Mae angen i siaradwyr Cymraeg gael mwy o lais mewn cynigion ar gyfer deddfwriaeth Iaith Gymraeg newydd – os yw’r holl broses yn mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr.
Dyna farn Llais Defnyddwyr Cymru, yn eu tystiolaeth gerbron pwyllgor y Cynulliad sy’n craffu ar y Mesur Iaith Gymraeg arfaethedig.
Meddai Rebecca Thomas, Uwch Eiriolwr Polisi Llais Defnyddwyr Cymru: “Ceir cefnogaeth eang ymysg siaradwyr Cymraeg am symudiadau ychwanegol i wella gwasanaethau Cymraeg. Ond oni fydd lleisiau defnyddwyr Gwasanaethau Cymraeg yn ganolog i’r ddeddfwriaeth newydd hon, ceir perygl y bydd ansawdd y gwasanaethau hynny a’r nifer sy’n eu defnyddio’n dioddef.
“Rhaid i’r ddeddfwriaeth sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg o ansawdd yn bodoli, bod defnyddwyr yn gwybod eu bod yn bodoli, a’u bod yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr heddiw, ac yn y dyfodol. Os na ofynnwn i’r defnyddwyr beth mae arnynt eisiau, sut y gallant fodloni’r anghenion hynny?”
Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw am newidiadau i’r mesur er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau’n chwarae rôl allweddol i lunio’r Safonau newydd a fydd yn cael eu cyflwyno a’u goruchwylio gan y Comisiynydd Iaith Gymraeg arfaethedig. Bydd y Safonau yn disodli’r system gyfredol o gynlluniau iaith ac yn anelu at osod yn glir y lefel o wasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegodd Ms Thomas: “Mae cyflwyno Safonau’n golygu y dylai fod yn gliriach i ddefnyddwyr pwy y gallent ddisgwyl iddynt gyflenwi Gwasanaeth Cymraeg, a pha lefel y dylai’r gwasanaeth hwnnw ei chyrraedd. Rydym yn bendant bod yn rhaid cynnwys defnyddwyr yn natblygiad y Safonau, er mwyn sicrhau bod y rheoliadau newydd yn bodloni anghenion defnyddwyr – nid dim ond gallu’r darparwyr.”
Mae ymateb swyddogol Llais Defnyddwyr Cymru i bwyllgor y Cynulliad sy’n craffu ar y Mesur arfaethedig yn amlygu tri maes allweddol lle byddai Llais Defnyddwyr Cymru yn hoffi gweld gwelliannau.
Hoffai Llais Defnyddwyr Cymru weld y Mesur:
- Yn sicrhau bod llais defnyddwyr yn rhan annatod o ddatblygiad y Safonau newydd a’r gwasanaethau Cymraeg dilynol
- Yn sicrhau bod defnyddwyr yn gwybod pa wasanaethau y gallant eu disgwyl
- Yn sefydlu prosesau monitro a gwerthuso mwy cadarn i helpu i ganfod pa wasanaethau sy’n gweithio a pha rai sydd ddim, a pham.
Meddai Ms Thomas: “Rydym yn teimlo bod safbwyntiau’r defnyddwyr arferol wedi bod yn absennol yn hir o drafodaethau am yr iaith Gymraeg. Gydag ein gwelliannau, bydd y Mesur yn darparu cyfle ardderchog i sicrhau y bydd llais y defnyddiwr bob amser yn rhan o’r ddadl.”
Nodiadau:
Mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi comisiynu ymchwil i ganfod agweddau ymysg siaradwyr Cymraeg am y ddeddfwriaeth newydd.
Mae tystiolaeth Llais Defnyddwyr Cymru gerbron pwyllgor deddfwriaeth y Cynulliad i’w weld ar ein gwefan
Bydd Llais Defnyddwyr Cymru yn rhoi tystiolaeth lafar ar 10 Mehefin.
