Newyddion

Llais Defnyddwyr yn disgwyl adroddiad Ofgem ar y farchnad ynni

Cyhoeddwyd 9 Hydref 2009

6 Hydref 2008

Heddiw dywedodd Llais Defnyddwyr, y corff eirioli annibynnol newydd i ddefnyddwyr, ei fod yn credu bod cyfle pwysig gan Ofgem, drwy ei ymchwiliad i’r farchnad ynni, i roi terfyn ar flynyddoedd o gystadlu annigonol, prisio annheg a safonau gwasanaeth gwael yn y diwydiant ynni.

Meddai Ed Mayo, Prif Weithredwr Llais Defnyddwyr: “Mae tystiolaeth helaeth a damniol bod defnyddwyr ynni wedi bod yn talu’r pris, am flynyddoedd lawer, am ddiffygion y farchnad. Pan oedd prisiau’n isel, roedd yn ymddangos bod y rheoleiddiwr yn goddef y diffygion, ond nid oes esgus yn awr dros beidio â gweithredu, ac nid ydym yn disgwyl hynny chwaith. Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, mae hon yn adeg i reoleiddwyr reoleiddio a sicrhau bod y rheolau’n gweithio o blaid defnyddwyr.

“Mae Llais Defnyddwyr yn disgwyl hefyd y bydd ymchwiliad manwl Ofgem i’r chwe chyflenwr ynni mawr yn y DU yn rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud â thegwch. Am gyfnod rhy hir o lawer, mae’r defnyddwyr sy’n fwyaf agored i niwed wedi talu mwy na’r pris arferol am fesuryddion talu ymlaen llaw ac rydym yn hyderus y bydd Ofgem yn gallu rhoi pen ar yr anghyfiawnder hwn o’r diwedd. Rydym yn amcangyfrif y gallai cwmnïau ynni fod wedi cymryd siâr o tua £540 miliwn ar ffurf refeniw ychwanegol gan gwsmeriaid sy’n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw. Os felly, mae hyn yn ddeg gwaith yn fwy na’r hyn y mae cyflenwyr yn ei wario ar hyn o bryd ar dariffau cymdeithasol.”

diwedd

Ymholiadau gan y cyfryngau: Llais Defnyddwyr 0870 626 9966

Nodiadau i olygyddion

  • Hyd yn oed ar ôl ystyried y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â gweithredu mesuryddion talu ymlaen llaw, mae cwmnïau ynni’n cael £540 miliwn yn fwy o refeniw ychwanegol bob blwyddyn gan gwsmeriaid sy’n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw nag y byddent pe byddai’r cwsmeriaid hynny’n talu drwy dariffau debyd uniongyrchol ar-lein.
  • Mae hyn yn fwy na 10 gwaith yn fwy na’r hyn y mae cyflenwyr yn ei wario ar hyn o bryd ar dariffau cymdeithasol (£50 miliwn) ac yn fwy na thair gwaith yn uwch na’r £150 miliwn y maent yn gobeithio ei wario ar dariffau cymdeithasol erbyn 2010/11.
  • Mae cwsmeriaid sy’n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw yn sybsideiddio’r tariffau debyd uniongyrchol rhatach sydd ar lein; mae llawer ohonynt yn methu â chael mynediad atynt oherwydd lefel eu hincwm, am nad oes ganddynt gyfrif banc neu am eu bod mewn dyled.

Mae ymchwil gan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio ac Ofgem yn dangos bod:

  • mwy na 1,000 o fesuryddion talu ymlaen llaw yn cael eu gosod ym Mhrydain bob dydd i adennill dyledion ynni;
  • 1 ym mhob 3 o unig rieni sydd â phlant dibynnol, 1 ym mhob 3 o bobl sydd â salwch hirdymor neu anabledd, ac 1 ym mhob 3 o bobl sy’n ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau’n dibynnu ar fesuryddion talu ymlaen llaw i dalu am eu hynni;
  • un rhan o dair o’r 5.5 miliwn o deuluoedd sydd mewn tlodi tanwydd yn defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw.

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter