Amdanom Ni
Ein gweledigaeth
Yn syml: ‘mwy o bwer i’r bobl’.
Rydym eisiau i ddefnyddwyr, yn enwedig y rhai hynny sy’n fwy agored i niwed, gael llais ynglyn â’r nwyddau a’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn.
Er gwaethaf datblygiadau sylweddol yn hawliau defnyddwyr y DU yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, mae llawer iawn o waith yn dal i’w wneud, ac mae angen i lawer o welliannau ddigwydd hefyd. Yn rhy aml o lawer, mae defnyddwyr yn dal i dderbyn gwasanaeth annigonol neu ni roddir gwerth am arian iddynt. Yn waeth na hynny, weithiau y rhai sydd fwyaf agored i niwed yw’r rhai sy’n cael eu trin waethaf neu sy’n talu fwyaf.
Byddwn yn gweithio gyda defnyddwyr ac ar eu rhan i fynd i’r afael â’r problemau hyn a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Pan fydd pob sefydliad, busnes a marchnad yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, bydd ein gwaith wedi’i wneud.
