Newyddion

Angen i Swyddfeydd Post Local wella er mwyn i ddefnyddwyr gael y budd mwyaf, yn ôl adroddiad

Cyhoeddwyd 7 Chwefror 2012

Yn yr adroddiad Aros yn Lleol: Dyfodol Rhwydwaith Swyddfa’r Post, nododd y corff gwarchod defnyddwyr, er bod Swyddfeydd Post Local o fudd amlwg i gwsmeriaid, fod gan ddefnyddwyr bryderon hefyd.

Mae canfyddiadau yn dangos bod pobl yn croesawu’r oriau hwy, y cyfleustra a’r gwasanaeth cyfeillgar.  Yn benodol, roedd cyfleustra yn bwysig i’r cwsmeriaid hynny a oedd yn byw mewn ardaloedd anghysbell lle nad oedd fawr ddim gwasanaethau amgen, os o gwbl, gerllaw a chwsmeriaid oedrannus a soniodd am broblemau symudedd a diffyg cludiant.  Ond dywedodd pobl hefyd fod ganddynt bryderon ynghylch preifatrwydd, yr amrywiaeth o wasanaethau a chynhyrchion, ac ymwybyddiaeth o’r hyn y mae eu gwasanaeth lleol yn ei gynnig. Cododd rhai o’r cwsmeriaid a gyfwelwyd bryderon am allu rhai aelodau o staff mewn Swyddfeydd Post Local i ddelio â thrafodion anos fel postio parseli trwm a delio â thaliadau pensiwn, gan amlygu’r ffaith bod angen gwell hyfforddiant a chymorth ar gyflogeion.

Mae gan fwy o bobl yng Nghymru salwch sy’n cyfyngu ar fywyd a all effeithio ar eu gallu corfforol i gyrraedd eu swyddfa bost agosaf a gallai defnyddwyr agored i niwed fod dan anfantais os nad eir i’r afael â’r galw am fwy o gynhyrchion a gwasanaethau mewn Swyddfeydd Post Local.

Mae defnyddwyr anabl ac oedrannus yn ddibynnol iawn ar y swyddfa bost, gyda saith o bob deg yn ymweld â’r swyddfa bost o leiaf unwaith yr wythnos, ac i’r rhan fwyaf y swyddfa bost i lawr y ffordd yw’r unig un y gallant ei chyrraedd. Mae hyn hefyd yn wir i ddefnyddwyr mewn rhai o’r ardaloedd gwledig mwyaf anghysbell yng Nghymru. Gallai Swyddfeydd Post Local chwarae rôl allweddol o ran sicrhau bod rhwydwaith Swyddfa’r Post yn addas at y diben yn y dyfodol.

Dywedodd Rebecca Thomas, arbenigwraig gwasanaethau post yn Llais Defnyddwyr Cymru:

‘Mae swyddfeydd post yn wasanaeth hanfodol i gymunedau lleol yng Nghymru. Cyn i Swyddfeydd Post Local gael eu cyflwyno ledled Cymru, mae’n hanfodol bod Swyddfa’r Post yn creu model sy’n diwallu anghenion ei gwsmeriaid, nawr ac yn y dyfodol. Mae ein hymchwil yn tynnu sylw at rai pethau pwysig ond mae hefyd yn nodi llawer o bryderon y mae’n rhaid eu datrys ar fyrder. Mae hyn yn newid mawr o gymharu ag is-swyddfeydd post traddodiadol. Mae gan Swyddfeydd Post Local y gallu i gynnig y gwasanaeth cyson a dibynadwy y mae defnyddwyr yn dibynnu arno – ond mae angen gweld gwelliannau mewn llawer o ardaloedd.

‘Gwasanaeth cymunedol yw’r swyddfa bost i bobl ac mae ganddynt ddisgwyliadau ynghylch y gwasanaeth y byddant yn ei gael.  Mewn ardaloedd gwledig, anghysbell, mae’n parhau i fod yn ganolbwynt cymdeithasol i lawer. Er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn gynaliadwy yn y dyfodol, mae’n rhaid iddo allu cael budd o ffrydiau refeniw yn y dyfodol gan gynnwys trafodion banc a marchnad broffidiol gollwng a chodi parseli, sy’n cael ei hybu gan siopa ar-lein.’

Dywedodd Victoria Lloyd, Cyfarwyddwr Dylanwadu a Datblygu Rhaglenni Age Cymru:

‘Mae swyddfeydd post yn hollbwysig i bobl hŷn a dangosodd ymchwil a wnaed yn 2007 fod 76 y cant o bobl 65 oed a hŷn yng Nghymru yn defnyddio eu swyddfa bost leol o leiaf unwaith yr wythnos.

‘Mae’r ffaith bod swyddfeydd post – canolbwynt traddodiadol ein cymunedau – wedi bod yn diflannu yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cyfrannu at gynnydd mewn problemau megis ynysu cymdeithasol ac unigrwydd. Mae colli swyddfeydd post – a’r canghennau banc sydd hefyd wedi bod yn cau – wedi ei gwneud yn anos cael gafael ar arian yn gyflym ac yn hawdd mewn rhai rhannau o Gymru.

‘Gan fod pobl hŷn yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaeth bancio dros y ffôn neu’r rhyngrwyd, ni allant gyflawni trafodion ariannol syml megis talu biliau neu gasglu pensiwn mor hawdd. Mae’r gwasanaethau hyn yn hanfodol a dyma pam bod Age Cymru am weld busnesau fel swyddfeydd post yn cael eu cefnogi er mwyn adfywio cymunedau lleol a sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu yn economaidd.’

Mae’r adroddiad hefyd yn sôn am nifer o newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud ym marn Llais Defnyddwyr cyn y gall Swyddfeydd Post Local gael eu cyflwyno ymhellach. Ymhlith yr argymhellion allweddol a amlygwyd gan yr ymchwil mae’r canlynol:

Dylai Swyddfa’r Post Cyf:

  • gynnig cyrsiau hyfforddi am ddim ar alw i bob aelod o staff sy’n gweithio mewn cangen o Swyddfa’r Post Local.  Mae angen i drafodaethau gael eu cynnal rhwng gweithredwyr safleoedd unigol llai a Swyddfa’r Post Cyf ar y ffordd fwyaf addas o wneud hyn
  • caniatáu ar gyfer hyblygrwydd o ran ei amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau a datblygu arlwy briodol o gynhyrchion ar gyfer gwasanaethau Local ac Allgymorth
  • mynd i’r afael â phryderon defnyddwyr ynghylch preifatrwydd a thrafodion sy’n cymryd llawer o amser fel bod modd i fodelau Swyddfeydd Post Local ac Allgymorth ddarparu ystod eang o wasanaethau llywodraethol yn effeithiol
  • sicrhau bod oriau agor y swyddfa bost a’r safle manwerthu yn cyfateb
  • gwerthuso pa wersi y gellir eu dysgu o’r cynlluniau peilot ar gyfer y gwasanaeth Local mewn perthynas ag anghenion hyfforddi.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • fonitro a gwerthuso effaith debygol newidiadau i rwydwaith Swyddfa’r Post ar gymunedau llai a’u busnesau, yn benodol cymunedau gwledig anghysbell lle mae’n anodd cael gafael ar wasanaethau a cheisio cyfleoedd i hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael iddynt

 

Dylai Llywodraeth Cymru, Swyddfa’r Post Cyf a Mentrau Iaith:

  • ystyried cydweithio i ddarparu hyfforddiant Cymraeg i’r rheini sy’n gweithio mewn safleoedd Local ac Allgymorth oherwydd eu rôl amhrisiadwy mewn cymunedau lleol

Nodiadau i olygyddion:

Gallai newidiadau i rwydwaith Swyddfa’r Post weld Swyddfa’r Post Local yn cymryd lle cynifer ag un o bob pum is-swyddfa bost benodedig ledled y DU. Bydd y model Swyddfeydd Post Local yn wasanaeth swyddfeydd post sy’n gweithredu ar safle manwerthu presennol, megis siop, gorsaf betrol, neu hyd yn oed archfarchnad.Bydd Swyddfeydd Post Local yn cynnig gwasanaethau craidd (megis gwasanaeth anfon post cyffredinol, casglu pensiwn a budd-daliadau, talu’r rhan fwyaf o filiau) ond nid yr amrywiaeth lawn o gynhyrchion a gynigir gan is-swyddfeydd post traddodiadol (megis talu biliau cyfleustodau papur, adneuo arian parod gyda llyfr talu i mewn). Fodd bynnag, yn nodweddiadol bydd yn cynnig oriau agor hwy ar gyfer trafodion y swyddfa bost, yn unol â’r oriau agor manwerthu[1]. Ar hyn o bryd, mae chwe changen o Swyddfa’r Post Local yn gweithredu yng Nghymru[2]

 

  1. Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ‘Securing the Post Office Network in the Digital Age’ Tachwedd 2010
  2. Ymhlith y gwasanaethau craidd a gynigir mewn Swyddfa’r Post Local mae postio llythyrau a pharseli, talu biliau, casglu pensiwn neu fudd-daliadau, codi arian parod, casglu arian teithio a archebwyd ymlaen llaw a gwasanaethau craidd eraill.
  3. Cafodd Opinion Research Services ei gomisiynu gan Llais Defnyddwyr Cymru i gynnal cyfanswm o 48 o gyfweliadau trylwyr yn y pedair ardal a ddewiswyd ym mis Awst a mis Medi 2011.  Dewiswyd y cyfranogwyr yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
  • Pobl sy’n defnyddio gwasanaethau Swyddfeydd Post ‘Local’ neu allgymorth partner yn rheolaidd.
  • Pobl sydd hefyd yn defnyddio darpariaeth swyddfa bost arall ond sy’n byw yn yr ardal leol
  •  Pobl sy’n dewis peidio â defnyddio gwasanaethau swyddfeydd post ‘Local’ neu allgymorth partner ond sy’n defnyddio darpariaeth swyddfa bost arall

 


[1] t13 Securing the Post Office Network in the Digital Age

[2] Niferoedd a ddarparwyd gan Swyddfa’r Post Cyf (Tachwedd 2011)

Press Contact Details

For press & media enquiries, please contact:

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter