Mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi cyhoeddi mai Rhys Evans fydd ei Uwch Gyfarwyddwr newydd o 1 Ebrill, 2012.
Bydd Mr Evans yn olynu Maria Battle, sy’n dechrau swydd newydd fel cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Dywedodd Viv Sugar, Cadeirydd Llais Defnyddwyr Cymru: “Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Rhys Evans yn dechrau ei swydd fel Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru ar ôl i Maria Battle ein gadael ar ddiwedd mis Mawrth. Mae gan Rhys brofiad cadarn o faterion sy’n ymwneud â defnyddwyr ar ôl gweithio i Lais Defnyddwyr Cymru ers iddo gael ei sefydlu, a Chyngor Defnyddwyr Cymru cyn hynny. Mae wedi gwneud argraff dda yn ei swydd fel dirprwy uwch gyfarwyddwr dros y tair blynedd diwethaf.
“Rwy’n gwybod ei fod eisoes wedi sicrhau ymddiriedaeth y bwrdd ac ystod eang o randdeiliaid, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i sicrhau y bydd y newidiadau sydd ar fin digwydd o ran materion defnyddwyr ledled y DU yn gwella’r diogelwch sydd ar gael i ddefnyddwyr yng Nghymru.”
Proffil
Mae Rhys Evans wedi bod yn ddirprwy uwch gyfarwyddwr yn Llais Defnyddwyr Cymru ers iddo gael ei sefydlu ym mis Hydref 2008
Cyn hynny, roedd yn gweithio i Gyngor Defnyddwyr Cymru.
Yn y gorffennol mae wedi gweithio fel Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Morgannwg ac fel rheolwr cyfrifon yn Quadrant Media & Communications

