Richard Bates
Cyfarwyddwr y Rhaglen Grymuso Defnyddwyr
Mae’n debygol nad wyf yn eich adnabod chi, ond rwy’n credu y gallaf ddyfalu rhai pethau am eich ymddygiad fel defnyddiwr o hyd.
Mae bron yn sicr, byddwn yn mentro, nad ydych wedi newid eich cyflenwr nwy na’ch cyflenwr trydan yn ystod y 12 mis diwethaf. A dweud y gwir, mae’n debygol nad ydych wedi gwneud hynny yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rwyf hefyd yn mentro nad ydych wedi newid eich darparwr ISA; ac mae bron yn sicr nad ydych erioed wedi symud eich cyfrif cyfredol i fanc arall. Mae posibilrwydd bach eich bod wedi newid eich rhwydwaith ffôn symudol, yn ddiweddar, ond y rheswm y gwnaethoch hynny, tybiwn i, oedd er mwyn cael gafael ar ffôn deallus.
Gadewch i mi ddyfalu ambell beth arall.
Nid yw’r ffaith nad ydych wedi newid cyflenwr yn golygu bod gennych ymdeimlad cryf o ffyddlondeb iddo. Ac nid yw’n golygu eich bod yn sicr eich bod yn cael y fargen orau sydd ar gael.
Byddwn hyd yn oed yn mentro eich bod wedi ystyried newid cyflenwr mewn o leiaf un o’r marchnadoedd hynny, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Efallai y gwnaethoch hyd yn oed edrych ar beth arall sydd ar gael. Ond er eich bod wedi ystyried newid cyflenwr, nid ydych wedi gwneud hynny, am ei fod yn ormod o strach.
Ydy hyn yn swnio fel chi o gwbl? Mae’r data ar lefelau newid cyflenwr ym mhob un o’r marchnadoedd hynny yn awgrymu bod hynny’n debygol. Os yw’n swnio’n gyfarwydd, nid yw’n golygu bod rhywbeth o’i le arnoch chi. Ond, yn fy marn i, mae’n golygu bod rhywbeth yn bendant o’i le ar y marchnadoedd hynny.
Cawsant eu datblygu gan dybio y byddai defnyddwyr yn chwilio am fargeinion gwell ac yn manteisio arnynt yn barhaus. Mae’r manteision a ddaw yn sgîl cystadleuaeth, sef gwell gwerth, gwasanaeth gwell ac arloesi, yn dibynnu ar y dybiaeth y byddwn yn ymddwyn yn y ffordd hon.
Ond mae’r dybiaeth honno’n un wallus. Mewn gwirionedd, nid ydym yn ymddwyn fel dadansoddwyr marchnad pen pentan rhesymol. Yn ogystal â hynny, dim ond tua 28 munud y diwrnod rydym yn ei dreulio ar dasgau defnyddwyr[1]. Rydym yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser hwnnw ar dasgau sy’n ymwneud â phethau y mae’n rhaid i ni eu prynu’n rheolaidd, fel bwyd; neu ar bethau sydd eu hangen arnom ar unwaith pan fo sefyllfa benodol yn codi; neu ar bethau sy’n ddiddorol i’w prynu, fel gwyliau, anrhegion a phethau sy’n ymwneud â’n diddordebau.
Cyhyd â’n bod yn talu amdanynt, gall yr hen farchnadoedd cyfleustodau diflas fynd rhagddynt yn y cefndir.
Fodd bynnag, er nad oes gennym ddiddordeb mewn newid cyflenwr, dylai’r sefyllfa bresennol beri pryder i bob un ohonom. Pan fo diffyg gweithredu gan ddefnyddwyr yn ymledu drwy’r marchnadoedd hyn fel rhewlif, mae’r gystadleuaeth rhwng darparwyr yn cael ei ddisodli gan hunanfoddhad, mae’r manteision y dylent gael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr yn diflannu, ac mae darparwyr newydd a allai weithio’n galed yn gyfnewid am eich cwsmeriaeth yn cael eu cau allan.
Hyd yma, rydym wedi gorfod dibynnu ar reoleiddwyr neu’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Ond drwy eu hatebion nhw – sef mwy o wybodaeth neu wybodaeth well, prosesau symlach ar gyfer newid cyflenwr neu godi ymwybyddiaeth o arbedion posibl – ni ellir datrys y broblem, dim ond ei lleddfu.
Ond dyma syniad: beth pe bai defnyddwyr yn gallu cynnig yr ateb mwyaf effeithiol drwy barhau i beidio â gwneud rhyw lawer yn y marchnadoedd hyn? Dyma’r potensial a gynigir gan ddull o newid cyflenwr ar y cyd.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei gwneud yn hawdd creu grŵp, crynhoi a chyfuno ei alwadau a chydamseru ei weithredoedd er mwyn cyflawni nod a rennir. Mae busnesau yn y farchnad bargeinion dyddiol sy’n datblygu yn dibynnu ar y gallu i wneud hyn. Dyna’r union ddynameg y byddai dull o newid cyflenwr ar y cyd yn ei chreu er budd defnyddwyr.
Mae’r ddynameg hon hefyd yn creu cyd-destun lle y gall defnyddwyr gael effaith ar y cyd, heb weithredu’n unigol. Fel yr awgrymais gyda’m rhagfynegiadau, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud rhyw lawer yn y marchnadoedd hynny beth bynnag. Am resymau dealladwy.
Byddai dull o newid cyflenwr ar y cyd yn cynnig ffordd newydd i ddefnyddwyr sicrhau gwell gwerth yn y marchnadoedd hynny. Yn syml, byddai’n gwneud hynny drwy roi cyfle i ddefnyddwyr wneud y canlynol:
- ffurfio grŵp gyda’u cyfoedion a chyfuno galwadau unigolion i greu bloc cydgysylltiedig â chyfran o’r farchnad sy’n ymrwymedig i weithredu ar y cyd
- cyfuno pŵer prynu’r grŵp drwy gynnig cwsmeriaeth y bloc i ddarparwyr mewn marchnadoedd, mewn ffordd sy’n cymell y darparwyr hynny i gystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn sicrhau cwsmeriaeth y grŵp; a, thrwy wneud hynny, sicrhau mwy o werth i’r defnyddwyr dan sylw na’r hyn y gallent ei gyflawni drwy weithredu’n unigol
- newid cyflenwr ar y cyd ar ôl nodi’r cynnig mwyaf cystadleuol, gan sicrhau bod y grŵp yn symud ar y cyd i’r darparwr a gynigiodd y fargen orau i’r grŵp
Ewch i adran areithiau a digwyddiadau ein gwefan i weld cyflwyniad a roddwyd gennyf yn ddiweddar ar sut y byddai hyn yn gweithio’n ymarferol. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn chi hefyd – rydym yn awyddus i glywed p’un a yw pobl yn teimlo bod potensial i’r syniad hwn.
[1] Y Comisiwn Ewropeaidd
