Newyddion

Cymru’n teimlo ergyd yr argyfwng economaidd

Cyhoeddwyd 12 Gorffennaf 2010

Yn ôl arolwg gan y corff gwarchod, Llais Defnyddwyr Cymru, mae bron i hanner pobl Cymru yn dweud eu bod yn ei chael yn anoddach ymdopi’n ariannol y dyddiau hyn o’i gymharu â’r sefyllfa flwyddyn yn ôl.

Mae arolwg Materion Ariannol Defnyddwyr Cymru hefyd yn dangos bod un ym mhob pedwar person (26 y cant) yn credu y bydd eu problemau ariannol yn gwaethygu yn y flwyddyn nesaf. Er  hynny, mae bron i hanner pobl Cymru (49 y cant) yn dweud nad oes ganddynt unrhyw arian wrth gefn rhag ofn.

Mae’r dirywiad economaidd wedi arwain at 84 y cant yn dweud eu bod wedi newid eu harferion gwario, gyda 30 y cant yn cyfaddef eu bod yn gwario llai ar fwyd.

Mae bron i dri chwarter (72 y cant) o bobl yn cyfaddef eu bod yn bryderus am y cynnydd cyffredinol mewn costau byw. Roedd ychydig dros hanner (54 y cant) yn dweud eu bod yn poeni am dalu eu biliau trydan a nwy dros y gaeaf, ac roedd cynnydd mewn pris petrol (54 y cant) a phrisiau bwyd (49 y cant) hefyd yn uchel ar restr pryderon pobl.

Dywedodd Lindsey Kearton, arbenigwr dyledion Llais Defnyddwyr Cymru: ‘Mae’r cynnydd mewn costau byw yn destun pryder mawr i bawb. Mae’r pryderon hyn yn cael eu hadlewyrchu gan y toriadau mewn gwariant y mae’r llywodraeth yn eu gwneud er mwyn lleihau’r diffyg.

‘Yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd yn y gyllideb yn ddiweddar, mae’r pwysau ar arian y cartref yn debygol o waethygu. Mae’n destun mwy o bryder byth bod ein canfyddiadau’n dangos bod y rhai mwyaf agored i niwed, megis pobl ddi-waith a phobl â salwch tymor hir, yn fwy tebygol o wario llai ar bethau hanfodol megis bwyd a thrydan. 

“Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ceisio gwario llai, rhaid i ni beidio ag anghofio’r effaith anghymesur y gallai hyn ei chael ar iechyd y rhai mwyaf agored i niwed, sy’n aml yn byw ar ychydig iawn o arian.’

Dyma rai o’r canfyddiadau eraill yn yr adroddiad:

Dywedodd 41 y cant eu bod yn gwario llai ar gymdeithasu;

Mae 41 y cant yn gwario llai ar ddillad/esgidiau;

Mae 27 y cant yn dweud eu bod yn gwario llai ar wyliau tramor;

Mae 23 y cant yn defnyddio llai ar y car.

Nodiadau cefndir:

Pobl agored i niwed:

Roedd defnyddwyr a chanddynt anableddau neu salwch tymor hir yn sgorio’n uwch na chyfartaledd Cymru mewn nifer o gategorïau. Yn benodol, mae 75 y cant yn y categori hwn yn poeni am dalu eu biliau ynni dros y gaeaf, a dywedodd 55 y cant eu bod yn ei chael yn anoddach ymdopi’n ariannol heddiw nag yr oeddent flwyddyn yn ôl. Dywedodd bron i ddwy ran o dair (62 y cant) eu bod yn fwy gofalus wrth ddefnyddio ynni, a dywedodd 37 y cant eu bod yn gwario llai ar fwyd. Dywedodd dros hanner (54 y cant) nad oes ganddynt arian wrth gefn.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Beaufort Research Ltd yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2010. Bu dros 1,000 o bobl, a’r rheini’n gynrychioladol o’r boblogaeth oedolion yng Nghymru, yn cymryd rhan yn yr arolwg, a gynhaliwyd wyneb yn wyneb yng nghartrefi’r bobl.

Rydym yn gobeithio cyhoeddi ein papur briffio cyntaf o gyfres newydd ynghylch ‘Materion Ariannol Defnyddwyr Cymru’ ddechrau Awst. Bydd y papur cyntaf yn canolbwyntio ar ddefnyddio credyd a lefelau dyledion yng Nghymru.

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter