Bwrdd

Cyfarfod Bwrdd Agored   Mae cyfarfodydd Bwrdd Llais Defnyddwyr Cymru yn agored i’r cyhoedd fynychu fel arsylwyr. Mi fydd cyfarfod nesaf bwrdd Llais Defnyddwyr Cymru ar ddydd Iau 26ain o Dachwedd am 10.30 y bore yn swyddfa Llais Defnyddwyr Cymru, 3ydd Llawr, Twr y Brifddinas, Greyfriars Road, Caerdydd. Am fwy o wybodaeth ac i neulltio eich lle e-bostiwch contactwales@consumerfocus-wales.org.uk neu ffoniwch 029 2078 7100.  

Aelodau Bwrdd Llais Defnyddwyr Cymru

 

Vivienne Sugar

Penodwyd Vivienne Sugar yn Gadeirydd Llais Defnyddwyr Cymru ym mis Ionawr 2008. Mae hi’n Gymrawd o’r Sefydliad Tai Siartredig ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Tai yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn flaenorol.  Roedd Vivienne yn  Prif Weithredwr  Dinas Sir Abertawe rhwng 1995 a 2003.

Yn 2005, fe’i penodwyd yn  Is-lywydd Prifysgol Abertawe  a rhwng 2005 a 2009 fe’i penodwyd yn

Gynghorydd Cymru ar gyfer Sefydliad Joseph Rowntree. Roedd Vivienne yn Gadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru rhwng 2003 a 2008. Erbyn hyn, mae Vivienne yn gweithio fel Ymgynghorydd i’r Llywodraeth a Llywodraeth Leol.

Y Parch. Hywel Davies

Hywel yw Rheolwr Tearfund Cymru a Gweinidog Capel Cildwrn yn Llangefni, Ynys Môn.  Bu’n Gadeirydd Menter Môn, sef Asiantaeth Adfywio a Menter Ynys Môn, ers y chwe blynedd diwethaf.  Yn rhinwedd ei swydd fel Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn, mae wedi gwasanaethu’r Bwrdd fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Comisiynu, ac ef oedd Hyrwyddwr Iechyd Corfforaethol y Bwrdd.

Mae Hywel hefyd yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Chyfranogiad Cymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru, yn aelod annibynnol o fwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn Is-gadeirydd i’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru.

 

Dr Kevin Fitzpatrick

Penodwyd Dr Kevin Fitzpatrick yn Rheolwr Gyfarwyddwr Inclusion21 Ltd sef cwmni a ffurfiwyd ganddo yn 2004, sy’n cynnig gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori sy’n hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.  Dysgodd Athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe o 1983-1996, ac ar ôl hyn cymerodd rôl mewn gwaith polisi ac ymchwilio ar gyfer elusen genedlaethol (DU). Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cydymaith i’r Athrofa Gofal Cymdeithasol ac Iechyd  Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn cadeirio bwrdd ymddiriedolwyr Cymdeithas Plant Dewi Sant a Gofal Celf Cymru. Yn flaenorol bu’n Cadeirydd Panel Adolygu Arbenigol Unum UK, ac yn rhan o grŵp cynghori i Gomisiwn Iechyd Cymru. Penodwyd hefyd fel Comisiynydd Hawliau Anabledd Cymru ers ei ddechreuad yn 2000, ac arhosodd yn y rôl yma gyda’r CHA tan ei ddiwedd yn 2007.

Dr Malcolm Smith

Mae Dr Malcolm Smith yn awdur ar ei liwt ei hun sy’n ysgrifennu ynglŷn â bywyd gwyllt, yr amgylchedd a theithio.  Mae’n Aelod o Fwrdd Asiantaeth yr Amgylchedd, gyda chyfrifoldeb penodol am faterion yn ymwneud â Chymru, ac mae’n cadeirio Grŵp Cynghori ar Ddŵr a Pherygl Llifogydd yr Asiantaeth.  Yn 2004, penderfynodd ymddeol yn gynnar o’i swydd fel Prif Wyddonydd a Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru.  Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Defnyddwyr Cymru am 4 blynedd.

Bob Chapman Ysw.

Ymgynghorydd rheoli yw Bob Chapman sy’n gweithio’n bennaf yn y sector cyfreithiol a chynghori, ac mae e’n aelod o’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd Pwyllgor Cymru ac yn aelod o fwrdd Llais Defnyddwyr Cymru.   Yn dilyn pymtheng mlynedd ar hugain o weithio yn y sector cynghori i Ganolfannau Cyngor ar Bopeth ac Unedau Hawliau Lles awdurdodau lleol, ymunodd a’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, lle ddaeth yn  Gyfarwyddwr Dros Fro Cymru cyn ymddeol yn gynnar yn 2007. Mae e’n Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Rheolaeth, ac yn Ymddiriedolwr Bwrdd Sefydliad Bevan, yn Is-gadeirydd o fwrdd llywodraethol ysgol gynradd, ac yn flaenorol bu’n Ymddiriedolwr Bwrdd Shelter Cymru.

 

Eifion Pritchard Ysw.

Ymunodd Eifion â Heddlu Sir Ddinbych ym 1961, ac fe’i penodwyd yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed-powys.  Cafodd ei wobrwyo gyda Medal Heddlu’r Frenhines yn Anrhydeddau Pen-blwydd 1997 a bu iddo ymddeol fel Dirprwy Prif Gwnstabl yn 1998.

Ar ôl ymddeol, fe’i penodwyd yn gadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ac yna ddaeth yn gadeirydd Golwg ar Bost Cymru tan ei darfyddiad yn 2008.  Cafodd Eifion ei benodi i Bwyllgor Archwiliad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru  yn 2009. Am 4 blynedd bu’n aelod Cyngor Defnyddwyr Cymru.

Yr Athro Marcus Longley

Mae Marcus Longley yn athro Polisi Iechyd Cymhwysol a Chyfarwyddwr Cyswllt Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Morgannwg. Cafodd ei addysgu ym mhrifysgolion Rhydychen, Caerdydd a Bryste a gweithiodd i’r GIG am 14 mlynedd o fewn cymysgedd o swyddi rheoli a chynllunio. Bu Marcus yn gynghorydd arbennig i Bwyllgor Materion Cyffredin Tŷ’r Cyffredin yn ogystal â’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae e hefyd yn aelod bwrdd ar gyfer dau sefydliad trydydd sector.  Cafodd ei enwebu fel  cymrawd o Gyfadran Iechyd y Cyhoedd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn 2008 ac mae e hefyd yn aelod o Fwrdd Hunanofal Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yr Athro John Williams

Mae’r Athro John Williams yn Athro’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Mae’n aelod o Bwyllgor Sefydlog Cymru’r Gyfraith a Phwyllgor Cynghori CAFCASS Cymru.  Mae hefyd yn ymddiriedolwr Help the Aged UK a Chanolfannau Cyngor ar Bopeth Cymru.  Roedd yn Aelod o Gyngor Defnyddwyr Cymru am 4 blynedd.

 

Cymdeithasol

Twitter RSS Email Newsletter