Amdanom Ni
Ein strwythur
Ble yr ydym yn gweithio a’r hyn yr ydym yn gweithio arno.
Rydym yn gweithio mewn lleoliad datganoledig, gyda’r blaenoriaethau gwaith yn amrywio ar draws gwahanol rannau o’r wlad, ond mae pob un ohonynt yn gweithio yn unol â’n nodau strategol cyffredin.
Bydd ein swyddfeydd cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, ac – ar gyfer post – Gogledd Iwerddon, yn sicrhau ein bod yn ymdrin â’r materion sydd bwysicaf i ddefnyddwyr ym mhob rhan o’r wlad.
Dilynwch y dolenni ar ochr chwith y sgrîn er mwyn cael mwy o wybodaeth am wahanol rannau o’n sefydliad.
Mae gan Lais Defnyddwyr gylch gwaith ehangach nag a welwyd erioed o’r blaen sy’n cwmpasu’r economi gyfan, ynghyd ag arbenigedd manwl ynglyn â’r materion allweddol sy’n ymwneud ag ynni a phost.
Rydym wedi dal ein gafael ar yr arbenigedd a oedd gan ein sefydliadau rhagflaenol, gan sicrhau dilyniant o ran y sgiliau, y profiad a’r gallu i ddeall profiadau defnyddwyr ar draws gwahanol sectorau.
Mae ein cylch gwaith eang yn golygu y gallwn greu synergedd traws-sector nad oedd yn bosibl o’r blaen – er enghraifft, gellir edrych ar swyddogaeth swyddfeydd post yn y cyd-destun ehangach o fynediad at wasanaethau lleol, a gellir gosod ynni i ddefnyddwyr yn y cyd-destun ehangach o bolisi ynni a newid yn yr hinsawdd.
Rydym wedi sefydlu rhaglenni eirioli ar ystod o faterion, sy’n adlewyrchu ein pryderon allweddol: ynni, post, gwasanaethau cyhoeddus, cynaliadwyedd, gwasanaethau cymunedol, marchnadoedd agored, gwasanaethau defnyddwyr, a defnyddwyr sydd dan anfantais. Bydd y gwaith a wneir gan y rhaglenni hyn yn rhychwantu’r economi gyfan, ac yn cynnwys y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Mae gennym hefyd ymrwymiad i weithio ar ran defnyddwyr sy’n agored i niwed, yn ogystal â dyletswydd i weithio ar faterion datblygiad cynaliadwy. Bydd y naill a’r llall o’r rhain wrth wraidd ein gwaith.
Wrth i’n hymgyrchoedd a’n prosiectau ddatblygu, byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth amdanynt ar y wefan hon.
