Polisi ac Ymchwil

Cynhwysiant ariannol

Allgáu Ariannol a Dyled

Yn aml mae’r bobl hynny sydd wedi’u hallgáu’n ariannol, h.y. pobl heb gyfrifon banc, pobl y mae’n well ganddynt reoli eu cyllidebau mewn arian parod, neu bobl y gwrthodir rhoi cyfleusterau credyd prif ffrwd iddynt, yn gorfod talu mwy am nwyddau a gwasanaethau oherwydd y ffordd maent yn talu. Gall diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion ariannol yn aml arwain at benderfyniadau ariannol gwael. Gall canlyniadau anfwriadol penderfyniadau o’r fath olygu bod pobl yn ei chael hi’n anodd cyllidebu, yn cael trafferth talu am hanfodion bob dydd, fel bwyd, tanwydd a chostau cartref eraill, yn fwy tebygol o fynd i ddyled na ellir ei rheoli a bod darparwyr diegwyddor yn fwy tebygol o fanteisio arnynt. Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn nodi’r problemau a wynebir gan ddefnyddwyr wrth ymdrin â materion yn ymwneud ag arian ac yn ymchwilio iddynt, gan ganolbwyntio’n benodol ar bobl sydd wedi’u hallgáu’n ariannol neu sydd o dan anfantais benodol. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn ceisio sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y canlynol: • cynhyrchion bancio sy’n diwallu eu hanghenion a’u hamgylchiadau; • mathau fforddiadwy a phriodol o gredyd, cynilion ac yswiriant; • cyngor ar ddyledion ac arian y gellir cael gafael arno’n hawdd; • ac yn bwysicaf oll, bod buddiannau’r defnyddiwr wrth wraidd unrhyw benderfyniadau polisi a wneir gan y llywodraeth a’r diwydiant gwasanaethau ariannol.

Newyddion Diweddaraf

mwy o newyddion: cynhwysiant ariannol dyled arian allgau ariannol