Telerau ac Amodau
Mae Llais Defnyddwyr yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar ei wefan yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, nid yw’r wybodaeth yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol neu broffesiynol ac ni all Llais Defnyddwyr dderbyn unrhyw atebolrwydd dros weithredoedd sy’n codi o’i defnyddio.
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni cyswllt â gwefannau eraill. Dylech fod yn ymwybodol nad yw Llais Defnyddwyr yn gyfrifol am gynnwys neu arferion preifatrwydd gwefannau eraill o’r fath. Wedi ichi gael mynediad i wefan arall drwy un o’n dolenni cyswllt, byddwch yn dod dan bolisi diogelwch a phreifatrwydd y wefan honno. Rydym yn annog ein defnyddwyr i fod yn effro pan fyddant yn gadael ein gwefan ac i ddarllen datganiadau preifatrwydd gwefannau eraill.
Mae Llais Defnyddwyr yn annog defnyddwyr i osod dolenni hyperdestun i gysylltu â’r wefan hon.
