Archive for the ‘Cyfieithiad’ Topic
Dylai defnyddwyr osod eu clociau ar gyfer newid Cyfrifon ISA nawr
Published: 5 April 2011
Mae Llais Defnyddwyr yn annog defnyddwyr i osod eu clociau larwm ar gyfer mis Ebrill 2012 i sicrhau eu bod yn newid eu Cyfrifon Cynilo Unigol (ISA) arian parod i’r cyfraddau gorau sydd ar gael. Mae llawer o’r ‘cyfraddau temtio’ deniadol o hyd at 3.5% a gynigir gan fanciau yn dod i ben ar ôl [...]
Publication: Yn lleol ond yn gyfyngedig? – A fydd Swyddfeydd Post Local yn diwallu anghenion defnyddwyr?
Published: 1 April 2011
Bydd rhwydwaith Swyddfa’r Post yn cael ei ailstrwythuro’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf. Bydd un swyddfa bost o bob chwech ac un is swyddfa bost o bob pump yn cael eu newid i fodel gweithredu hollol newydd – Swyddfa’r Post Local. Bydd hyn yn golygu cryn newid i wasanaeth swyddfa’r post lleol miliynau o ddefnyddwyr. [...]
Mae’n rhaid i Swyddfeydd Post ‘Lleol’ wneud yn well, meddai adroddiad newydd gan Lais Defnyddwyr
Published: 1 April 2011
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Lais Defnyddwyr yn amlygu profiadau pobl o’r cynllun Swyddfeydd Post ‘Lleol’ (Post Office Local) newydd a allai arwain at ddisodli 2,000 o is-swyddfeydd post traddodiadol.1 Er bod y model Lleol yn cynnig buddion, mae’r adroddiad ‘Local but limited?’ yn dadlau bod angen gwneud newidiadau arwyddocaol o hyd i sicrhau [...]
Annog cynilwyr ISA arian parod i edrych ar eu cyfraddau gan y gallai miliynau fod ar eu colled
Published: 28 March 2011
Mae gwaith ymchwil newydd gan Lais Defnyddwyr yn dangos bod dau o bob tri unigolyn a agorodd Gyfrif Cynilo Unigol (ISA) arian parod â chyfradd llog ‘temtio’ yn debygol o fod ar eu colled trwy beidio â newid ar ôl i’r gyfradd llog gyflwyniadol uwch ddod i ben.1 Mae’r corff gwarchod defnyddwyr yn codi pryderon [...]
Angen amddiffyn busnesau bach yn well rhag broceriaid ynni, meddai Llais Defnyddwyr
Published: 18 March 2011
Mae rhai o’r busnesau lleiaf yn colli’r bargeinion gorau oherwydd y ffordd y mae rhai broceriaid1 yn gweithio wrth gytuno ar gontractau gyda chyflenwyr ynni, yn ôl gwaith ymchwil newydd gan Lais Defnyddwyr, Watching the middlemen. Gwaethygir y problemau y mae microfusnesau2 yn eu hwynebu gan ‘fwlch amddiffyn’, sy’n golygu bod dryswch ynglŷn â [...]
5 Prif Egwyddor ar gyfer Cwsmeriaid Mesuryddion Rhagdalu
Published: 18 March 2011
Mae Llais Defnyddwyr a chwe chyflenwr ynni mwyaf Prydain wedi dod i gytundeb newydd a allai fod o fudd i gwsmeriaid sydd â mesuryddion rhagdalu. Mae’r ‘5 Prif Egwyddor’ y cytunodd y cyflenwyr iddynt yn un cam ymlaen tuag at ddarparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid mesuryddion rhagdalu. Dylent helpu i sicrhau bod trefniadau talu ymlaen [...]
Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr ymddiried yn y Fargen Werdd er mwyn iddi lwyddo
Published: 16 March 2011
Mae Llais Defnyddwyr yn nodi heddiw ddeg cwestiwn allweddol y mae’n rhaid i’r Llywodraeth eu hateb os yw’r Fargen Werdd am wireddu ei huchelgais i ‘chwyldroi’ effeithlonrwydd ynni cartrefi’r DU1. Mae’r corff gwarchod defnyddwyr yn croesawu nod y Fargen Werdd o ostwng ein hallyriadau carbon, lleihau biliau cwsmeriaid a chadw cartrefi defnyddwyr yn gynnes. Fodd [...]
Cyflenwyr ynni yn parhau i golli tir mewn tabl cymharu cwynion
Published: 11 March 2011
Cyhoeddir ail dabl chwarterol Llais Defnyddwyr heddiw, sy’n cymharu cwynion ynglŷn ag ynni. Caiff y ffigurau hyn eu diweddaru’n rheolaidd gan y corff gwarchod defnyddwyr, ar sail y data mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael ynglŷn â chwynion ym maes ynni, ac fe’u cyhoeddir bob tri mis. Cafwyd mwy o gwynion a phroblemau dros y gaeaf, [...]
Angen llais cryfach ar gyfer buddiannau defnyddwyr
Published: 5 March 2011
Gallai defnyddwyr wynebu biliau sylweddol uwch wrth i raglen foderneiddio sylweddol gael ei rhoi ar waith ar gyfer seilwaith gwasanaethau hanfodol y DU yn ystod y degawd nesaf. Gallai rhaglenni buddsoddi eang ym maes ynni, dŵr, y post, y rhwydwaith rheilffyrdd, meysydd awyr a chyfathrebu fod â goblygiadau i gwsmeriaid am genhedlaeth. Cyhoeddodd Llais Defnyddwyr [...]
Corff sy’n hyrwyddo buddiannau defnyddwyr yn galw ar Fanc ‘Clydesdale and Yorkshire’ i unioni cam ar gyfer ei gwsmeriaid morgais
Published: 4 March 2011
Mae Llais Defnyddwyr wedi ysgrifennu at Fanc Clydesdale yn gofyn iddo roi’r gorau i ofyn i gwsmeriaid dalu costau ei gamgymeriadau. Mae’r alwad yn dod ar ôl i’r banc gamgyfrif ad-daliadau ar gyfer 18,000 o ddalwyr morgais, gan godi taliadau misol i adennill y diffyg. Mae’r corff sy’n hyrwyddo buddiannau defnyddwyr yn amcangyfrif y bydd [...]
