Mae grwpiau yng Nghymru sy’n agored i niwed ar ei hôl hi o ran y chwyldro digidol – dyna rybudd pendant adroddiad newydd gan Lais Defnyddwyr Cymru.
Mae adroddiad diweddaraf yr hyrwyddwr dros ddefnyddwyr – Cysylltiad neu Gau Allan – yn dod â deng mlynedd o ddata gan Gyngor Defnyddwyr Cymru a Llais Defnyddwyr Cymru at ei gilydd. Dengys bod y rheini sydd naill ai’n methu neu’n dewis peidio â defnyddio’r rhyngrwyd mewn perygl o golli manteision y mynediad i wybodaeth, a gwelll nwyddau a gwasanaethau.
Mae’r adroddiad yn cynnig cyfres o argymhellion ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, rheoleiddwyr, cwmnïau telathrebu a darparwyr gwasanaethau ar y rhyngrwyd er mwyn cau’r rhaniad digidol sydd ar gynnydd.
Dywedodd Sarah Richards, Uwch Eiriolwr Polisi Llais Defnyddwyr Cymru: “Mae Cymru ar ganol chwyldro digidol. Mae’r niferoedd sydd ar-lein wedi codi’n raddol dros y deng mlynedd ddiwethaf nes bod gan bron i saith allan o bob deg oedolyn fynediad personol i’r rhyngrwyd. Mae’n dod yn rhan fwyfwy pwysig o agweddau ar ein bywydau nag erioed.
“Ond mae’r cynnydd yn y wybodaeth a’r bargenion sydd ar gael yn golygu bod y rheini sydd naill ai’n methu, neu’n dewis peidio â defnyddio’r rhyngrwyd mewn perygl o gael eu cau allan o fanteisio ar bargenion gorau, a’r wybodaeth ddiweddaraf.
“Mae ein gwaith ymchwil yn dangos tra bod y drafodaeth am ardaloedd digyswllt o hyd yn bwysig, rhaid i ni beidio ag anghofio am y rheini sydd wedi eu cau allan am resymau eraill: pobl sydd naill ai’n methu â chael mynediad, neu sy’n methu â gweld y fantais o gysylltu â’r rhyngrwyd.
“Wrth i wasanaethau cyhoeddus ystyried darparu gwasanaethau dros y we er mwyn lleihau costau, rhaid i ni sicrhau na chaiff y rheini sydd eu hangen eu hanghofio. Yr union bobl sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth – yr henoed, y tlotaf mewn cymdeithas a’r rheini mewn ardaloedd gwledig – sydd leiaf tebygol o allu cael mynediad i gymorth ar-lein.”
Mae’r adroddiad yn pwysleisio mai oedran yw’r dangosydd amlycaf o hyd o ran pa un a ydych yn debygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd ai peidio, gyda dosbarth cymdeithasol a daearyddiaeth yn ffactorau pwysig hefyd.
Ychwanegodd Ms Richards: “Tra bod gan bron i naw allan o bob deg o bobl rhwng 16 a 44 oed fynediad i’r rhyngrwyd, mae’r ffigur yn syrthio i un o bob pedwar ymysg y rheini sydd dros 65 oed. Rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat sy’n darparu gwybodaeth ar-lein i’r cyhoedd sicrhau nad ydynt yn esgeuluso pobl nad ydynt yn mynd ar-lein.
“Mae llawer o fanteision i ddefnyddwyr sy’n mynd ar-lein, ond rhaid i ni sicrhau na fyddwn yn troi’n wlad lle caiff bobl eu hatal rhag derbyn gwybodaeth a allai effeithio arnynt – fel rhybuddion tywydd, neu ddod o hyd i wybodaeth am ofnau bwyd neu weld yr hyn sydd gan y gwleidyddion sy’n ein cynrychioli i’w ddweud ar ein rhan.”
Ffeithiau allweddol:
- Mae gan 67% o gartrefi yng Nghymru gysylltiad â’r rhyngrwyd yn y cartref
- Mae 94% o gysylltiadau â’r rhyngrwyd yn y cartref yn gysylltiadau band eang
- Pobl rhwng 35 a 44 oed sydd fwyaf tebygol o fod â chysylltiad â’r rhyngrwyd yn y cartref (83%)
Nodiadau:
Cynhaliwyd yr arolwg gan Beaufort Research rhwng 12 a 29 Mehefin 2009 gan ddefnyddio arolwg Omnibws Beaufort Cymru. 1009 o gyfweliadau gyda phobl 16 oed. Cynhaliwyd gwaith tebyg, gan ofyn llawer o’r un cwestiynau am y tro cyntaf yn 1999 gan Gyngor Defnyddwyr Cymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos y cynnydd yn nifer y bobl sy’n berchen ar ffôn symudol – o 23% yn 1999 i 88% yn 2009, ac mae’n galw am wneud rhagor i gynyddu argaeledd gwasanaethau 3G ledled Cymru.
