Newyddion

Gallai cod ymarfer newydd ddiogelu defnyddwyr glo ac olew

Cyhoeddwyd 20 Gorffennaf 2010

Gallai cod ymarfer newydd ar gyfer cyflenwyr tanwydd gwresogi wneud llawer i fynd i’r afael â rhai o’r anfanteision a wynebir gan bobl nad yw eu cartrefi wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith Nwy.

Mae gwaith ymchwil diweddar gan Llais Defnyddwyr Cymru yn dangos bod pobl nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy yn wynebu costau uwch ar gyfer gwresogi eu cartrefi, a lefelau uwch o dlodi tanwydd yn sgîl hynny. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer y rhai ar incwm isel. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio olew gwresogi fel eu prif danwydd, ond dim ond mewn swmp y gellir ei gludo ac felly gall y gost amrywio’n fawr.

Yn ôl yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, nid yw 16 y cant o adeiladau Cymru wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy, o gymharu â 9 y cant yn Lloegr[1].

Dywedodd Ceri Williams, Uwch Eiriolwr Polisi yn Llais Defnyddwyr Cymru: “Mae effaith yr argyfwng economaidd yn golygu bod nifer y cartrefi sydd mewn dyled tanwydd yn cynyddu, a chanfu ein harolwg fod dyled tanwydd a methiant i ailgyflenwi glo neu nwy petrolewm hylifedig (LPG) yn broblem fawr i rai cwsmeriaid.

“Hoffem weld cyflenwyr olew, LPG a glo yn gwneud mwy i helpu eu cwsmeriaid i reoli eu biliau drwy gynlluniau rheoli dyled a dewisiadau talu mwy hyblyg. Hoffem hefyd weld y diwydiant yn cyflwyno cod ymarfer i greu mwy o gystadleuaeth rhwng cyflenwyr ac i wella’r gwasanaeth y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl.”

Mae llawer o ddefnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy yn byw mewn ardaloedd gwledig mewn hen gartrefi nad ydynt wedi’u hinswleiddio’n dda ac sydd felly’n costio mwy i’w gwresogi. Mae’r ffactorau hyn, yn ogystal â chostau uwch dewisiadau amgen i nwy yn aml, yn golygu bod defnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy yn fwy tebygol o ddioddef o dlodi tanwydd na defnyddwyr sydd wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy.

Gall cartrefi a wresogir gan olew gwresogi, LPG neu lo gael llai o ddiogelwch cyfreithiol na’r rhai a wresogir gan drydan neu nwy. Caiff cyflenwyr trydan a nwy eu rheoleiddio gan Ofgem ac maent yn ddarostyngedig i amodau yn ymwneud â thrin defnyddwyr mewn perthynas â phrisio, marchnata, dyled a datgysylltu, ond ni chaiff defnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy eu diogelu yn y ffyrdd hyn. Gellid mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn drwy bennu cod ymarfer i gyflenwyr.

Er i’r gwaith ymchwil ganfod bod llawer o ddefnyddwyr â diddordeb mewn cysylltu â’r rhwydwaith nwy, ychydig iawn sy’n fodlon gwario’r symiau angenrheidiol (tua £6,000) i gysylltu â’r rhwydwaith a gosod boeler newydd. Hefyd, canfu’r gwaith ymchwil dystiolaeth sy’n dangos bod defnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy â mwy o ddiddordeb mewn microgynhyrchu, megis paneli solar a phympiau gwres, ar gyfer eu cartrefi.

Mae llywodraethau ym Mae Caerdydd a San Steffan yn awyddus i hyrwyddo microgynhyrchu, felly gallai’r canfyddiad hwn fod yn werthfawr i lunwyr polisi yn y maes hwn. Dangosodd traean o’r defnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy ddiddordeb mewn microgynhyrchu. Dim ond i un o bob pump o’r defnyddwyr sydd wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy y mae hyn yn berthnasol.

Nodiadau:

Cyfwelwyd â 600 o ddefnyddwyr ar ran Llais Defnyddwyr Cymru rhwng mis Ionawr a mis Chwefror 2010.

Caiff yr adroddiad – Defnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy a Microgynhyrchu – ei lansio yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mawrth 20fed Gorffennaf am 11am. Bydd y digwyddiad yn cynnwys trafodaeth banel gyda Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Viv Sugar, Cadeirydd Llais Defnyddwyr Cymru a James Lambert o’r Gymdeithas Tanwyddau Solet.

Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw ar y Swyddfa Masnachu Teg i gyflwyno cod ymarfer y mae’r diwydiant yn cytuno arno mewn perthynas â thryloywder prisiau a gwasanaeth cwsmeriaid.

Canfu’r adroddiad fod cyfraddau newid i ddefnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy 20% yn is na’r ffigur ar gyfer defnyddwyr sydd wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy.

Cliciwch i ddarllen yr adroddiad llawn.

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter