Amdanom Ni

Llais Defnyddwyr yw’r sefydliad statudol newydd sy’n ymgyrchu i geisio bargen deg i ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, ac, ar gyfer gwasanaethau post, Gogledd Iwerddon.

Byddwn yn gweithredu fel llais y defnyddiwr, ac yn gweithio i sicrhau bargen deg ar eu rhan. Fe’n crëwyd trwy gyfuno tri sefydliad defnyddwyr – Golwg ar Ynni, Golwg ar Bost a’r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol (gan gynnwys Cynghorau Defnyddwyr Cymru a’r Alban). Mae’r dull newydd yn caniatáu eirioli ar ran defnyddwyr mewn modd mwy cydlynol, gydag un sefydliad yn siarad â llais grymus, ac sy’n gallu dod ag arbenigedd traws-sector i faterion o bryder yn haws nag o’r blaen.

Dim newydd ddechrau ar ein gwaith ydym ni. Ein blaenoriaeth yn ystod y cyfnod cynnar hwn yw cyflogi’r aelodau staff cywir, paratoi’r tir ar gyfer cyflawni’r nodau a amlinellir yn ein Blaengynllun Gwaith a chryfhau ein perthynas â’n sefydliadau partner allweddol ac unigolion. Cyhoeddir ein rhaglen waith fawr gyntaf yn gynnar yn 2009.

Ein pwerau

Mae gan Lais Defnyddwyr bwerau deddfwriaethol cryf newydd. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i ymchwilio i unrhyw gwyn gan ddefnyddiwr os oes iddi berthnasedd ehangach, yr hawl i geisio gwybodaeth gan ddarparwyr, y pwer i gynnal gwaith ymchwil a’r gallu i wneud uwch-gwyn swyddogol ynglyn â gwasanaethau nad ydynt yn ddigon da.

Mae gennym ddigon o adnoddau i ddefnyddio’r pwerau hyn ac ymgyrchu ynglyn â’r materion sydd bwysicaf i ddefnyddwyr. Mewn gwirionedd, gyda 170 o aelodau staff, ni yw’r corff eirioli mwyaf gyda’r adnoddau gorau yn hanes symudiad defnyddwyr y DU.