Mae defnyddwyr mewn perygl oherwydd bod y gyfraith yn amwys ynghylch caniatáu busnesau bwyd i ddefnyddio’r un offer i baratoi bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta, yn ôl rhybudd gan Lais Defnyddwyr Cymru.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) yn gofyn am farn pobl ar ganllawiau drafft newydd er mwyn ei gwneud yn amlwg i fusnesau bwyd bod yn rhaid iddynt sicrhau bod bwydydd amrwd a pharod i’w bwyta’n cael eu cadw ar wahân i’r graddau posibl.
Yn Ne Cymru yn 2005 ac yn yr Alban yn 1996 bu farw nifer o bobl ar ôl cael eu heintio ag E.coli O157 am nad oedd offer a ddefnyddiwyd i baratoi bwydydd amrwd ac wedi’u coginio wedi’u glanhau’n ddigon trylwyr.
Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn annog defnyddwyr i ysgrifennu at yr FSA i gefnogi’r canllawiau arfaethedig. Bydd hyrwyddwr y defnyddwyr yn dosbarthu taflenni i bobl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy’r wythnos nesaf.
Meddai Maria Battle, Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru: ‘Byddai gwneud yn siŵr bod busnesau’n defnyddio offer gwahanol – yn enwedig peiriannau cymhleth sy’n anodd eu glanhau fel offer pacio gwactod, briwio a thafellu – yn atal traws heintio, yn lleihau clefydau sy’n cael eu cario mewn bwyd a thrwy hynny’n arbed bywydau.
‘Mae’n wirioneddol bwysig bod Llais Defnyddwyr Cymru yn clywed barn pobl ar y mater hwn. Yr ydym am i ddefnyddwyr sy’n cytuno â ni ddweud wrth yr Asiantaeth am gyhoeddi’r canllawiau hyn a’u hategu â rhybuddion clir i fusnesau ynghylch yr hyn fydd yn digwydd os na fyddant yn cydymffurfio.’
Gall defnyddwyr anfon eu hymatebion at: http://www.llaisdefnyddwyrcymru.org.uk/bwyddiogelach
Mi fydd Llais Defnyddwyr Cymru yn anfon ymatebion ymlaen at yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Nodiadau:
Gofynnir am ymatebion erbyn: 5 Hydref 2010
Am ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, ewch i: http://www.food.gov.uk/consultations/consulteng/2010/reducingriskecolio157eng
