Newyddion

Cynnydd mawr mewn prisiau tanwydd yn digalonni cwsmeriaid nad ydynt ar y grid

Cyhoeddwyd 8 Mehefin 2011

Dengys tystiolaeth i ddefnyddwyr ynni nad oeddent wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy yng Nghymru gael trafferthion gyda chynnydd mawr mewn prisiau a phroblemau gyda’r cyflenwad y gaeaf diwethaf.

Gofynnodd Llais Defnyddwyr Cymru i bobl roi tystiolaeth o’u profiadau er mwyn helpu i lywio’r astudiaeth o’r farchnad ynni nad yw ar y grid a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Masnachu Teg ym mis Mawrth. Mae tua 206,000 o gartrefi (16 y cant) yng Nghymru nad ydynt ar y rhwydwaith nwy ac felly’n dibynnu ar danwyddau megis olew gwresogi, nwy petrolewm hylifedig (LPG) a thanwyddau solet megis glo neu bren i wresogi eu cartrefi.

Roedd cynnydd mewn prisiau y gaeaf diwethaf wedi effeithio ar bron bawb a ymatebodd p’un a oeddent yn dibynnu ar olew, LPG neu danwydd solet. Dywedodd llawer o ddefnyddwyr olew fod prisiau wedi cynyddu rhwng 40 a 55 y cant ar y cyfan dros fisoedd y gaeaf. Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr nad oeddent ar y grid nwy wedi cael trafferth talu eu biliau a gwresogi eu cartrefi o ganlyniad i’r cynnydd hwn mewn prisiau.

Honnodd un pensiynwr iddo wario £1,800 ar LPG yn unig y llynedd – traean gymaint â biliau nwy/trydan cyfartalog defnyddwyr yn y DU a dalodd tua £1,100 i wresogi eu cartrefi. Teimlai rhai ymatebwyr fod y lleihad yn y Lwfans Tanwydd Gaeaf eleni yn debygol o olygu y bydd pethau’n gwaethygu iddynt y gaeaf nesaf.

O gofio’r gaeaf garw, nid yw’n syndod i nifer o bobl siarad am broblemau gyda’r cyflenwad yn ystod wythnosau olaf y llynedd. Roedd y sefyllfa hon yn gyffredin ymhlith defnyddwyr olew, LPG a thanwyddau solet a bu rhai ohonynt heb wres am gyfnod (bu un ohonynt heb wres am gymaint â thair wythnos).   

Dywedodd Lindsey Kearton, arbenigwraig ynni yn Llais Defnyddwyr Cymru:

‘Mae’r gallu i gadw eu cartrefi’n gynnes yn fater sylfaenol i ddefnyddwyr.  Mae cost gynyddol ynni yn golygu bod hyn yn fwyfwy anodd i nifer gynyddol o ddefnyddwyr yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus.

‘Profodd defnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy gynnydd aruthrol yn y gost o wresogi eu cartrefi y gaeaf diwethaf wrth i brisiau tanwyddau nad ydynt ar y grid gynyddu, a hynny’n aml ar fyr rybudd. Yn aml, mae’n rhaid talu’n llawn am y mathau hyn o danwydd ymlaen llaw sy’n gwneud pethau’n arbennig o anodd i bobl sy’n byw ar incwm isel neu incwm sefydlog.  Mae pobl yn talu’n ddrud am fyw mewn ardaloedd gwledig a threfi a phentrefi llai o faint.

‘Yn aml byddant mewn sefyllfa waeth byth am eu bod yn byw mewn rhai o’r cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni yng Nghymru, sy’n fwy costus ac yn anos i’w trin gyda mesurau effeithlonrwydd ynni. Mae’n hen bryd cymryd camau i fynd i’r afael â’r problemau hyn.

‘Credwn y dylai’r Swyddfa Masnachu Teg ystyried dod ag agweddau ar y farchnad ynni nad yw ar y grid o dan yr un fframwaith rheoleiddio â’r prif gyflenwadau nwy a thrydan er mwyn helpu i sicrhau y caiff defnyddwyr mewn cartrefi sydd ar y grid a rhai nad ydynt ar y grid eu diogelu’n decach.’

Hefyd, wrth gynnal yr ymchwiliad hwn i’r farchnad ynni nad yw ar y grid, mae Llais Defnyddwyr Cymru yn gobeithio y bydd y Swyddfa Masnachu Teg yn cymryd camau i sicrhau’r canlynol:

  • darpariaeth well i ddefnyddwyr nad ydynt ar y rhwydwaith nwy ac sydd mewn sefyllfa fregus, gan gynnwys opsiynau talu mwy hyblyg a systemau cyflenwi tanwydd yn ôl blaenoriaeth,
  • strwythurau prisio mwy tryloyw ar gyfer tanwyddau nad ydynt ar y grid, gan sicrhau y gall defnyddwyr gael gwybodaeth annibynnol sy’n cymharu prisiau,
  • mwy o gymorth ariannol i aelwydydd nad ydynt ar y grid ac sydd mewn sefyllfa fregus i’w helpu i wneud eu heiddo’n fwy effeithlon o ran ynni a’u galluogi i gynhyrchu eu hynni eu hunain drwy dechnolegau microgynhyrchu, os dymunant.

Nodiadau i olygyddion

  • Ym mis Mai 2011 gwnaethom alw am dystiolaeth gan ddefnyddwyr ledled Cymru sy’n byw mewn eiddo nad yw wedi’i gysylltu â rhwydwaith y prif gyflenwad nwy am eu profiadau o’r sector hwn dros y misoedd diwethaf. Gwnaed hyn ar adeg pan welodd defnyddwyr gynnydd mawr mewn prisiau tanwyddau nad oeddent ar y grid ynghyd â gaeaf oer iawn. Ar adeg ysgrifennu, roedd 32 o ymatebion wedi dod i law gan unigolion/cynrychiolwyr cymunedau yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru. Ar y cyd â’n harolwg meintiol y llynedd, mae’r gwaith hwn yn helpu i greu darlun manwl o’r math o broblemau sy’n wynebu pobl nad ydynt ar y rhwydwaith nwy yng Nghymru.

 

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact: