Newyddion

Safonau hylendid bwyd heb fod yn ddigon da ar gyfer grwpiau bregus

Cyhoeddwyd 22 Mawrth 2011

Mae gan fwy na 60 o safleoedd sy’n gweini bwyd i bobl bregus sgôr hylendid bwyd sy’n is na’r safon, yn ôl adroddiad gan y corff gwarchod Llais Defnyddwyr Cymru.

Mae’r ail adroddiad cynnydd ar E.coli O157 yn dangos bod angen i feithrinfeydd, ysgolion, colegau, safleoedd gofal ac ysbytai yng Nghymru wneud gwelliannau mawr o ran hylendid bwyd. Ers i’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ddechrau ym mis Hydref 2010, mae 30 o ysgolion a cholegau yng Nghymru a archwiliwyd o safbwynt hylendid bwyd wedi cael sgôr o ddau neu lai. Mae cyfleusterau 30 o safleoedd gofal a thri ysbyty wedi cael sgorau yr un mor wael hefyd.

Mae hyn yn golygu, yn gyffredinol, nad oeddent yn cydymffurfio ag un agwedd neu fwy ar y gyfraith hylendid bwyd.

Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw ar awdurdodau lleol i fod yn fwy agored, ac yn mynnu bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn awdurdodi ac yn annog awdurdodau lleol i sicrhau bod adroddiadau archwilio llawn ar gael i’r cyhoedd eu lawrlwytho ar wefan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Mae hefyd yn galw ar Gynulliad Cymru i ddefnyddio ei bwerau newydd i gyflwyno Deddf sy’n mynnu bod busnesau bwyd yn arddangos sgorau hylendid mewn safleoedd busnes.

Meddai Maria Battle, Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru: ‘Mae’n annerbyniol bod sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus, megis ysbytai ac ysgolion, yn gweini bwyd i bobl bregus er gwaethaf y ffaith nad ydynt yn bodloni gofynion statudol ynglŷn â hylendid bwyd.

‘Yr arf fwyaf effeithiol i wella hylendid bwyd yw sicrhau bod busnesau’n agored i gael eu barnu gan y cyhoedd, drwy fynnu eu bod yn arddangos eu sgorau hylendid bwyd yn y safle. Pa well cymhelliant i gynhyrchwyr bwyd na gwybod y bydd eu sgôr i’w gweld yn gyhoeddus ac na fydd modd cuddio eu methiannau mwyach? Yn y byd go iawn, nid ydym bob amser yn chwilio ar-lein cyn i ni fwyta.

‘Mae’r ffaith fod y mwyafrif llethol o sefydliadau sy’n gweini bwyd i grwpiau bregus yn cael sgorau uchel yn ei gwneud yn anoddach fyth deall pam mae nifer fechan yn cael sgôr mor wael.

‘Mewn rhai achosion, bu’n anodd i ni gael gafael ar adroddiadau arolygu llawn er mwyn canfod y rhesymau dros y sgorau gwael hyn. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gwrthod rhyddhau adroddiadau ar fusnesau bwyd os oes hyd yn oed y posibilrwydd lleiaf y gallai’r busnes wynebu camau cyfreithiol yn y dyfodol.

‘Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn credu y byddai’n sicr o fudd i’r cyhoedd gael gwybod y rhesymau pam nad yw safleoedd sy’n gweini bwyd i grwpiau bregus yn bodloni’r gofynion statudol o ran hylendid bwyd. Mae gan bobl yr hawl i gael gwybod pam mae’r sefydliad y maen nhw neu eu hanwyliaid yn ei ddefnyddio wedi cael sgôr mor wael, o bosibl, o ran hylendid bwyd, a’r hyn sy’n cael ei wneud ynglŷn â’r sefyllfa.’

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r ffaith fod rhai awdurdodau lleol yn Lloegr wedi sicrhau bod eu holl adroddiadau arolygu ar gael ar eu gwefannau. Efallai y bydd yr awdurdodau hyn yn dal i wrthod cyhoeddi rhai adroddiadau, ond dim ond os yw’n debygol iawn y bydd camau cyfreithiol yn cael eu cymryd.

Ychwanegodd Ms Battle:

‘Mae hyn yn dangos bod y lefel hon o ddatgelu yn realistig a bod modd ei chyflawni. Dylai’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru alluogi ac annog awdurdodau lleol i sicrhau bod adroddiadau arolygu llawn ar gael i’w lawrlwytho ar wefan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.’

Mae Labordai Llais Defnyddwyr, cangen ar-lein Llais Defnyddwyr, wedi creu map sy’n dangos lleoliad ysgolion, colegau a safleoedd gofal yng Nghymru sydd â sgôr o ddau neu lai ar hyn o bryd (ar 17/03/2011) gan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld y map: http://consumerfocus.org.uk/g/4nw

Nodiadau i olygyddion

Mae ein hadolygiad yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd trwy ymgynghori â sefydliadau allweddol a gynrychiolir yn y Grŵp Diogelwch Bwyd Defnyddwyr. Fforwm a arweinir gan Lais Defnyddwyr Cymru yw hwn, ac mae’n ceisio adfer ymddiriedaeth y cyhoedd mewn diogelwch bwyd yn sgil yr achosion o E.coli O157. Rydym hefyd wedi bod yn ymgysylltu’n helaeth â theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan yr achosion a gafwyd yn 2005 yn ogystal ag achosion eraill o E.coli O157 yng Nghymru.

Argymhellion:

Dylai’r Asiantaeth Safonau Bwyd fonitro faint o fusnesau bwyd nad ydynt wedi sefydlu system ar gyfer rheoli diogelwch bwyd, gan sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fynnu bod pob sefydliad cyhoeddus yn dilyn canllawiau Gwerth Cymru ar hylendid wrth gaffael bwyd, er mwyn sicrhau nad yw defnyddwyr mewn mwy o berygl o gael salwch sy’n gysylltiedig â bwyd yn ystod y cyfnod hwn o gwtogi ar wariant cyhoeddus.

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddiffinio sut y dylid parhau i fonitro gweithrediad argymhellion yr Athro Pennington yn y blynyddoedd i ddod.

Materion yn ymwneud â chwsmeriaid:

Gallai’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, sy’n cael ei gyflwyno gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar hyn o bryd, fod yn arf bwerus i rymuso defnyddwyr. Fodd bynnag, bydd y cynlluniau presennol i ganiatáu i fusnesau ddewis pa un a ydynt am arddangos eu sgorau yn y safle ai peidio, yn amharu’n ddifrifol ar effeithiolrwydd y cynllun.

Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fod y wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud yn orfodol i arddangos sgorau hylendid. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y cynllun, er bod nifer yn Lloegr a’r Alban heb wneud ymrwymiad o’r fath eto. Rydym wedi cael cyngor cyfreithiol sy’n datgan bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o ganlyniad i’r refferendwm ar 3 Mawrth, y grym bellach i newid y gyfraith i’w gwneud yn orfodol i arddangos sgorau hylendid.

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter