Amdanom Ni
Cwynion yn erbyn Llais Defnyddwyr
Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth
Mae Uned Cymorth Ychwanegol Llais Defnyddwyr yn delio â chwynion am wasanaethau ynni a phost sydd wedi’u cyfeirio atom gan Cyswllt Defnyddwyr a chyrff eraill. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth effeithiol a phroffesiynol i bawb sy’n cysylltu â ni. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo’n anfodlon ar y gwasanaeth yr ydych wedi’i gael gennym neu ar y modd yr ydym wedi delio â’ch cwyn gyda’r cwmni ynni neu gwmni post, dylech lawrlwytho ein taflen ‘Cwynion am Llais Defnyddwyr’ i gael arweiniad, neu gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Gallwch gysylltu â ni ar 0800 458 2245, anfon neges e-bost atom yn executive.liaison@consumerfocus.org.uk neu ysgrifennu atom yn Executive Liaison Team, Consumer Focus, 1st Floor, Delta House, 50 West Nile Street, Glasgow, G1 2NP
Os ydych am gwyno am unrhyw agwedd arall ar waith Llais Defnyddwyr, gallwch un ai:
- ein ffonio ar 020 77997900 neu
- ysgrifennu atom yn Head of Secretariat, Consumer Focus, 4th Floor, Artillery House, Artillery Row, Llundain, SW1P 1RT.
Bydd eich cwyn yn cael ei throsglwyddo wedyn i’r Cyfarwyddwr neu Arweinydd Rhaglen priodol i ymchwilio iddi.
Ymchwilir yn drwyadl i bob cwyn am Llais Defnyddwyr, a byddwn yn eich hysbysu’n llawn am hynt eich cwyn ac yn trafod y canlyniadau gyda chi.
SYLWER: Gwasanaeth ar gyfer cwynion yn erbyn Llais Defnyddwyr yn unig yw hwn. Os oes gennych gwyn am wasanaethau post neu ynni, dylech gysylltu â’r cwmni neu gallwch gael cyngor a chymorth annibynnol drwy gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr.
Ysgrif lawrlwytho:
Cwynion yn erbyn Llais DefnyddwyrMaint: [19 KB] Math o ffeil: [.pdf]
