Polisi Preifatrwydd
Eich preifatrwydd chi
Mae Llais Defnyddwyr wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd rhai sy’n defnyddio’r wefan. Os byddwch yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol i ni, byddwn yn ei thrin yn gyfrinachol ac ni chaiff eich manylion eu rhoi neu eu gwerthu i neb.
Nid yw Llais Defnyddwyr yn gofyn am fanylion personol y rhai sy’n defnyddio ein gwefan. Gallwch gael mynediad i’n gwefan heb fewngofnodi’n gyntaf gan ddefnyddio enw defnyddiwr personol unigryw a chyfrinair.
Bydd unrhyw wybodaeth a gasglwn ar lein yn cael ei defnyddio i’n helpu i ddeall mwy am y modd y mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan, ac i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth i chi.
Mae Llais Defnyddwyr yn gwneud pob ymdrech i sicrhau diogelwch ac uniondeb negeseuon e-bost ar ein systemau. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu diogelwch llwyr yr holl ddata a drosglwyddir ar lein. Oherwydd hynny, er ein bod yn ymdrechu i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol wedi i ni ei chael, ni all Llais Defnyddwyr warantu diogelwch gwybodaeth wrth ei throsglwyddo.
Ein preifatrwydd ni – ailddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus
- Y cyd-destun
- Sut gallaf wneud cais am ailddefnyddio gwybodaeth?
- A roddir caniatâd bob tro i ailddefnyddio dogfennau?
- Amodau ar ailddefnyddio
- Talu
- Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun arall am ailddefnyddio’r un wybodaeth?
- Beth fydd yn digwydd os gwrthodwn?
- Cwynion
Y cyd-destun
Ar 1 Gorffennaf 2005 daeth rheoliadau i rym sy’n caniatáu i’r cyhoedd wneud cais am ailddefnyddio gwybodaeth sydd wedi’i dal gan Llais Defnyddwyr i hyrwyddo eu hymchwil a’u cyhoeddiadau eu hunain.
Ystyr ‘ailddefnyddio’ yw defnyddio’r wybodaeth at ddiben heblaw’r diben y cynhyrchwyd y ddogfen i’w gyflawni’n wreiddiol. Gallai hyn gynnwys rhesymau masnachol.
Mae’r dudalen hon yn egluro sut gallwch wneud cais am ailddefnyddio gwybodaeth.
Bydd Llais Defnyddwyr:
- yn caniatáu defnyddio gwybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan am ddim ar yr amod na thresmasir ar hawlfraint a hawliau eiddo deallusol;
- yn ystyried caniatáu defnyddio gwybodaeth sydd heb ei chyhoeddi am ddim ar yr amod na thresmasir ar hawlfraint a hawliau eiddo deallusol
Sut gallaf wneud cais am ailddefnyddio gwybodaeth?
- Ysgrifennwch eich cais
- Rhowch eich enw a chyfeiriad ar gyfer cysylltu
- Enwch y ddogfen yr ydych am ei hailddefnyddio.
Anfonwch eich cais i:
Llais Defnyddwyr Cymru
3ydd Llawr Twr y Ddinas
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd CF10 3AG
Ffôn: 02920 787100
Ffacs: 02920 787101
E-bost: contact@consumerfocus.org.uk
Rhaid inni ymateb i’ch cais cyn pen 20 o ddiwrnodau gwaith. Os ceir cais y tu allan i oriau gweithio arferol (er enghraifft, yn yr hwyr neu ar benwythnos) caiff ei drafod fel pe byddai wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf.
Mae’n bosibl weithiau y bydd angen ymestyn y terfyn amser 20 niwrnod. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn eich hysbysu cyn y terfyn amser am y rhesymau dros ei ymestyn ac am y dyddiad pan ydym yn disgwyl ymateb.
Mae ‘ymateb i gais’ yn gallu golygu un o dri pheth:
- darparu’r ddogfen a geisir i’w hailddefnyddio, neu
- os rhoddir amodau ar ei hailddefnyddio, cwblhau’r cynnig i chi o’r amodau ar ganiatáu ei hailddefnyddio, neu
- wrthod y cais.
A roddir caniatâd bob tro i ailddefnyddio dogfennau?
Ddim bob tro. Gallwn wrthod ceisiadau am un neu ragor o’r rhesymau canlynol:
- Mae’r ddogfen yn cynnwys gwybodaeth y mae’r hawliau eiddo deallusol arni’n eiddo i drydydd parti.
- Mae cynnwys y ddogfen wedi’i esemptio rhag ei ddatgelu dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
- Mae’r ddogfen y tu allan i faes ein swyddogaethau statudol.
Amodau ar ailddefnyddio
Gallwn osod amodau ar ailddefnyddio dogfennau. Ni fydd yr amodau hyn yn cyfyngu’n ddiangen ar y modd y gellir ailddefnyddio dogfen, nac yn cyfyngu ar gystadleuaeth.
Talu
Gallwn godi tâl am ganiatáu ailddefnyddio, ond nid ydym yn cael codi mwy nag y mae’n ei gostio i ni i ddarparu’r wybodaeth. Byddwn yn dangos sut mae taliadau wedi’u cyfrifo.
Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun arall am ailddefnyddio’r un wybodaeth?
Ni allwn wahaniaethu rhwng dau geisydd sy’n gofyn am yr un wybodaeth. Rhaid delio â’r ddau gais.
Ni allwn roi hawliau unigryw i ailddefnyddio’r wybodaeth, ac eithrio lle na ellir darparu gwasanaeth er budd y cyhoedd heblaw drwy roi hawliau unigryw. Os rhoddir hawliau unigryw i geisydd, dylai’r rhain bara am gyfnod cymharol fyr fel y gellir eu hadolygu. Cytunir ar hyn, er enghraifft, bob 3 blynedd, ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid cyhoeddi manylion y cytundeb ar hawliau unigryw ar ein gwefan.
Beth fydd yn digwydd os gwrthodwn?
Os byddwn yn gwrthod eich cais am ailddefnyddio, rhaid inni roi gwybod i chi drwy lythyr am y rheswm dros wrthod. Rhaid inni roi gwybod i chi hefyd am eich hawliau i gael adolygiad mewnol ac i apelio.
Os gwrthodir am fod trydydd parti’n berchen ar yr hawliau eiddo deallusol ar gyfer yr eitem dan sylw, rhaid inni ddweud wrthych pwy sy’n berchen ar yr hawliau eiddo deallusol perthnasol, os yw’r wybodaeth honno gennym; neu enw’r person y cawsom y ddogfen ganddo.
Cwynion
Beth gallwch ei wneud os nad ydych yn fodlon ar y modd yr ydym wedi trafod eich cais
Os ydych yn anfodlon ar y modd yr ydym wedi trafod eich cais, gallwch ofyn am adolygiad. I wneud hynny, dylech anfon neges cyn pen 40 o ddiwrnodau ar ôl eich hysbysu am y penderfyniad i:
Llais Defnyddwyr Cymru
3ydd Llawr Twr y Ddinas
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd CF10 3AG
Ffôn: 02920 787100
Ffacs: 02920 787101
E-bost: contact@consumerfocus.org.uk
Byddwn yn ceisio ymateb i’ch cwyn cyn pen 20 o ddiwrnodau gwaith. Unwaith eto, os nad ydym yn gallu gwneud hyn, byddwn yn eich hysbysu yn ystod y cyfnod hwn ac yn rhoi rheswm a dyddiad disgwyliedig newydd ar gyfer ymateb.
Beth gallaf ei wneud os wyf yn dal yn anfodlon
Ar ôl cael ymateb gennym, os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch gysylltu â Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) yn:
Office of Public Sector Information
Admiralty Arch
North Side
The Mall
Llundain
SW1A 2WH
Mae’n ofynnol i OPSI gyhoeddi manylion am y modd y bydd yn delio â chwynion. Mewn rhai amgylchiadau, mewn cysylltiad ag achosion cymhleth, gallai fynnu bod yr achwynydd yn talu ffi o £750 na ellir ei had-dalu.
Rhaid cyflwyno unrhyw apêl i OPSI cyn pen 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad pan gawsoch eich hysbysu gennym ni am ganlyniad ein hadolygiad mewnol.
Ac os byddaf yn dal yn anfodlon wedyn?
Gallwch fynd â’ch cwyn at y Panel Cynghori ar Wybodaeth y Sector Cyhoeddus (APPSI).
Rhaid i’ch apêl:
- fod yn ysgrifenedig
- nodi natur yr apêl
- cynnwys copi o benderfyniadau OPSI a Llais Defnyddwyr
- cael ei chyflwyno i APPSI cyn pen 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad pan gawsoch eich hysbysu gan OPSI am ganlyniadau ei adolygiad
- Caiff APPSI godi tâl o £750 i brosesu cwyn.
Gellir cysylltu ag APPSI yn:
Advisory Panel on Public Sector Information
1.35 Admiralty Arch
The Mall
Llundain
SW1A 2WH
Ffôn: 020 7276 5216
Ffacs: 020 7276 5207
