Newyddion

Dylai sgorau hylendid bwyd gael eu harddangos

Cyhoeddwyd 24 Mehefin 2010

Heddiw, bydd y prif sefydliad ar gyfer defnyddwyr Cymru yn galw am drosglwyddo pwerau cyfreithiol ar frys er mwyn ei gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr hylendid ar y safle.

Wrth roi tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch atal achosion E.coli O157, bydd Maria Battle, Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru, yn annog Aelodau’r Cynulliad i geisio’r pwerau ychwanegol a fyddai’n eu galluogi i orfodi busnesau i ddangos eu sgorau hylendid bwyd mewn mannau hawdd i ddefnyddwyr eu gweld.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wrthi’n llunio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Sgorau ar y Drysau’, ond rhywbeth gwirfoddol yw dangos y sgorau dan y cynllun hwnnw. Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr ymweld â gwefan i gael gwybod am fusnesau nad ydynt yn perfformio’n dda.

Dywedodd Ms Battle: ‘Ceir consensws yng Nghymru ein bod am roi defnyddwyr wrth y llyw, drwy gymell bwytai a bwytai cario allan i ddangos y sgorau hylendid a roddwyd iddynt gan arolygwyr hylendid bwyd. Ond ar hyn o bryd, nid yw’r Cynulliad yn meddu ar y pwerau i sicrhau ei bod yn orfodol dangos y sgorau. Byddwn yn annog Aelodau’r Cynulliad i geisio’r pwerau hynny cyn gynted â phosib er mwyn i Gymru allu arwain y gwaith o ddiogelu defnyddwyr.

‘Mae’r rhan fwyaf o’r cynlluniau sgorio hylendid bwyd a geir yn rhyngwladol yn mynnu bod yr wybodaeth yn cael ei dangos, a bu hyn yn llwyddiannus o ran mynd ati i leihau’r niferoedd sy’n gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd gwenwyn bwyd, yn ogystal â gwella proffidioldeb busnesau sydd â sgorau da.

‘Gwyddom fod naw ym mhob deg defnyddiwr yng Nghymru am i’r wybodaeth fod ar gael i bawb ei gweld. Dim ond ar y wefan y bydd yr wybodaeth ar gael – ond pwy sy’n meddwl am edrych ar wefan hylendid bwyd pan mae’n llwglyd? A beth am yr un rhan o dair o bobl Cymru sydd heb fynediad at y rhyngrwyd? Mae angen i sgorau hylendid bwyd fod ar gael pan fydd y defnyddwyr am benderfynu, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau doeth.  Dylai’r Cynulliad gael gafael ar y pwerau hynny er mwyn i ni allu gweithredu yng Nghymru.’

Roedd ymchwil ddiweddar yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos cefnogaeth unfrydol ymhlith defnyddwyr i ’w gwneud yn orfodol i ddangos yr wybodaeth, a chanfu arolwg gan Llais Defnyddwyr Cymru ym mis Medi 2009 fod naw ym mhob deg o bobl yn meddwl y dylai sgorau hylendid bwyd gael eu gweld yn gyhoeddus.

 Nodiadau:

Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru y prynhawn yma.  Mae’r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad byr i’r modd y gweithredir argymhellion Adroddiad Pennington, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2009. 

Lluniwyd Adroddiad Pennington yn sgil ymchwiliad cyhoeddus i’r amgylchiadau a arweiniodd at achosion E.coli O157 mewn ysgolion yn Ne Cymru yn 2005.

Mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi comisiynu barn gyfreithiol sy’n cynghori y dylai Cymru gael gafael ar y pwerau i’w gwneud yn orfodol i arddangos sgorau hylendid bwyd drwy gyfrwng Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter