Newyddion

Y Post Brenhinol yn methu cyrraedd ei dargedau dosbarthu post dosbarth cyntaf

Cyhoeddwyd 8 Gorffennaf 2010

Mae’r canlyniadau cronnus ar gyfer y flwyddyn yn dangos bod y Post Brenhinol wedi methu cyrraedd ei dargedau o ran dosbarthu post dosbarth cyntaf ym mhob rhanbarth yng Nghymru’r llynedd, a hynny o ganlyniad i weithredu diwydiannol a thywydd gwael.

Roedd ffigurau Cymru yn gyson â rhai gweddill Prydain Fawr oherwydd dros bedwar chwarter 2009/2010, ni lwyddodd y Post Brenhinol i gyrraedd ei darged o ddosbarthu 91.5 y cant o bost dosbarth cyntaf (post gyda stamp neu wedi’i ffrancio) erbyn y diwrnod wedyn, ac roedd hynny’n wir am bob ardal cod post yng Nghymru. 

Roedd Casnewydd, sef yr ardal â’r perfformiad gwaethaf yng Nghymru, dros dri y cant o’r targed (88.2).

Dywedodd Liz Withers, Prif Eiriolwr Polisi Llais Defnyddwyr Cymru: ‘Mae angen i’r Post Brenhinol godi ei safonau os yw am fodloni anghenion defnyddwyr Cymru a chyrraedd ei dargedau. Bydd Llais Defnyddwyr Cymru yn sôn wrth y Post Brenhinol am y canlyniadau hyn, gan ei herio i o leiaf gyrraedd y targedau Ardaloedd Cod Post, a hynny ar unwaith. 

‘Byddwn yn dal ati i fonitro’i berfformiad yn ofalus eleni, ond credwn y dylai’r canlyniadau wella yn dilyn y cytundeb a lofnodwyd rhwng y Post Brenhinol ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ym mis Mawrth.’

Yn ddiweddar, cynhaliodd Llais Defnyddwyr Cymru ymchwil[1] i ganfod pa faterion yn ymwneud â’r post sy’n bwysig i ddefnyddwyr.

Canfuom nad oedd 83% o bobl yn gwybod beth oedd pris stamp dosbarth cyntaf, ac mai dim ond 42% o bobl oedd yn fodlon â’r system o dalu am lythyrau neu becynnau ar sail eu maint a’u pwysau.

Dywedodd Ms Withers: ‘Mae ein hymchwil hefyd yn dangos bod gan y Post Brenhinol dipyn o ffordd i fynd i sicrhau bod defnyddwyr yn deall prisiau stampiau ar gyfer pecynnau o wahanol feintiau. Ni ddylai defnyddwyr golli allan oherwydd oedi wrth ddosbarthu eu post neu am fod y sawl sydd i fod i dderbyn y post wedi gorfod talu tâl ychwanegol gan nad yw’r tâl cludiant cywir wedi cael ei dalu.’

Nodiadau i olygyddion

Heddiw, lansiodd Llais Defnyddwyr Cymru adroddiad chwarterol dilynol a fydd yn edrych ar berfformiad y Post Brenhinol ac yn pwyso a mesur barn ac agweddau pobl ynghylch materion yn ymwneud â Swyddfa’r Post.

Cliciwch i ddarllen yr adroddiad

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter