Mae’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni, ynghyd â chostau eraill sy’n codi ac incwm yn gostwng, wedi gadael llawer iawn o bobl yn cael trafferth talu eu biliau ynni. Gyda chost ychwanegol biliau gwresogi’r gaeaf o’n blaen, rydym yn poeni y bydd llawer mwy o bobl yn mynd i ddyled gyda’u cyflenwr ynni. Mae’r ffigurau diweddaraf eisoes yn dangos cynnydd o 25% mewn dyledion trydan newydd ac 20% mewn dyledion nwy newydd yn gynharach eleni.
Mae methu fforddio talu eich bil yn gallu bod yn realiti brawychus, gyda llawer o ddefnyddwyr yn ansicr ynghylch ble i droi am help a beth ddylai eu camau nesaf fod. Dyna pam fod Llais Defnyddwyr a Cyngor Ar Bopeth yn lansio ymgyrch ar y cyd, sef ‘Atal y Ddyled’. Nod yr ymgyrch newydd yw creu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr o’r hyn ddylent ei wneud a beth yw eu hawliau os ydynt ar ôl gyda’u biliau ynni.
Mae Llais Defnyddwyr a Cyngor Ar Bopeth yn gwneud pobl yn ymwybodol o’r 5 cyngor canlynol os byddant ar ôl gyda’u biliau:
- Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni cyn gynted ag yr ydych chi’n sylweddoli y byddwch chi’n cael trafferth talu efallai. Bydd dyledion yn cronni ac yn fwy anodd eu talu po hiraf y byddwch chi’n eu gadael. Mae gan eich cyflenwr chi gyfrifoldeb i’ch helpu chi os ydych chi’n cael problemau gyda thalu eich bil.
- Dywedwch wrth eich cwmni ynni beth ydych chi’n gallu fforddio ei dalu – mae’n rhaid iddo ystyried hyn wrth gytuno ar ad-daliadau’r arian sy’n ddyledus gennych chi.
- Holwch eich cwmni ynni, canolfan leol Cyngor Ar Bopeth neu ffoniwch Linell Gymorth Home Heat ar 0800 33 66 99 i gael gwybod am unrhyw help arall sydd ar gael am ddim gydag ynni. Er enghraifft, gallech chi fod yn gymwys am ostyngiad oddi ar eich bil, neu wasanaeth insiwleiddio am ddim i helpu eich cartref rhag colli gwres ac i ostwng eich biliau.
- Hyd yn oed os ydych chi mewn dyled, efallai bod modd i chi newid i fargen ratach gyda’ch cyflenwr presennol, yn enwedig os ydych chi’n talu gydag arian parod, siec neu fesurydd talu ymlaen llaw. Os ydych chi’n talu gyda mesurydd talu ymlaen llaw ac os oes gennych chi lai na £200 o ddyled, gallwch chi hefyd newid i fargen ratach gyda chyflenwr arall.
- Mae cymorth ariannol ar gael a allai ei gwneud yn haws i chi fforddio eich biliau – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n derbyn yr holl fudd-daliadau a’r credydau treth y mae gennych chi hawl iddynt drwy gysylltu â chanolfan leol Cyngor Ar Bopeth neu drwy fynd i www.adviceguide.org.uk.
Ble mae cael help:
Cyngor Ar Bopeth:
Gall eich canolfan Cyngor Ar Bopeth leol gynnig gwybodaeth, cyngor a help diduedd os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch biliau ynni. Efallai gall cynghorwyr eich helpu chi gyda’r canlynol:
- gweld a ydych chi’n gymwys am ostyngiad oddi ar eich bil, neu wasanaeth insiwleiddio am ddim i helpu gydag atal eich cartref rhag colli gwres ac i ostwng eich biliau
- canfod a ydych chi’n colli cymorth ariannol ychwanegol
Ewch i www.citizensadvice.org.uk neu chwiliwch yn y llyfr ffôn i ddod o hyd i’ch cangen leol. Mae’r cynllun Ynni – Y Fargen Orau, sydd hefyd yn cael ei weithredu gan Cyngor Ar Bopeth ac Ofgem, yn cynnig sesiynau cynghori wyneb yn wyneb sy’n helpu pobl i edrych ar wahanol gynigion a newid cwmni, gostwng eu biliau, a chael cymorth os ydynt ar ôl gyda thaliadau. Hefyd, mae cyngor ychwanegol ar gael ar-lein drwy gyfrwng chwe ffilm cymorth newydd.
Llais Defnyddwyr:
Mae Llais Defnyddwyr yn cynnig help a chyngor amrywiol ar-lein. Ewch i’n hadran cymorth gydag ynni ni. Mae’r help sydd ar gael yn cynnwys:
- {0>Leaflets on what to do when you’re having difficulty paying your bills and how to find out if you’re missing out on free services and other benefits<}0{>Taflenni ynghylch beth i’w wneud pan ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau a sut mae cael gwybod os ydych chi’n colli gwasanaethau am ddim a budd-daliadau eraill
- Templed llythyr i’w anfon at eich cyflenwr os ydych chi’n teimlo bod y swm mae’n gofyn i chi ei ad-dalu bob mis / chwarter yn anodd ei fforddio
- Adnodd chwilio gyda chwestiynau ac atebion i helpu gyda gwybodaeth a chyngor sy’n rhoi sylw i ystod eang o faterion ynni
Age UK:
Gallai canolfan leol Age UK gynnig cyngor a gwybodaeth os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau ynni, gan ddweud wrthych chi am yr help sydd ar gael a gweld a oes gennych chi hawl i fudd-daliadau ariannol ac i welliannau cost isel neu am ddim i’ch cartref chi.
Consumer Direct:
Mae rhagor o gyngor annibynnol am faterion ynni ar gael gan Consumer Direct ar 08454 04 05 06 neu 01604 640 371
Eich cwmni ynni:
Mae’n rhaid i’ch cwmni ynni chi eich helpu chi i ad-dalu’r swm sy’n ddyledus ar gyfradd y gallwch chi ei fforddio. Nodir manylion cyswllt gwasanaethau’r cwsmer y gwahanol gwmnïau ynni isod:
{0>British Gas Tel:<}57{>Nwy Prydain Ffôn: 0800 048 0202
EDF Energy Ffôn: 0800 096 9000
E.ON Ffôn: 0845 059 9905
npower Ffôn: 0845 070 4851 (debyd uniongyrchol misol) 0845 070 4850 (cwsmeriaid arian parod, siec neu ddebyd uniongyrchol chwarterol) 0845 070 4853 (cwsmeriaid mesurydd talu ymlaen llaw)
Grŵp SSE Ffôn: 0845 7444 555 (SSE a Southern Electric) 0845 300 2141 (Scottish Hydro) 0800 052 5252 (SWALEC) 0845 073 3030 (Atlantic)
Scottish Power Ffôn: 0845 270 0700
Co-operative Energy Ffôn: 0800 954 0693
Ebico Ffôn: 0800 458 7689
Ecotricity Ffôn: 0845 555 7100 (cwsmeriaid domestig)
First Utility Ffôn: 0845 215 5000
Good Energy Ffôn: 0845 601 14104
Green Energy Ffôn: 0800 783 8851
Ovo Ffôn: 0800 5996 4440
Spark Energy Ffôn: 0845 034 7474
Utilita Ffôn: 0845 450 4357
Utility Warehouse Ffôn: 0844 815 7777
Rhagor o gymorth gydag ynni effeithlonrwydd ac arbedion ynni:
Gallwch gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 012 neu Llinell Gymorth Home Heat ar 0800 336699 am gyngor ynghylch arbed ynni ac am y grantiau a’r cynlluniau sydd ar gael i’ch helpu chi i wneud eich cartref yn gynhesach ac arbed arian.
Hefyd, mae gwybodaeth gyffredinol ynghylch sut gall defnyddwyr arbed arian ar eu biliau trydan drwy newid y dull o dalu, y tariff neu’r cyflenwr, a thrwy insiwleiddio eu cartref, ar gael fel rhan o’r ymgyrch Gwirio, Newid ac Insiwleiddio i Arbed, yn dilyn cynhadledd ynni’r DU ar 17 Hydref. Ceir manylion yn nhudalennau cyngor ynni gwefan DirectGov.
Gwybodaeth i gynghorwyr: Ceir gwybodaeth i weithwyr asiantaethau cynghori, a phosteri a thaflenni’r ymgyrch ‘Atal y ddyled’, yn ein tudalennau cynghori arbenigol ni. Os nad ydych chi’n gallu gwneud defnydd o’r rhain, cysylltwch â’n tîm cymunedol defnyddwyr ni.
