth.
Heddiw, cyhoeddodd y Llywodraeth ei phenderfyniadau ynghylch y diwygiadau i gyrff a ariennir gan y Llywodraeth, sy’n cynrychioli defnyddwyr. Bydd rôl eirioli Llais Defnyddwyr yn trosglwyddo’n raddol i Gyngor ar Bopeth fel rhan o’r diwygiadau hyn.
Bydd Llais Defnyddwyr yn sefydlu Uned Diwydiannau Rheoledig fel rhan o’r broses drosglwyddo, a fydd yn gallu nodi a chynrychioli buddiannau defnyddwyr ar draws sectorau cymhleth rheoledig. Bydd yr Uned yn cadw cyfrifoldeb Llais Defnyddwyr ym meysydd ynni, post ac, yn yr Alban, dŵr, tan 2014 pan fydd yr Uned yn trosglwyddo i’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth.
