Amdanom Ni
Uned Cymorth Ychwanegol
Mae dyletswydd ar Llais Defnyddwyr dan Adran 13 o Ddeddf Defnyddwyr, Gwerthwyr Tai a Gwneud Iawn i ddelio ag achosion lle mae cyflenwad y defnyddiwr wedi’i ddatgysylltu neu lle mae bygythiad i’w ddatgysylltu, gan gynnwys achosion rhai sy’n talu ymlaen llaw sydd heb gyflenwad.
Mae gan Llais Defnyddwyr bwerau hefyd dan Adran 12 i ddelio ag achosion sy’n ymwneud â gwasanaethau ynni a phost a gafwyd gan ddefnyddwyr sy’n agored i niwed. Y diffiniad o ddefnyddiwr sy’n agored i niwed yn Neddf Defnyddwyr, Gwerthwyr Tai a Gwneud Iawn yw rhywun nad yw’n rhesymol disgwyl iddo fynd ynghylch y gwyn ei hun.
Diffiniad
Mae diffiniad wedi’i gymeradwyo gan Fwrdd Llais Defnyddwyr sy’n cydnabod y gallai defnyddiwr fod yn agored i niwed oherwydd ei amgylchiadau personol a/neu am fod ei gwyn o natur frys neu gymhleth.
Mewn llawer o sefyllfaoedd, byddai Cyswllt Defnyddwyr yn dal i allu helpu defnyddwyr a allai fod yn agored i niwed drwy:
- ddarparu cyngor, defnyddio’r trefniadau grymuso i gyfeirio’r defnyddiwr at dîm uwch yn y cwmni cyflenwi, neu
- drwy gyfeirio’r defnyddiwr at y Cynllun Gwneud Iawn.
Byddai rhai sefyllfaoedd, er hynny, lle na fyddai’r dewisiadau hyn yn briodol, gan gynnwys rhai lle nad oedd y defnyddiwr yn gallu deall neu ddilyn y cyngor a roddwyd a lle’r oedd atgyfeiriad grymuso blaenorol i’r cwmni cyflenwi wedi methu â datrys y mater.
Mae canllawiau wedi’u datblygu gyda’r diwydiant a fydd yn caniatáu i Cyswllt Defnyddwyr drosglwyddo achosion i uned ‘Cymorth Ychwanegol’ Llais Defnyddwyr os nad yw defnyddiwr yn gallu mynd ynghylch ei gwyn gyda’i gwmni cyflenwi oherwydd:
- Natur frys ei sefyllfa e.e. camau i gasglu dyled neu drefniant talu anymarferol
- Ei amgylchiadau personol, lle nad yw’r defnyddiwr yn gallu delio â’r mater ei hun
- Natur gymhleth y broblem, sy’n ei gwneud yn anodd i’r defnyddiwr ddelio’n uniongyrchol â’i gwmni cyflenwi ac sy’n golygu bod arno angen cymorth gan arbenigwr i ddatrys ei broblem.
Er y bydd y rhan fwyaf o achosion Llais Defnyddwyr wedi’u hatgyfeirio iddo gan Cyswllt Defnyddwyr, bydd angen derbyn nifer bach o achosion o ffynonellau eraill hefyd, gan gynnwys:
- Atgyfeiriadau gan Ofgem a Postcomm
- Cwynion gan Aelodau Seneddol
- Atgyfeiriadau o’r Cynlluniau Gwneud Iawn
