Newyddion

Defnyddwyr ansicr o gyfrinachedd iechyd rhywiol

Cyhoeddwyd 6 Hydref 2009

Yn ôl rhybudd Llais Defnyddwyr Cymru, gallai pryderon am ddiffyg cyfrinachedd a lefelau isel o ofal cwsmeriaid atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol.
Gan ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru Iechyd a Lles Rhywiol yng Nghymru , mae’r eiriolwr dros ddefnyddwyr yn annog swyddogion iechyd i beidio â thargedu pobl o dan 24 oed a phobl sydd ag HIV yn unig, gan fod lefelau Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI) yn codi ymysg grwpiau oedran hyn oherwydd tueddiadau newidiol mewn ffyrdd o fyw.

Canfu gwaith ymchwil gan gorff rhagflaenu Llais Defnyddwyr Cymru, sef Cyngor Defnyddwyr Cymru, fod defnyddwyr yn ansicr o’u hawliau preifatrwydd o ran gweithwyr iechyd rhywiol proffesiynol yn rhannu gwybodaeth bersonol ac mae’n rhaid i swyddogion iechyd yng Nghymru fynd i’r afael â’r broblem hon. Roedd dryswch ynghylch a fyddai gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i rieni pe bai’r unigolyn o dan 16 oed.

Mewn un achos, dywedwyd wrth ferch ysgol a oedd yn aros i gael canlyniadau STI y byddai’r clinig yn ffonio ei rhif cartref er mwyn rhoi’r canlyniadau. Achosodd hyn ofid mawr iddi gan ei bod yn poeni y byddai ei rhieni yn ateb y ffôn.

Dywedodd Jennie Bibbings, uwch eiriolwr polisi yn Llais Defnyddwyr Cymru: “Rydym am weld ymrwymiad i safonau uchel o ofal cwsmeriaid ym mhob rhan o’r sector gofal iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod lle i wella yn y maes hwn. Mae angen i weithwyr iechyd proffesiynol hefyd sicrhau bod systemau ar waith i ddiogelu cyfrinachedd cwsmeriaid, gan ei fod yn destun dryswch ac embaras i rai pobl.”

Roedd Llais Defnyddwyr Cymru hefyd yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i beidio ag ystyried pobl ifanc yn unig yn y ffordd y mae’n darparu gwasanaethau.

Ychwanegodd Jennie Bibbings: “Gall cydberthnasau ddod i ben ar unrhyw adeg mewn bywyd, ac ar yr adeg honno gall unigolion ddechrau cydberthnasau rhywiol newydd gydag ymwybyddiaeth isel o sut i gael rhyw mwy diogel.

“Rydym am sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr un cyfle i gael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau iechyd rhywiol sydd eu hangen arnynt.

“Rydym yn croesawu ymrwymiad y papur gwaith i gynnwys iechyd rhywiol mewn rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus i feddygon teulu, nyrsys practis a staff gweinyddol practisau, a byddwn yn argymell yn gryf fod yr hyfforddiant hwn yn cwmpasu gofal cwsmeriaid a chyfrinachedd.”

Mae ymateb Llais Defnyddwyr Cymru hefyd yn galw am i fwy o gondomau fod ar gael i grwpiau â risg uchel, gan annog Llywodraeth y Cynulliad i beidio ag anwybyddu puteindra yn ei gwaith, a gwella’r gwasanaethau erthyliad a ddarperir ledled Cymru.

Nodiadau:
 
Mae dolenni i adroddiad Cyngor Defnyddwyr Cymru ar gael Ewch i’r ddau adroddiad o’r enw Lechyd Rhywiol a Phebl Ifanc yma.
 
Llais Defnyddwyr yw’r eiriolwr annibynnol dros ddefnyddwyr, a grëwyd pan unodd Golwg ar Ynni, Golwg ar Bost a’r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol (gan gynnwys Cyngor Defnyddwyr Cymru a’r Alban). Ni yw llais defnyddwyr, ac rydym yn gweithio i sicrhau bargen deg ar eu rhan.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jamie/Angharad ar 029 2078 7110/1

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter