-
-
Prin yw ymgysylltiad defnyddwyr yng Nghymru â’r farchnad ynni
Pam does dim diddordeb yn y farchnad ynni o ddefnyddwyr yng Nghymru? Adroddiad pwysig newydd nawr ar gael.
-
Cynllun Gwaith 2012-2013
Dych chi'n gwybod beth mae Llais Defnyddwyr Cymru yn gwneud nesaf?
-
Bydd poster mewn ysgolion yn helpu pobl ifanc i gadw’n gynnes y gaeaf hwn
Caiff poster dwyieithog sy'n tynnu sylw at ffyrdd y gall plant a phobl ifanc gadw'n gynnes y gaeaf hwn ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru. Mae'r posteri, a gynhyrchwyd gan Llais Defnyddwyr Cymru a Plant yng Nghymru, yn dangos deg awgrym a luniwyd gan bobl ifanc i bobl ifanc.
- @LlaisDefnyddwyr Dweud eich dweud ar y Bil Hylendid Bwyd. http://t.co/Ch5mtkz0 2/02/2012 ar 17:00
Newyddion Diweddaraf RSS
Lleisiwch eich barn ar y Bil Hylendid Bwyd
2 Chwefror 2012
Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw ar ddefnyddwyr i gefnogi eu hymgyrch i wneud newidiadau i’r gyfraith bwyd yng Nghymru.
Mae angen lefel uwch o ddiogelwch rhag perchenogion anonest safleoedd cartrefi mewn parciau
1 Chwefror 2012
Mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi gofyn i AC gefnogi camau i ddiogelu pobl sy’n byw mewn cartrefi mewn parciau rhag cam-drin ariannol gan berchenogion anonest safleoedd.
Prin yw ymgysylltiad defnyddwyr yng Nghymru â’r farchnad ynni
18 Ionawr 2012
“Mae mwy na dau o bob pump o ddefnyddwyr yng Nghymru heb newid eu cyflenwr ynni erioed. Mae llawer o’r bobl sydd wedi newid wedi gwneud hynny unwaith yn unig, gan newid o gyflenwyr nwy a thrydan ar wahân i gytundeb tanwydd deuol. Mae hyn yn golygu y gallai cymaint ag wyth o bob deg o aelwydydd yng Nghymru fod yn talu mwy nag sydd ei angen i wresogi eu cartrefi.” – Lindsey Kearton, Llais Defnyddwyr Cymru
Cynllun Gwaith 2012-2013
9 Ionawr 2012
Credwn y bydd y nodau hyn, sy’n deillio o’n hymarfer ymgynghori mawr â defnyddwyr ledled Cymru, yn waddol teilwng ar gyfer yr holl waith caled a wnaed gan Lais Defnyddwyr Cymru.
-
Edrych i wneud cwyn?
Os oes gennych chi ymholiad neu os ydych angen cyngor ar broblemau defnyddwyr cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr
Cyhoeddiadau Diweddaraf RSS
-
Ymateb Llais Defnyddwyr Cymru i ymgynghoriad Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ar Gynllun Sgorio Archwiliadau Awdurdodau Lleol
23 Ionawr 2012
Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn croesawu’r cyfle i roi sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn. Rydym yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn o safbwynt y defnyddiwr, felly o gofio natur dechnegol y cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn, yn hytrach nag ateb y cwestiynau’n benodol; rydym yn hytrach wedi rhoi crynodeb o’n pwyntiau allweddol. Mae’r ymateb ysgrifenedig hwn [...]
-
Heb weld y goleuni:barn defnyddwyr am newid cyfenwyr ynni yng Nghymru
18 Ionawr 2012
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio i ba raddau y mae defnyddwyr yng Nghymru yn ymgysylltu â’r farchnad ynni. Mae’n seiliedig ar waith ymchwil a gomisiynwyd gan Lais Defnyddwyr Cymru ym mis Tachwedd 2011.
