Newyddion

Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn cyhoeddi newidiadau ym maes defnyddwyr

Cyhoeddwyd 12 Ebrill 2012

Cyhoeddwyd cynigion newydd heddiw gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ar gyfer newidiadau yn ymwneud â defnyddwyr.

Bydd y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn ymgymryd â chyfrifoldeb Llais Defnyddwyr am gynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn sectorau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru a Lloegr. Bydd hyn yn gadael Uned Diwydiannau Rheoledig newydd, dechnegol i weithio gyda’r sectorau ynni a gwasanaethau post a’u rheoleiddwyr, gan ddisodli Llais Defnyddwyr.

Mae ar ddefnyddwyr angen gwybod at bwy i droi pan fydd ganddynt broblem, a dyna pam y bydd Cyngor ar Bopeth a Chyngor ar Bopeth yr Alban yn ymgymryd â chyfrifoldebau ac adnoddau’r Swyddfa Masnachu Teg a Llais Defnyddwyr. Mae’r broses eisoes ar waith, a lansiwyd llinell gynghori newydd gan Gyngor ar Bopeth ar 2 Ebrill, i ddisodli llinell ffôn Cyswllt Defnyddwyr. 

Bydd Safonau Masnach yn parhau i chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o amddiffyn defnyddwyr a busnesau, a dyma pam y mae Llywodraeth y DU yn darparu £10.5 miliwn ychwanegol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban i ddatblygu arbenigedd lleol a chryfhau trefniadau ar gyfer gweithio ar draws ffiniau – gan ei gwneud yn haws dal masnachwyr diegwyddor.

Un rhan o’r diwygiadau fydd sefydlu Bwrdd Safonau Masnach Cenedlaethol newydd, gan ddwyn cynrychiolwyr Safonau Masnach Cymru a Lloegr ynghyd i flaenoriaethu, ariannu a chydlynu achosion gorfodi cenedlaethol a rhanbarthol.

Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth bwysig o bob cwr o’r wlad i fynd i’r afael â masnachwyr anonest, ac ymdrin â blaenoriaethau megis twyll ar y rhyngrwyd, cynlluniau benthyca arian yn anghyfreithlon a materion gorfodi eraill sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau awdurdodau lleol.

Meddai Rhys Evans, Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru:

“Rwy’n croesawu cwblhad yr adolygiad o faterion yn ymwneud â defnyddwyr. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddatblygu Uned Diwydiannau Rheoledig a fydd yn cynrychioli buddiannau defnyddwyr Cymru mewn marchnadoedd hanfodol gan gynnwys ynni a’r post.  Byddwn hefyd yn gweithio gyda Chyngor ar Bopeth Cymru i ystyried beth fydd yn digwydd i’r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud y tu hwnt i’r meysydd hyn, er mwyn i’r broses bontio gael ei rheoli mewn modd llyfn sy’n parhau i ganolbwyntio ar fuddiannau defnyddwyr yng Nghymru.

“Rydym yn croesawu’r gefnogaeth a gafwyd gan randdeiliaid dros y 3 blynedd ddiwethaf, a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynglŷn â’r cynlluniau wrth iddynt ddatblygu.  Byddwn yn paratoi ein cynllun gwaith blynyddol ar gyfer y flwyddyn i ddod yn fuan, a bydd y cynllun hwn yn cydnabod yr her o drosglwyddo peth o’n gwaith i Gyngor ar Bopeth Cymru a chreu’r Uned newydd ar yr un pryd.”

Nodiadau i olygyddion

Dyma’r cyhoeddiad yn llawn gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact: