Archive for the ‘Cyfieithiad’ Topic

 Corff gwarchod yn nodi’r camau i’w cymryd i sicrhau bod newidiadau i swyddfeydd post yn gweithio’n well i gwsmeriaid

Published: 11 May 2012

Mae Llais Defnyddwyr yn galw am welliannau i fodel newydd Swyddfa’r Post Local (PO Local) er mwyn sicrhau y bydd yn gweithio’n well i gwsmeriaid. Daw’r alwad wrth i’r corff gwarchod gyhoeddi adroddiad newydd – ‘Open all hours’ – sy’n dangos, er bod manteision posibl i’r model newydd, bod problemau heb eu datrys y mae [...]

Topics: , .

read more

 Ymchwil Llais Defnyddwyr yn datgelu dryswch ynghylch Awdurdodau Taliadau Parhaus

Published: 2 May 2012

Mae ymchwil newydd gan Lais Defnyddwyr yn dangos bod cynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid y banciau’n ansicr ynghylch rheolau newydd Awdurdodau Taliadau Parhaus (CPA) a bod perygl eu bod yn rhoi cyngor anghywir i gwsmeriaid. Canfu arolwg siopwyr dirgel fod bron i hanner y cynghorwyr (44%) wedi rhoi cyngor anghywir neu nad oeddent yn gallu rhoi ateb, [...]

Topics: , .

read more

 Mae newid ar y cyd yn gyfle gwirioneddol i sicrhau bod y marchnadoedd yn gweithio, yn ôl Llais Defnyddwyr

Published: 2 May 2012

Gallai newid ar y cyd roi bywyd newydd i farchnadoedd difywyd, sy’n amharod i ymateb, fel ynni, telathrebu a gwasanaethau ariannol, a rhoi bargen well i ddefnyddwyr, yn ôl Llais Defnyddwyr yn ei adroddiad newydd Get it, together.   Nid yw rhoi mwy o wybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr wedi bod yn ddigon i dorri drwy’r [...]

Topics: , .

read more

 Y deyrnas unedig yn y gwaelodion mewn arolwg hawlfraint byd-eang

Published: 23 April 2012

Mae Llais Defnyddwyr, y Glymblaid dros Economi Digidol (Coadec), y Grŵp Hawliau Agored, y Gynghrair Llyfrgelloedd ac Archifau (LACA) a Sefydliad Siartredig Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol (CILIP) yn galw am gyflymu’r broses o ddiwygio cyfraith hawlfraint y DU. Daw’r alwad ar ôl i’r arolwg diweddaraf gan Ddefnyddwyr Rhyngwladol1 ddatgelu bod y DU yn dal [...]

Topics: , .

read more

 Biliau ynni uwch i lawer, er gwaethaf y gaeaf mwyn, yn debygol o wthio mwy o bobl i ddyled- rhybudd gan Lais Defnyddwyr a Chyngor Ar Bopeth

Published: 20 April 2012

 Mae ymchwil newydd gan Lais Defnyddwyr yn dangos bod pedwar o bob 10 o bobl yn dweud bod eu bil ynni am y gaeaf hyd yn oed yn fwy na’r llynedd,1 gyda bron i draean ohonynt yn dweud bod eu bil yn fwy na’r disgwyl.2 Mae hyn er gwaethaf un o’r gaeafau mwynaf ers degawd [...]

Topics: , .

read more

 Gwefan newydd ‘The Digital Engagement Cookbook’ yn cynnig arlwy o ddulliau i rymuso defnyddwyr yn effeithiol

Published: 17 April 2012

Caiff gwefan newydd ei lansio heddiw i helpu awdurdodau lleol, elusennau, manwerthwyr, darparwyr gwasanaethau a grwpiau ymgyrchu, ymhlith eraill, i archwilio’r cyfleoedd newydd a gynigir gan y byd digidol i ymgysylltu â dinasyddion a defnyddwyr a’u grymuso. Yn ogystal â bod yn bwysig i sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac nid er elw, mae [...]

Topics: , .

read more

 Llais Defnyddwyr yn cyhoeddi Cynllun Blynyddol ar gyfer 2012/13

Published: 11 April 2012

Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth ynghylch diwygio eiriolaeth defnyddwyr a ariennir gan gyllid cyhoeddus, mae Llais Defnyddwyr wedi cyhoeddi ei raglen waith ar gyfer 2012/13. Dywedodd Christine Farnish, Cadeirydd Llais Defnyddwyr: ‘Mae hwn wedi bod yn gyfnod ansefydlog i bawb yma yn Llais Defnyddwyr, ac rwy’n falch o’r ffordd y mae staff wedi parhau i gyflawni [...]

Topics: , .

read more

 Rhaid i raglen trawsnewid Swyddfa’r Post ddarparu rhwydwaith lleol dibynadwy a chynaliadwy, meddai Llais Defnyddwyr

Published: 9 March 2012

Gan ymateb i gynlluniau Swyddfa’r Post Cyf. i gael rhaglen trawsnewid rhwydwaith a fydd yn troi 6,000 o ganghennau yn Swyddfeydd Post ‘Lleol’ a ‘Phrif’ Swyddfeydd Post1, meddai Mike O’Connor, Prif Weithredwr Llais Defnyddwyr: ‘Mae angen gosod rhwydwaith Swyddfa’r Post ar dir cadarn ar gyfer y dyfodol, fel ei fod yn gallu parhau i wasanaethau [...]

Topics: , .

read more

 EDF Energy yn aros ar waelod tabl cwynion cwmnïau ynni

Published: 8 March 2012

Mae’r data cwynion diweddaraf am gwmnïau ynni a gasglwyd gan Lais Defnyddwyr ar gyfer y tri mis diwethaf yn dangos gostyngiad bychan cyffredinol yn lefel y cwynion ar draws y diwydiant. Gostyngodd cwynion yn gyffredinol gan 4% ar gyfartaledd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2011. Cafwyd llai o gwynion am bedwar o’r chwe phrif [...]

Topics: , .

read more

 Croeso oeraidd i’r cynllun cymorth ynni Warm Front

Published: 25 January 2012

Mae Llais Defnyddwyr a Gweithredu Ynni Cenedlaethol yn rhybuddio bod cynllun blaenllaw Llywodraeth y DU, i helpu’r aelwydydd tlotaf yn Lloegr i wneud eu cartrefi’n gynhesach a lleihau eu biliau ynni, am wario bron i £30 miliwn yn llai eleni. Mae hyn yn golygu na fydd llawer o bobl hŷn, teuluoedd a phobl sydd â [...]

Topics: , .

read more

Page 1 of 812345...Last »

Social

Twitter RSS Vimeo YouTube Email Newsletter