Newyddion

Angen tryloywder mewn dadl tâl am fagiau plastig

Cyhoeddwyd 23 Medi 2009

Bydd angen i ddefnyddwyr wybod sut y mae eu harian yn cael ei wario pe byddai tâl arfaethedig am fagiau plastig un defnydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, yn ôl Llais Defnyddwyr Cymru.

Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn cefnogi’r egwyddor o annog defnyddwyr i leihau faint o fagiau plastig a ddefnyddir ganddynt ac i ddilyn ffordd o fyw mwy cynaliadwy. Serch hynny, mae’r corff gwarchod defnyddwyr yn credu y dylid defnyddio unrhyw arian a geir drwy godi tâl am fagiau plastig mewn ffordd agored a thryloyw gan sefydliad annibynnol ‘hyd braich’.

Meddai Cadeirydd Llais Defnyddwyr Cymru, Vivienne Sugar: “Rydym yn pryderu am yr effaith bosib y bydd codi tâl yn ei chael ar grwpiau incwm is, ac yn credu ei bod yn hollbwysig i Lywodraeth Cynulliad Cymru ofyn i bobl faint y byddent yn fodlon ei dalu am fagiau plastig.

“Rydym hefyd yn teimlo ei bod yn hanfodol i sefydliad annibynnol weinyddu’r arian er mwyn i ddefnyddwyr fod yn hyderus bod y tâl yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol er lles yr amgylchedd. Rydym yn cydnabod nad oes hawl gan Weinidogion Cymru ar hyn o bryd i benderfynu ar beth y dylid gwario unrhyw arian a godir yn y modd hwn, ac rydym yn annog yn gryf y dylid rhoi blaenoriaeth i gynlluniau cyfredol i newid y gyfraith yn hyn o beth.”

Mae Llais Defnyddwyr Cymru o’r farn bod camau o’r fath yn hanfodol er mwyn sicrhau tryloywder i ddefnyddwyr yng Nghymru a chynyddu eu hyder yn y fenter hon. Anogir Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd i weithio’n agos â phob busnes y bydd y newid yn effeithio arnynt er mwyn eu helpu i esbonio’r neges i ddefnyddwyr.

Ychwanegodd Ms Sugar: “Efallai bod defnyddwyr yn gyfarwydd â’r syniad o dalu am fagiau mewn rhai siopau bwyd mwy o faint, ond ni fyddant wedi talu am fagiau mewn siopau fel siopau dillad neu siopau cludfwyd. Mae’n rhaid i fanwerthwyr a busnesau sicrhau bod defnyddwyr yn gwbl ymwybodol ar yr adeg prynu y bydd tâl ychwanegol yn cael ei godi am fag plastig.”

Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd achub ar y cyfle i hyrwyddo agweddau cadarnhaol ffordd o fyw mwy cynaliadwy, fel y rhai a nodwyd yn ymgyrch “Bag am Byth” ddiweddar Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gallai hyn gynnwys awgrymiadau i helpu defnyddwyr i gofio mynd â’u bag am byth gyda hwy pan fyddant yn mynd i siopa, yn ogystal â dosbarthu bagiau am byth rhad ac am ddim mewn partneriaeth â chymunedau lleol.

Nodiadau

 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Angharad/Jamie ar 029 2078 7111/0.

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact: