Prinder arian a diffyg arweinyddiaeth yn bygwth atal gwaith diogelwch bwyd

 

Mae angen dros £2.5m o arian ychwanegol y flwyddyn i hybu safonau diogelwch bwyd a helpu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd i atal trychineb E.coli mawr arall.

Cynhaliodd Llais Defnyddwyr Cymru adolygiad o’r camau a gymerwyd yn y flwyddyn ers i’r Athro Hugh Pennington gyhoeddi ei argymhellion yn dilyn yr Ymchwiliad Cyhoeddus i ddiogelwch bwyd. Canfuwyd bod prinder arian a diffyg arweinyddiaeth yn bryderon mawr.

Amcangyfrifir bod angen rhwng £2.5m a £3m y flwyddyn o arian ychwanegol i weithredu argymhellion Pennington ond, ar hyn o bryd, dim ond £180,000 y flwyddyn o arian ychwanegol a ddyrennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i awdurdodau lleol.

Mae’r adolygiad hefyd yn beirniadu Llywodraeth y Cynulliad am beidio ag ymgymryd â rôl gryfach o ran cyfarwyddo’r gwaith a wnaed ar ôl cyhoeddi adroddiad Pennington, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o’r £2.3 miliwn a wariwyd i gynnal yr ymchwiliad cyhoeddus. 

Mae galwadau hefyd ar i awdurdodau lleol flaenoriaethu gwariant ar hylendid bwyd yn eu cyllidebau blynyddol.

Dywedodd Maria Battle, Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru: ‘Penderfynwyd cynnal yr adolygiad hwn am fod gan ddefnyddwyr yr hawl i wybod a yw argymhellion yr Athro Pennington wedi’u gweithredu’n llawn a beth sydd wedi newid ers yr achosion o E.coli yn 2005 i gynyddu diogelwch bwyd ac atal achos mawr arall.

‘Bu llawer o’r gwaith a wnaed gan awdurdodau cyhoeddus mewn ymateb i’r ymchwiliad yn drwyadl, yn amserol ac yn briodol. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen gwneud mwy.

‘Hoffem weld Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu arian wedi’i glustnodi i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod ganddynt yr adnoddau i weithredu’r argymhellion. Gyddom y bydd arian yn brin ond mae’n hanfodol bod gwasanaethau iechyd yr amgylchedd yn cael eu hariannu’n gywir er mwyn atal achosion eraill o E.coli.’

Neilltuodd Gweithrediaeth yr Alban £2.6 miliwn y flwyddyn am bum mlynedd ar gyfer hylendid bwyd yn dilyn argymhellion gan yr Athro Pennington, ar ôl achos tebyg o E.coli O157 yn 1996, cam a sicrhaodd y gallai adrannau iechyd yr amgylchedd feithrin gallu ac adnoddau i ganolbwyntio ymdrechion ar wneud y gwelliannau a argymhellwyd.

Dywedodd yr Athro Hugh Pennington: ‘Mae’r adolygiad awdurdodol hwn gan Llais Defnyddwyr Cymru yn dangos bod llawer wedi’i wneud ond bod llawer mwy i’w wneud o hyd. Mae’r adolygiad yn sbardun ac yn ysgogiad pwerus ar gyfer cymryd camau gweithredu pellach.

‘Un o’r prif themâu yw prinder arian. Mae arian yn brin i’r sawl sy’n sicrhau diogelwch bwyd mewn busnesau a’u rheoleiddwyr. Bydd y pwysau cynyddol ar gyllidebau yn parhau. Ond ni fydd y bygythiad o E.coli O157 yn newid. Rhaid i gamau ataliol barhau i fod yn flaenoriaeth.’

Dywedodd Sharon Mills, a gollodd ei mab 5 mlwydd oed, Mason, yn ystod yr achos a welwyd yn ne Cymru yn 2005: ‘Credaf fod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru ofyn iddi’i hun a yw wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu ei phobl. Collodd fy mhlentyn pum mlwydd oed ei fywyd ac mae nifer o blant ifanc eraill yn dal i ddioddef canlyniadau’r achos hwn. Bydd angen i rai ohonynt gael triniaeth a gofal parhaus am gryn amser.

‘Gwnaethom alw am dryloywder ar ôl i’r argymhellion hyn gael eu cyhoeddi a chredaf fod yr adroddiad hwn yn rhoi rhai atebion hirddisgwyliedig i rai o’r cwestiynau y mae’r asiantaethau dan sylw wedi methu â’u hateb ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Pennington.

‘Dengys yr adroddiad hwn, er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, fod llawer mwy sydd angen ei wneud o hyd. Dyna pam bod yr arian mor hanfodol.’

Mater arall a amlygwyd gan yr adolygiad yw defnyddio cyfarpar gwahanol ar gyfer cig amrwd a bwydydd sy’n barod i’w bwyta, sef y peth mwyaf tebygol a arweiniodd at yr achos yn 2005 a’r achos yn yr Alban yn 1996.

Nid yw’r gyfraith yn nodi’n glir a ddylai swyddogion iechyd yr amgylchedd ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd ddefnyddio peiriannau gwahanol ar gyfer cig amrwd a bwydydd sy’n barod i’w bwyta. Mae awdurdodau lleol gwahanol yn ymdrin â’r mater hwn mewn ffyrdd gwahanol. 

Mae’r adolygiad yn galw ar i’r Asiantaeth Safonau Bwyd gyhoeddi canllawiau sy’n nodi’n glir na ddylid byth defnyddio cyfarpar cymhleth, sy’n anodd ei lanhau ar gyfer cig amrwd a bwydydd sy’n barod i’w bwyta.

 

 

Nodiadau i olygyddion

Mae’r cyhoeddiad hwn yn grynodeb o’r camau gweithredu a gymerwyd hyd yn hyn, flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ar ymchwiliad yr Athro Pennington. Mae’n seiliedig ar wybodaeth a roddwyd gan sefydliadau yn cynnwys:

•           Llywodraeth Cynulliad Cymru

•           Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru

•           Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

•           Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru

•           Swyddfa Gwell Rheoleiddio Lleol

•           Iechyd Cyhoeddus Cymru

•           Haemolytic Uraemic Syndrome Help

•           Ffederasiwn Busnesau Bach

•           Cymdeithas y Cyflenwyr Cig Annibynnol

•           Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd

 

Llais Defnyddwyr Cymru yw’r hyrwyddwr dros ddefnyddwyr Cymru.  Rydym yn mynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig i ddefnyddwyr ac yn ceisio rhoi llais cryfach i bobl.

Nid rhoi sylw i broblemau yn unig a wnawn – rydym yn gweithio gyda defnyddwyr ac amrywiaeth o sefydliadau i hyrwyddo atebion sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau defnyddwyr. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau i sicrhau eu bod yn rhoi defnyddwyr yn gyntaf ac yn herio’r sawl nad ydynt yn gwneud hynny.

Social

Twitter RSS Email Newsletter

Tools & Projects

ea-help-finder-tools-thunmbnail

Energy Apps: Help Finder tool

The Help Finder tool shows what grants, discounts, free energy help and assistance you’re are entitled to, based on personal circumstances.

view