Newyddion

Dim manteision o dalu ag arian parod

Cyhoeddwyd 12 Tachwedd 2009

Mae rhai o’r bobl dlotaf yng Nghymru yn dewis talu mwy am nwyddau a gwasanaethau hanfodol – oherwydd nad ydynt yn ymddiried yn y system fancio neu oherwydd bod y system yn eu drysu.

Mae adroddiad newydd gan Lais Defnyddwyr Cymru yn dangos bod yn well gan bobl yng Nghymru dalu am nwyddau ag arian parod yn hytrach nag â cherdyn debyd neu drwy ddebyd uniongyrchol, oherwydd eu bod yn teimlo bod hynny’n rhoi mwy o reolaeth iddynt ar eu harian.

Meddai awdur yr adroddiad, Lindsey Kearton: “Mae’n amlwg bod pobl sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol yn fwy tebygol o gael gwell bargen na’r sawl sy’n defnyddio arian parod. Fodd bynnag, mae pobl yn teimlo’n ddryslyd ac yn ddrwgdybus ynghylch taliadau debyd uniongyrchol, ac oni eir i’r afael â’r materion hynny’n effeithiol bydd llawer o ddefnyddwyr yn parhau i ffafrio talu am nwyddau a gwasanaethau ag arian parod, heb boeni am y ffaith eu bod yn talu mwy o ganlyniad i hynny mewn rhai sefyllfaoedd.

“Gwelsom fod llawer o bobl yn ddigon deallus i sylweddoli bod eu trefniadau’n golygu eu bod yn talu mwy yn y pen draw. Ond ceir diffyg ymwybyddiaeth o’r ffaith bod opsiwn arall ar gael iddynt.

“Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn argymell y dylai banciau a sefydliadau ariannol eraill ddarparu cymorth wyneb-yn-wyneb i’r sawl sy’n agor cyfrif banc am y tro cyntaf, er mwyn gwella eu dealltwriaeth o sut y mae cyfleusterau debyd uniongyrchol yn gweithio. Gallai hynny gynnwys negeseuon testun i alluogi pobl i gael y wybodaeth ddiweddaraf am drafodion eu cyfrif a goresgyn unrhyw ofn ynghylch colli rheolaeth.

“Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU i weithio  gyda’r diwydiant bancio i ddatblygu gallu sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau ariannol, megis undebau credyd, Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol a Swyddfa’r Post, fel y gallan nhw hefyd gynnig gwasanaethau cyfrifon banc sy’n briodol i anghenion ac amgylchiadau pobl sy’n byw ar incwm isel.”

 

                                                Diwedd

I gael rhagor o fanylion neu ofyn am gyfweliad ag awdur yr adroddiad, cysylltwch â Jamie Pike ar 02920 787110.

Nodiadau cefndir

I gael rhagor o fanylion am adroddiad Llais Defnyddwyr Cymru, ‘Pris arian parod’, ewch i’n gwefan: www.consumerfocus-wales.org.uk

Mae’r ymchwil hwn yn rhan o astudiaeth ehangach ynghylch yr hyn a elwir yn aml yn ‘bremiwm tlodi’ a’r modd y mae’n effeithio ar deuluoedd yng Nghymru. Mae’r astudiaeth honno’n ymdrin â materion megis cost addysg, gwasanaethau ariannol a thanwydd, a chaiff ei harwain gan Sefydliad Bevan, mewn partneriaeth â Llais Defnyddwyr Cymru, NEA Cymru ac Achub y Plant.

Cafodd Beaufort Research Ltd ei gomisiynu gan Lais Defnyddwyr Cymru i gynnal pedwar grŵp ffocws mewn lleoliadau ar draws Cymru. Dewiswyd lleoliadau ar sail y ffaith eu bod wedi’u nodi ymhlith y rhannau o Gymru sydd wedi’u heithrio neu eu hamddifadu fwyaf yn ariannol, sef Merthyr Tudful, Torfaen, Wrecsam a’r Rhyl.

Roedd pawb a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn byw ar incwm isel (sef, yn ôl y diffiniad, pobl ag incwm aelwydydd crynswth blynyddol (cyn treth a didyniadau) o £18,500 y flwyddyn ar gyfer aelwydydd un oedolyn a £29,000 ar gyfer aelwydydd dau oedolyn). Roedd pwyslais yr ymchwil ar bobl a oedd yn tueddu i fyw ar arian parod. Cynhaliwyd yr ymchwil ym mis Mawrth 2009.

Ystadegau:

Dangosodd gwaith blaenorol gan ein rhagflaenydd, Cyngor Defnyddwyr Cymru[i], fod yn well gan dros ddwy ran o dair o’r boblogaeth yng Nghymru dalu am nwyddau ag arian parod. Mae hynny’n arbennig o wir am bobl dlotach, lle mae’n well gan 8 o bob 10 dalu ag arian parod, o’i gymharu ag ychydig dan hanner y rheiny sy’n ennill yr incwm mwyaf.

Yn ogystal ag asesu cost byw ar gyllideb arian parod, mae’r adroddiad hefyd yn ystyried:

  • Cost cael gafael ar arian
  • Cost benthyca arian
  • Opsiynau eraill fforddiadwy yn lle banciau.

 

Dyfyniadau a briodolwyd i bobl a gafodd eu cyfweld gennym ar gyfer yr adroddiad:

Pâr o Wrecsam: “Rydych yn gwybod faint o arian sydd gennych o un diwrnod i’r llall wrth dalu ag arian parod. Wrth ddefnyddio arian parod, rydych yn gwybod eich bod wedi talu. Wrth dalu drwy’r banc, allwch chi ddim bod yn siŵr y byddan nhw’n cael yr arian pan ddylen nhw.”

Rhiant sengl o Ferthyr Tudful: “Maen nhw’n codi £40 arnoch os ewch chi i ddyled o 1 neu 2 geiniog ar ôl i ddebyd uniongyrchol dynnu arian allan o’r cyfrif. Rwy’n gwybod ble’r ydw i arni wrth dalu ag arian parod, mae’n haws. Rydych chi’n gwybod faint sydd gennych ar ôl i’w wario.”

Rhiant sengl o’r Rhyl: “Dwi ddim yn hoffi cyfleusterau debyd uniongyrchol. Byddan nhw’n rhoi dyddiad i chi, ac yna’n cymryd yr arian wythnos yn gynnar neu wythnos yn hwyr, a byth yn ei gymryd ar y dyddiad iawn, a chi sy’n gorfod wynebu taliadau gan y banc wedyn.”

Pâr o Gwmbrân: “Mae gen i gyfrif mewn cymdeithas adeiladu. Dwi ddim am gael cyfrif banc. Cefais drafferthion gydag un o’r blaen. Wna i byth ddefnyddio cyfrif banc eto.”

 


[i] Mynediad at Arian Parod (2008), Cyngor Defnyddwyr Cymru.

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter