Caiff poster dwyieithog sy’n tynnu sylw at ffyrdd y gall plant a phobl ifanc gadw’n gynnes y gaeaf hwn ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru.
Mae’r posteri, a gynhyrchwyd gan Llais Defnyddwyr Cymru a Plant yng Nghymru, yn dangos deg awgrym a luniwyd gan bobl ifanc i bobl ifanc. Y posteri yw cam diweddaraf prosiect mawr a ddechreuwyd y llynedd, ac maent yn cael eu dosbarthu i bob ysgol yng Nghymru yn barod am y gaeaf.
Dywedodd Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru, Marie Battle: “Llais Defnyddwyr Cymru yw llais statudol defnyddwyr yn y farchnad ynni ac ers i ni gael ein sefydlu rydym wedi rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.
“Y llynedd, gwnaethom ariannu prosiect gyda Plant yng Nghymru i gasglu profiadau a chanfyddiadau pobl ifanc o dlodi tanwydd. Un o’r prif argymhellion gan y bobl ifanc oedd y dylai fod mwy o gyngor a gwybodaeth ar gael iddynt am sut i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a’r effaith y gall ei chael ar fywydau ifanc. Y poster hwn yw ein hymgais i roi’r wybodaeth honno, fel bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar y wybodaeth y maent hwy eu hunain yn ei gweld yn ddefnyddiol i allu ymdopi dros y gaeaf.”
Dywedodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru: “Mae llawer gormod o bobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd a chartrefi oer. Gall hyn effeithio arnynt yn fawr. Mae’n cael effaith niweidiol ar eu graddau yn yr ysgol, eu hiechyd a’u lles. Ac mae’n niweidio eu cyfleoedd mewn bywyd.
“Drwy siarad â phlant mewn ysgolion ledled Cymru, gwnaethom gasglu tystiolaeth wirioneddol o sut mae cartrefi oer yn effeithio ar fywydau plant. A thrwy wrando ar eu profiadau, a gofyn am eu barn, rydym wedi gallu llunio poster sy’n rhoi awgrymiadau defnyddiol i blant ynglŷn â sut i fynd i’r afael â’r problemau y gallent eu hwynebu – gobeithiwn y bydd ysgolion yn arddangos y posteri mewn mannau amlwg, fel bod cynifer o bobl ifanc â phosibl yn gallu cael budd ohono.
Nodiadau:
Mae’r posteri 10 Awgrym Defnyddiol er mwyn i blant a phobl ifanc gadw’n gynnes i’w gweld yma . Mae pob ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yng Nghymru wedi cael copi ohonynt.
Cliciwch i wylio’r ffilm Keep Warm This Winter. (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Mae’r adroddiad ysgrifenedig llawn gydag argymhellion i wneuthurwyr polisi ar gael yma.
Dangoswyd y ffilm yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn y Senedd ar 9 Chwefror, 2011.
Mae Llais Defnyddwyr Cymru a Plant yng Nghymru ymhlith aelodau sefydlu Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru. http://www.fuelpovertycharterwales.org.uk/cy/ ac yn aelodau Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru http://www.dileutlodiplantcymru.org.uk
