Cau swyddfeydd post wedi torri cysylltiadau cymunedol
Defnyddwyr agored i niwed a deimlodd yr ergyd drymaf yn sgil Rhaglen Newid Rhwydwaith Swyddfa’r Post yn ôl adroddiad newydd gan Lais Defnyddwyr Cymru.
Roedd pobl hŷn, defnyddwyr a chanddynt anabledd neu salwch tymor hir, neu’r rheini ar incwm isel sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus o’r farn bod y newid wedi eu rhwystro rhag gallu cael gafael ar wasanaethau. Roedd defnyddwyr y bu’n rhaid iddynt ddefnyddio swyddfa bost arall yn cwyno am giwiau hirach a gwasanaeth amhersonol.
Roedd y rheini a chanddynt broblemau iechyd yn ei chael hi’n anodd ciwio am gyfnodau hir neu gerdded y pellter ychwanegol i’r swyddfa bost newydd heb gymorth. Roedd cau’r swyddfa bost leol wedi arwain at lai o lawer o gyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ac roedd pobl yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy ynysig ac unig.
Dywedodd Maria Battle, Uwch Gyfarwyddwraig Llais Defnyddwyr Cymru: “Dengys ein hymchwil y gwir anfantais sy’n wynebu pobl, yn enwedig pobl agored i niwed, pan gaiff eu swyddfeydd post lleol eu cau. Daethom o hyd i enghreifftiau o bobl a oedd yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu a oedd mewn oed neu’n anabl ac yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar wasanaethau.
“Mae canfyddiadau ein hymchwil hefyd yn dangos cefnogaeth gref iawn i’r rhwydwaith swyddfeydd post ymysg defnyddwyr. Mae’n well gan gyfran fawr o ddefnyddwyr barhau i gael gwasanaethau wyneb yn wyneb yn eu cymuned leol, yn hytrach na chael gwasanaethau ar-lein neu dros y ffôn.
“Oherwydd hyn mae arnom eisiau gweld y llywodraeth yn cyflawni ei hymrwymiad i sicrhau na fydd rhagor o raglenni cau ac yn gweithio i ddatblygu rhwydwaith cynaliadwy o swyddfeydd post.
“Gan gofio hyn rydym yn cefnogi’n gryf gynigion y llywodraeth i gyflwyno cynnyrch gwasanaethau ariannol newydd mewn swyddfeydd post, yn enwedig cyfrifon ar gyfer y rheini nad oes ganddynt gyfrif banc ar hyn o bryd.
“Ond mae ar Swyddfa’r Post Cyf hefyd angen chwarae rhan a sicrhau eu bod yn gallu gwella ac ehangu’r gwasanaethau maent yn eu cynnig. Fel llais defnyddwyr post mae arnom eisiau gweld rhwydwaith cynaliadwy o swyddfeydd post yn ffynnu yn y dyfodol.”
Dywedodd un o gwsmeriaid swyddfa’r post, Anne Griffiths, 63, o Rydaman: “Mae cau fy swyddfa bost wedi cael effaith fawr ar y gymuned yn Nhir-y-dail. Roedd y swyddfa bost yn cael ei gweld fel cyswllt cryf yn y gymuned ond mae’r cyswllt hwnnw wedi cael ei dorri. Mae pobl hŷn a phobl sy’n fwy agored i niwed yn dibynnu ar y swyddfa bost i gael eu harian a phostio parseli. Nawr mae’n rhaid iddynt deithio i’r dref neu i’r pentref nesaf i ddefnyddio swyddfa bost, ac nid yw hynny’n hawdd i’r rheini sy’n cael problemau symud. Roeddem yn tybio ei fod yn wasanaeth ond nid yw’n ymddangos i fod yn wasanaeth mwyach.”
Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos nad oedd defnyddwyr wedi cael eu hargyhoeddi gan resymau Llywodraeth y DU dros y rhaglen cau. Ar ben hynny, roeddent yn anhapus â natur yr ymgynghoriadau ardal ynghylch y cau, gan nad oedd prin dim posibilrwydd i newid y penderfyniadau ac ni welwyd bod Swyddfa’r Post Cyf yn ymateb i’r pryderon a godwyd.
Roedd pobl yn cofio gweld cyhoeddusrwydd ar y newyddion ar y teledu ac yn y wasg leol ynghylch y rhaglen i gau swyddfeydd post yn gyffredinol ond nid oeddent wedi gweld dim byd a oedd yn benodol i’w cymuned tan yn agos iawn at ddyddiad y cau.
Nodiadau cefndir
- Mae copi o’r adroddiad ar gael yma
- Mae ymchwil ‘Opportunity Knocks’ Llais Defnyddwyr yn rhoi tystiolaeth glir y byddai’r swyddfa bost mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnig cyfrifon gwasanaethau ariannol. I adolygu’r adroddiad cliciwch yma
- Adroddiad arall sy’n plethu â chanfyddiadau’r adroddiad am gau swyddfeydd post yw Pris Arian Parod sy’n ffurfio rhan o astudiaeth ehangach i’r hyn a elwir yn aml yn ‘bremiwm tlodi’ a sut y mae’n effeithio ar deuluoedd yng Nghymru. Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn.
- Llais Defnyddwyr Cymru yw’r hyrwyddwr annibynnol dros ddefnyddwyr a’r llais statudol dros ddefnyddwyr post ac ynni. Rydym yn cynrychioli defnyddwyr ar draws pob marchnad a gwasanaeth ac rydym yn gweithio i sicrhau bargen deg ar eu rhan.
