Newyddion

Cynghrair newydd yn ceisio dileu tlodi tanwydd

Cyhoeddwyd 20 Hydref 2009

Fuel Poverty logoMae ymgyrchwyr o bob cwr o Gymru wedi dod at ei gilydd i ddileu problem arswydus tlodi tanwydd yng Nghymru.

 

Caiff Cynghrair Tlodi Tanwydd newydd Cymru ei arwain gan Lais Defnyddwyr Cymru ac NEA Cymru, ac mae’n cynnwys deuddeg o grwpiau ymgyrchu pwysig.

Heddiw (20 Hydref), bydd y cynghrair yn lansio siarter tlodi tanwydd Cymru yn yr Eglwys Norwyaidd. Caiff y siarter ei chyflwyno i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson, sydd â chyfrifoldeb am dlodi tanwydd yng Nghymru.

 

Mae’r siarter yn galw am y canlynol:

1.      Cynllun gweithredu manwl sy’n dangos sut a phryd y caiff tlodi tanwydd ei ddileu yng Nghymru;

2.      Cymorth a fydd yn galluogi pob aelwyd sy’n dioddef tlodi tanwydd i gadw’n gynnes – hyd nes y caiff tlodi tanwydd ei ddileu;

3.      Dull unedig a chydlynol o weithredu ar draws y sector statudol (ar lefel y DU ac ar lefel Cymru) sy’n cynnwys partneriaid o’r sector preifat, y sector gwirfoddol a’r sector cymunedol yng Nghymru.

 

Meddai Nuria Zolle, Cyfarwyddwr NEA Cymru a chadeirydd y cynghrair: “Mae’r cynghrair wedi’i greu am ein bod yn credu ei bod yn hanfodol dileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018, ac am ein bod yn credu bod hynny’n nod y gellir ei wireddu. Mae’r cynghrair yn galw am newid safbwynt sylfaenol, nid yn unig ar lefel leol ond yn uwch ar lefel genedlaethol hefyd.

 

“Nid oes neb o blaid tlodi tanwydd – ond heb gynllun gweithredu pendant sydd wedi’i gydlynu, a chymorth i’r rheiny sy’n dioddef, byddwn yn dal i fyw â’r broblem hon ymhen degawd. Mae aelodau’r cynghrair wedi dod ynghyd i ddweud ei bod hi’n bryd gweithredu.”

 

Caiff y siarter ei lansio wythnosau’n unig cyn bod disgwyl i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi strategaeth newydd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.

 

Mae’r partneriaid sy’n rhan o ddigwyddiad lansio’r cynghrair yn cynnwys: Cyngor ar Bopeth Cymru, Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Plant yng Nghymru, Canolfan Eco Gorllewin Cymru, Cymorth Canser Macmillan, Shelter Cymru, Anabledd Cymru, Oxfam Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, NEA Cymru a Llais Defnyddwyr Cymru.

 

Ychwanegodd Maria Battle, Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru: “Ceir tair neges syml yn siarter tlodi tanwydd Cymru, sy’n galw’n glir am weithredu gan y llywodraethau sydd yn San Steffan a Bae Caerdydd, ein hawdurdodau lleol, a phob un ohonom sy’n poeni am bobl yng Nghymru.

 

“Y gaeaf hwn, bydd gormod o bobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi a rhoi bwyd ar y bwrdd. Mae gormod o bobl, gan gynnwys plant, yn dioddef o ganlyniad i effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol tlodi tanwydd. Rydym o’r farn na ddylai unrhyw un yng Nghymru orfod byw mewn cartref oer. Mae angen i ni weithredu ar fyrder os ydym am greu gwlad lle mae tlodi tanwydd yn rhan o’r gorffennol yn hytrach na’r presennol, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni economaidd.”

 

 

Nodiadau:

Gellir gweld y siarter lawn trwy glicio ar y ddolen ganlynol www.fuelpovertycharter.org.uk

 

Mae tlodi tanwydd yn effeithio ar tua 320,000 o gartrefi yng Nghymru.

Mae hynny’n golygu y byddai angen iddynt wario 10% neu fwy o’u hincwm ar ynni i wresogi eu cartref yn ddigonol.

Yng Nghymru, caiff problem prisiau ynni uchel ei dwysáu gan stoc dai sydd mewn cyflwr gwael, y ffaith bod llawer o bobl yn dlawd ac ar incwm isel, a’r ffaith nad yw llawer iawn o dai wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy.

 

Darperir astudiaethau achos i’r cyfryngau.

 

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu drefnu cyfweliadau ag unrhyw un o’r sefydliadau sy’n rhan o’r cynghrair, gan gynnwys cyfweliadau Cymraeg, cysylltwch â: Gareth Price ar 029 2078 7113

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter