Newyddion

Ymgyrch i leihau costau olew gwresogi yn y gaeaf

Cyhoeddwyd 13 Medi 2011

illustration of an oil truckHeddiw, mae Llais Defnyddwyr Cymru yn lansio ymgyrch ‘awgrymiadau da’ ddwyieithog i gynorthwyo pobl sy’n defnyddio olew gwresogi domestig i gadw eu biliau dan reolaeth.

Bydd yr ymgyrch – a gynhelir mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ac a gefnogir gan Age Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, a Llywodraeth Cymru – yn annog aelwydydd sy’n dibynnu ar olew gwresogi i gael y fargen orau posibl. Rhan o waith Llais Defnyddwyr Cymru yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd, sydd bellach yn effeithio ar un ym mhob pedwar o gartrefi yng Nghymru a mwy na dwy ran o bump o bobl sy’n byw mewn cartrefi nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif rwydwaith nwy.

Meddai Lindsey Kearton, rheolwr polisi yn Llais Defnyddwyr Cymru: ‘Mae ein gwaith ymchwil a wnaed y llynedd ynglŷn â phobl nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif rwydwaith nwy wedi dangos yr anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu’n aml wrth geisio cadw eu cartrefi’n gynnes. Yn y blynyddoedd diweddar, rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn prisiau olew gwresogi yn ystod misoedd y gaeaf, a’r effaith ddifrifol y gall hynny ei chael ar gyllidebau aelwydydd.

‘O ganlyniad i’r gwaith ymchwil hwnnw, roeddem yn dymuno cynorthwyo pobl sy’n dibynnu ar olew domestig i gael y fargen orau posibl. Byddwn yn annog pobl sy’n dibynnu ar olew gwresogi i argraffu ein poster awgrymiadau da neu godi lliain sychu llestri â’r awgrymiadau da arno, er mwyn sicrhau bod y neges yn cael ei lledaenu a bod defnyddwyr yn gallu lleihau costau gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn.’

Mae’r ymgyrch hon yn rhan o ymgyrch gydgysylltiedig gan grwpiau defnyddwyr a’r diwydiant i annog defnyddwyr olew gwresogi i sicrhau bod ganddynt gyflenwad digonol ar gyfer y gaeaf yn gynnar yn ystod y tymor, pan fo’r prisiau’n tueddu i fod yn is a phan fo gan y cyflenwyr fwy o amser yn rhydd i ddanfon yr olew. Trwy beidio ag archebu tan y funud olaf yn ystod y gaeaf mae perygl y bydd yn cymryd mwy o amser i ddanfon yr olew ac y bydd y prisiau’n uwch. Mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi cynhyrchu llieiniau sychu llestri sy’n cael eu dosbarthu gan sefydliadau partner, yn ogystal â phoster y gellir ei lawrlwytho trwy eu gwefan.

 Ffeithiau am gartrefi nad ydynt wedi eu cysylltu â’r prif rwydwaith nwy:

  • Nid yw un o bob chwe chartref yng Nghymru yn defnyddio nwy’r prif rwydwaith i wresogi eu cartrefi. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn defnyddio olew domestig i wresogi eu cartrefi. (ffynhonnell: yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd)
  • Mae 143,000 o gartrefi yng Nghymru yn dibynnu ar olew gwresogi. (11.3%) Mae’r ganran hon yn fwy nag yn Lloegr neu’r Alban (Arolwg Byw yng Nghymru 2008).
  • Olew gwresogi yw’r dull mwyaf poblogaidd o wresogi yng Nghanolbarth Cymru wledig a’r ail ddull mwyaf poblogaidd o wresogi yn Ne-orllewin Cymru (nwy petrolewm hylifedig/nwy potel yw’r mwyaf cyffredin).
  • Mae pobl sy’n defnyddio olew gwresogi yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd difrifol (defnyddir 20% o’u hincwm ar wresogi) na’r rhai sy’n dibynnu ar danwydd arall nad yw’n rhan o’r prif rwydwaith.

 

Awgrymiadau da i ddefnyddwyr olew domestig (fersiwn fanwl) 

  •          Pan fyddwch yn llenwi’ch tanc ar gyfer y gaeaf, ceisiwch wneud hynny’n gynnar yn yr hydref. Bydd cyflenwyr yn aml yn llai prysur ar yr adeg hon ac yn gallu cynnig gwerth gwell nag yn ystod y cyfnodau prysur ym mis Rhagfyr, mis Ionawr a mis Chwefror.
  •          Mynnwch fwy nag un amcanbris er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y pris gorau am eich olew.
  •          Os ydych yn cael trafferth talu am eich tanwydd mewn un swm ar yr adeg danfon, gofynnwch i’ch cyflenwr ynglŷn â thalu’n fisol trwy Ddebyd Uniongyrchol.
  •          Os ydych yn newid cyflenwr, gofalwch eich bod yn rhoi cyfarwyddiadau danfon cywir i’ch cyflenwr newydd. Yna bydd yn gallu anfon cerbyd danfon priodol a bydd y gyrrwr yn gallu llenwi’r tanc cywir yn ddiogel.
  •         Mae disgownt ar gael wrth brynu mewn grwpiau. Fodd bynnag, gellir arbed yr arian mwyaf trwy archebu gyda hyd at bump o gymdogion yn yr un stryd neu bentref.
  • 

Ffoniwch gynllun Nest Llywodraeth Cymru ar 0800 512 012 (neu 0300 456 2655 o ffôn symudol) yn rhad ac am ddim i gael cyngor ar arbed ynni a chynyddu eich incwm,

 

Nodiadau:

Mae llieiniau sychu llestri a phosteri sy’n dangos awgrymiadau da Llais Defnyddwyr Cymru/Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn cael eu dosbarthu gan Ofal a Thrwsio Cymru a sawl elusen Age Cymru – gyda phwyslais arbennig ar ardaloedd gwledig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn lledaenu’r neges trwy ei chylchgrawn Gwlad. Lawrlwytho: http://www.consumerfocus.org.uk/wales/files/2011/09/Domestic-oil-tips-poster-web.pdf

Llais Defnyddwyr Cymru yw un o aelodau cychwynnol Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru ac mae hefyd yn cefnogi Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Dlodi Tanwydd. I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn dilynwch y ddolen hon: http://www.consumerfocus.org.uk/wales/policy-research/fuel-poverty

Ym mis Gorffennaf 2010, cyhoeddodd Llais Defnyddwyr Cymru Defnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad a microgynhyrchu. Roedd yr adroddiad yn dangos bod defnyddwyr nad ydynt wedi eu cysylltu â’r prif rwydwaith nwy yn wynebu cyfres o anfanteision, yn gysylltiedig â’r ffaith nad ydynt yn gallu defnyddio’r prif gyflenwad nwy. Mae’r prosiect cyfredol hwn yn rhan o’n gwaith dilynol.

 Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Swyddfa Masnachu Teg ei bod wedi cymryd camau i atal defnyddwyr rhag cael eu camarwain wrth chwilio am gyflenwadau olew gwresogi ar-lein. http://www.oft.gov.uk/news-and-updates/press/2011/96-11

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter