Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw ar berchnogion safleoedd cartrefi mewn parciau a’u cynrychiolwyr i weithio gyda nhw i helpu i wella amodau byw i breswylwyr.
Mae’r hyrwyddwr i ddefnyddwyr wedi siarad gyda phob awdurdod lleol a gyda dros 250 o berchnogion cartrefi mewn parciau ledled Cymru. Maent yn awr yn galw ar berchnogion safleoedd a [1]chyrff y diwydiant i gymryd rhan mewn ymgynghoriad er mwyn gallu gwella’r berthynas rhwng preswylwyr a pherchnogion.
Mae’r dystiolaeth a gasglwyd gan y corff gwarchod defnyddwyr yn awgrymu bod rhai preswylwyr na chânt eu diogelu’n ddigonol rhag perchnogion safleoedd diegwyddor. Mae nifer o breswylwyr wedi adrodd am broblemau gyda gweithredwyr safleoedd yn rhwystro gwerthiant cartrefi – gan achosi colled ariannol i’r preswylydd sy’n berchen ar yr eiddo. Cafwyd honiadau gan eraill eu bod wedi wynebu aflonyddu a bygythiadau gan berchnogion safleoedd drygionus sy’n pardduo enw da’r diwydiant.
Meddai Lowri Jackson, Rheolwr Polisi yn Llais Defnyddwyr Cymru:
‘Gwyddom y ceir llawer o berchnogion safleoedd da, sy’n rhedeg safleoedd cartrefi mewn parciau dedwydd, dan reolaeth dda, ond gwyddom hefyd fod nifer o berchnogion safleoedd diegwyddor i’w cael sy’n gwneud bywydau’r preswylwyr yn anhapus.
‘Am y rheswm hwn, bu Llais Defnyddwyr Cymru yn gweithio i ganfod y problemau mwyaf a chanfod atebion a fydd yn sicrhau budd i breswylwyr a pherchnogion safleoedd fel ei gilydd.
‘Rydym eisiau helpu i ganfod pam ac ym mha ffordd nad yw’r system yn gweithio ar hyn o bryd i breswylwyr cartrefi mewn parciau, y meysydd y mae angen eu newid, a beth ddylai’r newidiadau hyn fod. Mae hefyd yn bwysig darparu llais i breswylwyr cartrefi mewn parciau a’r rheini sy’n eu cynrychioli.
‘Rydym hefyd eisiau sicrhau bod perchnogion safleoedd da yn cael eu diogelu rhag i berchnogion safleoedd drygionus niweidio eu henw da a bod y diwydiant cartrefi mewn parciau yn cael ei gryfhau drwy ddiwygio effeithiol seiliedig ar dystiolaeth.’
Nodiadau i’r golygyddion
Cynhelir yr ymgynghoriad hyd at 5 Mehefin 2012 a gall perchnogion safleoedd a chyrff y diwydiant cartrefi mewn parciau lawrlwytho’r ddogfen yn:
[1] Cymdeithas Wyliau a Chartrefi mewn Parciau Prydain a’r Cyngor Carafanau Cenedlaethol
