Llais Defnyddwyr Cymru yn croesawu lansiad Gwasanaeth Cyngor ar Arian yng Nghymru:
Dywedodd Lindsey Kearton, arbenigwraig ariannol yn Llais Defnyddwyr Cymru:
‘Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn croesawu lansiad y Gwasanaeth Cyngor ar Arian yng Nghymru gan fod ein hymchwil yn dangos bod llawer o ddefnyddwyr yn ei chael hi’n gynyddol anodd cadw trefn ar faterion ariannol cymhleth.
‘Dengys ein canfyddiadau bod cyfran sylweddol o ddefnyddwyr yng Nghymru yn cael eu drysu gan fanylion cynhyrchion a gwasanaethau ariannol.
‘Cyfaddefodd dros chwarter y defnyddwyr eu bod wedi prynu cynhyrchion heb ddeall yn iawn beth roeddynt wedi cytuno iddo, sy’n peri pryder. Gall hyn fod yn arwain at lawer o bobl yn prynu neu’n defnyddio cynhyrchion ariannol mwy costus, amhriodol neu ddiangen yn anfwriadol.
‘Drwy roi’r sgiliau a’r wybodaeth gywir i bobl er mwyn rheoli eu harian, dylai’r Gwasanaeth Cyngor ar Arian newydd eu helpu i deimlo eu bod wedi’u harfogi’n well i ddelio â digwyddiadau sy’n newid bywydau ac anawsterau ariannol yn ogystal â rhoi’r hyder iddynt wneud penderfyniadau ariannol hyddysg.
Ystadegau allweddol:
Dengys arolwg[1] ar gyfer Llais Defnyddwyr Cymru bod bron dwy ran o dair o bobl yng Nghymru (65 y cant) yn cyfaddef eu bod yn cael trafferth deall yr iaith a ddefnyddir mewn gwasanaethau a chynhyrchion ariannol. Roedd pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) yn fwy tebygol o gael eu drysu na phobl hŷn (65 oed a throsodd).
Dywedodd dros hanner y rhai a gafodd eu cyfweld (56 y cant) nad yw banciau’n gwneud digon ar hyn o bryd i sicrhau bod gwybodaeth am eu cynhyrchion yn hawdd i’w deall.
, a dywedodd mwy nag un o bob pedwar (28 y cant) eu bod wedi prynu cynnyrch ariannol heb ddeall yn iawn beth roeddent yn ei brynu.
Roedd y rheini mewn grwpiau incwm uwch yn llai tebygol o gael trafferth na grwpiau incwm is, er bod cyfran gymharol uchel (59 y cant) o ddefnyddwyr o’r grŵp cyntaf yn dal i’w chael hi’n anodd deall gwybodaeth o’r fath.
Mewn arolwg arall, dengys ein canfyddiadau[2] bod 80 y cant o bobl yng Nghymru yn ystyried eu bod yn dda am gyllidebu a rheoli eu harian er bod gwahaniaeth amlwg rhwng defnyddwyr iau a defnyddwyr hŷn.
Cytunodd llai na dwy ran o dair (64 y cant) o ddefnyddwyr rhwng 18 a 24 oed eu bod yn dda am gyllidebu o gymharu ag ychydig dros 90 y cant o bobl 65 oed a throsodd. Y gydberthynas gyffredinol yw eich bod yn teimlo’n fwy medrus o ran rheoli eich arian wrth i chi fynd yn hŷn.
Nid yw’n syndod o edrych ar yr uchod mai pobl ifanc oedd fwyaf tebygol o fod am gael help yn y maes hwn. Dywedodd traean (33 y cant) o bobl ifanc rhwng 18 a 34 oed yr hoffent gael mwy o gyngor ar sut i gyllidebu a rheoli eu harian, o gymharu â dim ond un o bob 10 (10 y cant) o bobl 55 oed a throsodd.
