Newyddion

Sicrhau bod adroddiadau arolygu hylendid bwyd ar gael

Cyhoeddwyd 8 Mawrth 2012

Mae Llais Defnyddwyr Cymru am i Lywodraeth Cymru wrando ar ddefnyddwyr a sicrhau bod adroddiadau arolygu hylendid bwyd ar gael yn hawdd fel rhan o’r Bil hylendid bwyd.

Yn ôl arolwg gan y corff gwarchod, mae mwy na 90 y cant o bobl yng Nghymru o’r farn y dylai defnyddwyr allu cael gafael yn hawdd ar adroddiadau arolygu sy’n dangos pam y cafodd busnesau bwyd sgôr benodol.

Mae Llais Defnyddwyr Cymru am i’r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod adroddiadau arolygu hylendid llawn ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Mae mwy na 160 o bobl wedi llofnod deiseb Llais Defnyddwyr i ddweud wrth y Llywodraeth eu bod hefyd am i ddirwyon cosb penodedig gael eu gosod yn y fan a’r lle ar fusnesau bwyd nad ydynt yn arddangos eu sgôr hylendid ar eu safle i’r cyhoedd ei gweld. Daw’r ymgynghoriad ar gyfer y Bil i ben heddiw (7fed Mawrth) ac mae gan bobl y cyfle o hyd i nodi eu barn drwy lofnodi ffurflen ar-lein syml Llais Defnyddwyr Cymru.

Dywedodd Maria Battle, Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru:

‘Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru wedi dweud wrthym eu bod am gael system safonau hylendid bwyd syml a thryloyw gan ei gwneud yn orfodol arddangos sgoriau hylendid bwyd. Maent hefyd am allu lawrlwytho adroddiadau arolygu o wefan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, y dywedodd mwy na hanner y bobl wrthym y dylent allu cael gafael ar y wybodaeth drwy godi’r ffôn neu ysgrifennu at eu cyngor lleol. Ar hyn o bryd, mae’n anodd i ddefnyddwyr gael gafael ar y wybodaeth hon.

‘Mae cannoedd o bobl wedi llofnodi ein deiseb i ddweud eu bod o blaid cosbau yn y fan a’r lle fel ymateb i unrhyw fusnesau bwyd nad ydynt yn arddangos sgorau gwael ar eu safle. Mae cynlluniau tebyg sydd wedi bod ar waith yn Efrog Newydd a Toronto wedi bod yn llwyddiannus gan helpu i atal busnesau rhag peidio ag arddangos eu sgôr yn y lle cyntaf a gwella safonau.

‘Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar yr hyn y mae pobl Cymru am ei weld ac yn achub ar y cyfle hwn i wneud Cymru yn esiampl ragorol o ddiogelwch bwyd.’

Nodiadau i olygyddion

Canfyddiadau allweddol o’r arolwg

Mae 94 y cant o bobl o’r farn y dylai fod yn orfodol i fusnesau bwyd yng Nghymru arddangos eu sgôr hylendid bwyd

Mae 92 y cant o bobl o’r farn y dylai defnyddwyr sydd am wybod y rheswm pam mae safle bwyd wedi cael sgôr allu cael gafael ar y wybodaeth yn haws na thrwy gais Rhyddid Gwybodaeth.

Mae 85 y cant o bobl o’r farn y dylent allu gwneud hyn drwy’r wefan

Mae 57 y cant o’r farn y dylent allu gwneud hyn drwy ffonio’r awdurdod lleol i ofyn am gopi o’r adroddiad

Mae 49 y cant o’r farn y dylent allu gofyn am gopi o’r adroddiad drwy ysgrifennu at yr awdurdod lleol

Mae 50 y cant o bobl yng Nghymru wedi gweld y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd neu’r Cynllun Sgorau ar y Drysau sy’n rhoi sêr i fusnesau bwyd yn ôl lefelau hylendid neu wedi clywed am y cynlluniau hynny.

Gwnaeth 42 y cant o’r bobl sydd wedi clywed am y cynllun glywed amdano drwy’r teledu, papur newydd neu’r radio.

Cynhaliwyd cyfanswm o 1,002 o gyfweliadau ffôn â sampl gynrychioliadol o oedolion 16 oed a throsodd rhwng 11eg Hydref ac 17eg Hydref 2011 fel rhan o arolwg omnibws ffôn Opinion Research Services (ORS).

  1. Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael yn ymgynghoriad Cymru ac yn dod i ben ar 7fed Mawrth 2012
  2. Dolen i ganfyddiadau arolwg Hylendid Bwyd Llais defnyddwyr http://www.consumerfocus.org.uk/wales/cy/newyddion/mae-defnyddwyr-yng-nghymru-yn-awyddus-i-allu-cael-gafael-ar-adroddiadau-hylendid-bwyd-yn-hawdd

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact: