Polisi ac Ymchwil

Rydym ni’n sefydliad sy’n eirioli ar ran defnyddwyr ac yn ymwneud â pholisïau defnyddwyr ar draws yr economi, ond ni allwn ymdrin â phob marchnad sy’n methu a phob blaenoriaeth o ran diogelu defnyddwyr. Er mwyn i ni allu gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol, rydym yn canolbwyntio ar y meysydd hynny lle y mae gennym gyfrifoldeb penodol neu lle y gallwn wneud gwahaniaeth mawr.

 Fodd bynnag, pan fyddwn yn ymchwilio i farchnadoedd a gwasanaethau mae gennym dri nod syml.

  • Os yw defnyddwyr yn cael eu trin yn annheg rydym yn eu grymuso, cyn belled ag y bo’n bosibl, i ddatrys y broblem eu hunain.
  • Os yw penderfyniadau polisi pwysig yn cael eu gwneud neu os oes methiant sylweddol yn y farchnad, rydym yn cynrychioli buddiannau defnyddwyr gan gyflwyno tystiolaeth gref a dadleuon eglur.
  • Os yw rhai grwpiau o ddefnyddwyr yn eu cael eu hunain dan anfantais, byddwn yn herio cwmnïau, rheoleiddwyr ac eraill i ddiogelu eu buddiannau a’u hamddiffyn yn well.

Ni yw’r corff defnyddwyr statudol ar gyfer y marchnadoedd ynni a gwasanaethau post. Mae gennym hefyd raglenni gwaith ym meysydd gwasanaethau ariannol, gwasanaethau cyhoeddus, cyfathrebu digidol a hawliau defnyddwyr.

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter