Newyddion

Rhaid i wasanaeth cwynion y GIG beidio ag anwybyddu anghenion pobl bregus

Cyhoeddwyd 2 Ebrill 2010

Yn ôl prif gorff gwarchod defnyddwyr Cymru, mae system gwynion syml ar gyfer GIG Cymru yn pwyso’n drwm ar fod yn wasanaeth hyblyg heb jargon er mwyn bodloni anghenion cwsmeriaid bregus.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar y gwelliannau arfaethedig i’r ffordd y mae’n delio â phryderon pobl drwy system gwynion annibynnol ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

Drwy sefydlu yn corff i wrando ar bryderon pobl, gobaith Llais Defnyddwyr Cymru yw na fydd lleisiau pobl bregus yn cael eu hanwybyddu.

Byddai system gwynion ganolog yn golygu system newydd a fyddai’n gwneud yn siŵr mai pobl sy’n delio’n benodol â chwynion fyddai’n delio â’r pryderon y bydd cleifion, teuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd yn eu codi.

Dywedodd Jennie Bibbings, Uwch Eiriolwr Polisi Llais Defnyddwyr Cymru: “Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn darparu cysondeb a sicrwydd i bobl bod rhywun yn gwrando ar eu pryderon.”

Er y dylai adroddiad ysgrifenedig gael ei greu bob tro, mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi argymell y dylai’r defnyddiwr allu cysylltu’n uniongyrchol â’r unigolyn penodol sy’n delio â’r achos, â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu ag eiriolwr annibynnol.

Ychwanegodd Jennie Bibbings: “Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn, ond mae arnom angen gweld mwy o fanylion ynghylch sut y bydd y system yn gweithio pan fydd ar waith.

“Yn Llais Defnyddwyr Cymru, rydym yn aml yn dod ar draws enghreifftiau lle mae defnyddio termau cymhleth wedi golygu nad yw achosion o gyfathrebu ag aelodau o’r cyhoedd wedi cael yr effaith a fwriadwyd. Mae ein gwaith gyda theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan E.coli O157 wedi dangos sut y gall peidio â dweud sori mewn ffordd uniongyrchol, gyda chydymdeimlad, arwain yn rhwydd at waethygu drwgdeimlad.  

“Fe hoffem weld canllawiau clir ar y math o iaith y dylid ei defnyddio wrth gyfathrebu, yn enwedig wrth ymddiheuro. Yn aml iawn, y cyfan y mae ar bobl ei eisiau yw ymddiheuriad, ond dyma’n union pryd y mae cyrff cyhoeddus yn debyg o guddio y tu ôl i jargon.”

 

Nodiadau i olygyddion

I gael manylion llawn am ymateb Llais Defnyddwyr Cymru i Gweithio i Wella: ffordd well o ddelio â phryderon am wasanaethau iechyd ffoniwch 02920 787110.

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter