Cadw’r Tariff Cyflenwi Trydan

Liz Lainé
Uwch Eiriolwr Polisi – Cynaliadwyedd

Ar ôl chwe wythnos o ymdrech sylweddol i osod panelau cyn i’r toriadau arfaethedig i’r Tariff Cyflenwi Trydan ddod i rym, bydd llawer o gwmnïau solar ffotofoltäig yn aros yn eiddgar i’r ffôn ganu. Sut y bydd cwsmeriaid yn ymateb i’r toriadau i’r Tariff Cyflenwi Trydan a ddaeth i rym ar 12 Rhagfyr?  Ac a fydd prosiectau tai cymdeithasol yn gallu talu am systemau ar y gyfradd newydd?

Ym mis Medi, gwnaethom ymchwil i brofiadau defnyddwyr o ficrogynhyrchu a’r Tariff Cyflenwi Trydan. Mae ein hadroddiad newydd Keeping FiT yn cyflwyno ein canfyddiadau a gwybodaeth gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am agweddau defnyddwyr tuag at dechnolegau adnewyddadwy.

Nid yw’r adroddiad yn canolbwyntio ar y toriadau, gan nad oedd modd rhagweld maint y toriadau na phryd y byddent yn dod i rym pan wnaed y gwaith ymchwil, ond ceir gwersi y dylem ddysgu ohonynt. Dechreuaf gyda’r pethau cadarnhaol…

  • Dangosodd y sector preifat y gall ymateb yn brydlon ac ar raddfa fawr i ymyriadau marchnad gan y Llywodraeth
  • Mae boddhad cwsmeriaid yn uchel, o gymharu â’r diffyg hyder a welwyd yn draddodiadol yn y sectorau ynni ac adeiladu
  • Roedd cwsmeriaid yn barod i wneud buddsoddiad hirdymor, gan dybio eu bod yn cynyddu gwerth eu cartrefi

Lle y ceir problemau, gallai’r Llywodraeth ddatrys rhai ohonynt drwy ei hadolygiad parhaus: er enghraifft, dylai cymhwysedd fod yn seiliedig ar y dyddiad gosod yn hytrach na’r dyddiad cofrestru; ac ni ddylai cyflenwyr orgydadfer defnyddwyr y mae eu mesuryddion yn rhedeg am yn ôl pan fyddant yn allforio trydan.

Y gosodwyr sy’n gyfrifol am ddatrys pethau eraill, yn enwedig y broblem o gam-werthu. Mae rhai’n awgrymu y bydd y toriadau’n golygu y bydd ‘busnesau ceiniog a dimau a neidiodd ar y drol solar’ yn mynd i’r wal. Ond mae angen fframwaith cryfach na hynny ar y farchnad gwasanaethau ynni i ddiogelu defnyddwyr – o reolau llymach ar alwadau diwahoddiad i fwy o adnoddau o ran gorfodi.

Felly beth nesaf i Dariffau Cyflenwi Trydan? Credwn y bydd cyfleoedd yn parhau, yn enwedig os gall y Llywodraeth sicrhau sail fwy cadarn ar gyfer ariannu’r tariff. Caiff rhai pobl gyfradd enillion resymol o hyd, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf effeithlonrwydd ynni; nid yw buddsoddwyr yn chwilio am elw mawr o reidrwydd; a bydd prisiau ynni’n parhau i godi. Ond amser a ddengys a fydd gan ddefnyddwyr a chymunedau yr hyder i fuddsoddi.

Mae’r Llywodraeth wedi sôn am ei phryderon ynghylch yr effaith ar filiau defnyddwyr. Cefnogwn yr angen i beidio â gorgydadfer, ond byddem yn ymateb i’r her mewn ffordd wahanol iawn. Er mwyn sicrhau tegwch, dylid rhoi cyfle i bawb yn hytrach na chyfyngu ar gyfleoedd ymhellach. Mae effeithiau’r Tariff Cyflenwi Trydan yn cael eu llethu gan godiadau ym mhrisiau’r cwmnïau ynni, ac mae’r Tariff Cyflenwi Trydan yn galluogi defnyddwyr i ddiogelu eu hunain rhag y codiadau mewn prisiau.

Rydym am i’r Fargen Werdd ddarparu arian uniongyrchol ar gyfer microgynhyrchu ochr yn ochr â mesurau carbon isel eraill (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd o ran effeithlonrwydd ynni). Ac rydym am i’r Llywodraeth gynnwys cynlluniau tai cymdeithasol dielw yn y tariff cymunedol (a gynigir fel rhan o’r adolygiad o’r Tariff Cyflenwi Trydan), gan gyhoeddi ateb dros dro i’r rhai a osodir erbyn mis Ebrill 2011.  Ond bydd rhai contractau wedi’u canslo, neu heb gael eu llofnodi, ac mae’n ansicr a ellir ailennyn ymddiriedaeth.

Yn olaf, hyd yma mae’r Llywodraeth wedi osgoi effeithiau ôl-weithredol ar gontractau oherwydd yr angen i sicrhau hyder buddsoddwyr. Rhaid iddi weithredu nawr er mwyn ailennyn yr hyder hwnnw yn ei pholisïau carbon isel drwy sicrhau bod newidiadau i’r tariff yn seiliedig ar ddyddiad y contract yn hytrach na’r dyddiad cofrestru.