Newyddion

Peidiwch â gadael i anrhegion peryglus ddifetha eich Nadolig

Cyhoeddwyd 11 Rhagfyr 2009

 

Caiff defnyddwyr eu rhybuddio i wirio nad ydynt wedi prynu unrhyw deganau neu nwyddau eraill peryglus yn ystod y cyfnod prysur sy’n arwain at y Nadolig.

Mae teganau i blant yn cyfrif am dros chwarter y 1,000 o eitemau sydd wedi’u hadalw yn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y chwe mis diwethaf, yn ôl gwefan Labordai Llais Defnyddwyr ar gyfer nwyddau sydd wedi’u hadalw, Recalled Products.

Mae’r teganau hynny’n cynnwys set o ddoliau Be My Baby, a gafodd eu hadalw’n wirfoddol y mis diwethaf yn y DU gan y cwmni sy’n eu gwerthu, oherwydd eu bod yn cynnwys lefel beryglus o gemegolion gwenwynig, a’u bod yn peri risg i blant ifanc felly.

Dillad a nwyddau ffasiwn oedd y categori uchaf wedyn, a oedd yn cyfrif am ychydig dros 23 y cant o’r eitemau a alwyd yn ôl, ac roedd offer trydanol diffygiol neu beryglus yn cyfrif am naw y cant o’r eitemau.

Meddai Joe Cicero o Labordai Llais Defnyddwyr: “O ystyried bod teganau diffygiol neu beryglus yn cyfrif am y gyfran fwyaf o nwyddau a gaiff eu hadalw, mae’n bwysig bod defnyddwyr sydd â theuluoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod cyfnod prysur y Nadolig.

“Rydym wedi gweld nifer o deganau i blant yn cael eu hadalw’n wirfoddol gan eu gwneuthurwyr yn ystod y mis diwethaf, heb fawr ddim cyhoeddusrwydd, os o gwbl. Eto i gyd, gallai pobl fod wedi prynu’r teganau hyn i’w rhoi yn hosan Nadolig eu plant, ac efallai y byddant yn anghofio amdanynt wedyn nes bod eu plentyn yn agor yr anrheg ddydd Nadolig, sy’n hollol ddealladwy.

“Ond nid teganau’n unig a gaiff eu hadalw; mae angen i ddefnyddwyr fod yn ofalus gydag anrhegion poblogaidd megis offer trydanol, dillad a chynnyrch harddwch hefyd. Gall nwyddau diffygiol achosi perygl go iawn i ddefnyddwyr nad ydynt yn aml yn ymwybodol o’r ffaith y dylai’r nwyddau gael eu dychwelyd. Mae’n bwysig bod y cyhoedd yn gallu cael gafael ar wybodaeth sy’n gallu eu diogelu nhw a diogelu eu teuluoedd.

“Fel arfer, drwy hap a damwain y bydd defnyddwyr yn dod yn ymwybodol o’r nwyddau a gaiff eu hadalw – byddant yn digwydd gweld hysbysiadau mewn papurau newydd a siopau, ac efallai y byddant yn defnyddio rhestrau cyfredol ar-lein weithiau. Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod gwybodaeth am nwyddau a gaiff eu hadalw’n dod ar gael i bobl nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd.”

Hyd yn hyn, mae defnyddwyr o dros 70 o wledydd ar draws y byd wedi defnyddio gwefan Recalled Products. Mae’r wefan yn casglu data am gynnyrch sydd wedi’i adalw o’r DU a’r Comisiwn Ewropeaidd, ac mae’n cyhoeddi’r data trwy gyfrwng rhybuddion wythnosol neu fisol drwy e-bost a bwletinau newyddion o’r rhyngrwyd.

Yn ogystal mae’r wefan, y gellir ei defnyddio’n rhad ac am ddim, yn rhoi cyngor i ddefnyddwyr ynghylch beth i’w wneud pe baent yn prynu unrhyw un o’r nwyddau sydd wedi cael eu hadalw.

 

I gofrestru i ddefnyddio’r wefan, ewch i http://recalledproducts.org

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddog Cyfryngau, Jamie Pike, ar 02920 787110

 

Nodiadau i olygyddion

 

Gellir gweld yr ystadegau a’r graffiau, sy’n dangos nifer y nwyddau sydd wedi’u hadalw, ar wefan Recalled Products, trwy glicio yma.

 

Os ydych yn byw yn y DU ac os oes angen cyngor pellach arnoch ynghylch eich hawliau fel defnyddiwr, cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 06, neu ar 0845 040505 i gael gwasanaeth Cymraeg, neu ewch i www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk.

 

Mae Labordai Llais Defnyddwyr yn datblygu adnoddau ar-lein i sicrhau bod trafodion pobl â chwmnïau’n decach, arbed arian iddynt neu sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am nwyddau neu faterion sy’n bwysig iddynt. Mae’n un o brosiectau Llais Defnyddwyr, sef y sefydliad statudol newydd sy’n ymgyrchu i sicrhau tegwch i ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a Gogledd Iwerddon hefyd o ran gwasanaethau post.

 

 

Diwedd

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter