Bydd cynigion Llywodraeth Cymru i roi mwy o amser i fusnesau bwyd apelio yn erbyn sgôr hylendid ac i roi mwy o amser i awdurdodau lleol ystyried unrhyw apêl yn achosi oedi sylweddol cyn y caiff y wybodaeth ei harddangos. Dyna’r rhybudd gan Lais Defnyddwyr Cymru.
O dan y system gyfredol, dim ond saith diwrnod a gaiff busnesau bwyd i apelio yn erbyn sgôr ond mae Bil Sgoriau Hylendid Bwyd (Cymru) y llywodraeth yn bwriadu ymestyn y cyfnod hwn i 21 diwrnod. Mae’r corff gwarchod defnyddwyr yn ofni y gallai hyn achosi oedi o bron i ddeufis (56 diwrnod) cyn y caiff y wybodaeth ei harddangos, oherwydd gallai apeliadau a gaiff eu hystyried gan awdurdodau bwyd gymryd hyd at 21 diwrnod o dan y cynigion newydd, yn dilyn y cyfnod o 14 diwrnod y bydd awdurdod eisoes wedi’i gael ar ôl yr arolygiad cychwynnol i anfon ei hysbysiad am ei sgôr i fusnes bwyd, gan hysbysu’r busnes hwnnw o’i hawl i apelio.
Ceir pryderon hefyd am y sgîl-effaith a gaiff oedi apeliadau ar y cyfnod o amser y bydd yn ei gymryd i gyhoeddi sgoriau ar wefan Cynllun Sgoriau Hylendid Bwyd (FHRS) yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol cyhoeddi sgoriau arolygiadau ar y wefan am 91 diwrnod ond gallai’r oedi arfaethedig wrth apelio olygu y byddai’n cymryd tua phedwar mis (112 diwrnod) cyn y byddant yn ymddangos.
Dywedodd Liz Withers, Pennaeth Polisi yn Llais Defnyddwyr Cymru:
‘Er ein bod yn gwerthfawrogi’r ffaith bod pryderon wedi’u codi yn ystod yr ymgynghoriad o ran effaith gwyliau naill ai gweithredwyr bwyd neu gynrychiolwyr awdurdodau bwyd sy’n gyfrifol am y materion hyn y mae angen amser arnynt i ymateb, rydym o’r farn bod 21 diwrnod yn ormodol. Gallai hyn arwain at oedi sylweddol o bron i ddeufis cyn y gall defnyddwyr weld y sgôr newydd ar safle’r busnes bwyd.
‘Rydym o’r farn bod y terfynau amser cyfredol o dan y cynllun gwirfoddol, sef saith diwrnod, yn rhesymol ac yn gymesur. Fodd bynnag, gan werthfawrogi’r pryderon a godwyd gan awdurdodau, efallai y byddai’n fwy priodol ymestyn y cyfnod hwn i 10 diwrnod. Mae’n bwysig bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth cyn gynted â phosibl heb greu rhwystrau biwrocrataidd diangen.
’Er ein bod yn gadarn o blaid cyflwyno’r Bil hwn, mae’n hanfodol bod manylion y cynigion hyn yn iawn er mwyn sicrhau y gall defnyddwyr weld gwybodaeth am hylendid bwyd yn haws. Mae’n allweddol sicrhau y gall defnyddwyr weld gwybodaeth gyfredol a dibynadwy am sgoriau cyn gynted â phosibl ar ôl arolygiad.’
Bydd Llais Defnyddwyr yn argymell i’r pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (ar 12 Gorffennaf 2012) y dylai busnes bwyd orfod cyflwyno apêl o fewn 10 diwrnod o’r dyddiad y caiff hysbysiad. Bydd hefyd yn argymell y dylai awdurdod bwyd benderfynu ar yr apêl a hysbysu gweithredwr y sefydliad am ei benderfyniad o fewn 10 diwrnod o’r dyddiad y derbyniwyd yr apêl.
